Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith ar gyfer Gorffennaf 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynllun gweithredu digidol

Os hoffech gael diweddariadau manwl gan ein grŵp defnyddwyr eGaffael, gan gynnwys recordiadau o bob sesiwn, anfonwch e-bost at: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Swyddogaeth cynllunio piblinellau

Mae'r swyddogaeth cynllunio piblinellau newydd bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru. Mae'r biblinell yn caniatáu i sefydliadau gael rhagolwg o’r gweithgareddau masnachol posibl sydd ar y gweill gan awdurdodau contractio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r swyddogaeth newydd, anfonwch e-bost at : Sell2Waleshelp@llyw.cymru

Adnodd mapio polisi

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n profi'r offeryn mapio polisi, a ddyluniwyd ar ffurf holiadur syml i brynwyr. Bydd yr offeryn yn helpu i nodi pa bolisïau sy’n angenrheidiol er mwyn prynu nwyddau neu wasanaethau penodol. Pan fydd y profion wedi'u cwblhau, byddwn yn cynnal peilot gyda nifer fach o ddefnyddwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn llenwi'r holiadur yn seiliedig ar dendr ac yn rhoi adborth ar y canlyniadau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y peilot, anfonwch e-bost at: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru

Cyd

Bydd y dirwedd gaffael yn newid yn fuan, felly sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf drwy fynd i Cyd Cymru, lle gallwch ddod o hyd i weminarau, hyfforddiant a mwy.

Os oes gennych unrhyw astudiaethau achos neu wybodaeth a fyddai'n ddefnyddiol i'w rhannu ar draws y gymuned gaffael cysylltwch â Cyd. Rydym yn chwilio am straeon am heriau, dysgu a llwyddiannau o bob rhan o Gymru, yn ogystal â darnau barn neu gwestiynau mawr a fyddai’n gwneud blogiau difyr.