Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau heddiw (dydd Mercher, 17 Gorffennaf) y cynlluniau fydd ar gael i gefnogi ffermwyr a pherchenogion tir cyn cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn 2026

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mai, cyhoeddwyd amserlen newydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar ffermwyr a chymunedau gwledig.

Bydd y cynllun nawr yn dechrau yn 2026, gan roi mwy o amser I siarad a thrafod gyda prif bartneriaid.

Gan siarad ar drothwy'r Sioe Fawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd 'cyfnod paratoi' 2025 yn cynnwys nifer o gynlluniau i roi cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r SFS.

Ymhlith y Cynlluniau hynny y mae:

  1. Cynllun Cynefin Cymru - yn cael ei gynnig yn 2025 a bydd pob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais.
  2. Cytundebau Tir Comin presennol Cynllun Cynefin Cymru - yn gallu cael eu hestyn ar gyfer 2025.
  3. Y Taliad Cymorth Organig - yn cael ei gadw ar gyfer 2025.
  4. Cyswllt Ffermio - yn cael ei estyn hyd at 2026, gan gadw'r cymorth i helpu ffermwyr i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesiffermydd.
  5. Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd - yn cael ei greu i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr i gael hyd i atebion sy'n seiliedig ar natur ar draws tirwedd, dalgylch neu ar raddfa gyfan Cymru.  Bydd yn parhau'n bont i ffordd newydd o gefnogi ffermwyr a'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud cyn cyflwyno Gweithredoedd Cydweithredol yr SFS.

Yn ogystal â'r pum cynllun hyn, bydd ymarfer cadarnhau data yn cael ei lansio.  Gydag adborth gan y ffermwyr sy'n penderfynu cymryd rhan bydd yr ymarfer yn rhoi darlun cywirach o'r tir cynefin a'r gorchudd coed a welir ar ffermydd. Bydd hyn yn help i baratoi ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru (CCC) 2025 a chyflwyno'r SFS.

Os ydy ffermwyr am wneud cais am CCC 2025, maent yn cael eu hannog i gwblhau'r ymarfer cadarnhau data. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies: 

Bwriad cyhoeddi'r cynlluniau hyn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd yna gymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026.

Rydyn ni'n cydnabod hefyd y bydd y newid o'r BPS yn golygu newid mawr i lawer o ffermwyr, ac felly rydyn ni am helpu, tywys a chynnal ffermwyr Cymru dros gyfnod o flynyddoedd wrth i ni gwblhau a symud tuag at yr SFS.

Byddwn yn dal i wrando ar y sector a chydweithio â hi. Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr yn cynhyrchu'r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir trwy Ford Gron Gweinidogol i lunio'r Cynllun terfynol a rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl. Gan ddibynnu ar faint o arian fydd ar gael, byddwn yn cadarnhau cynlluniau cymorth ychwanegol 2025 yn ddiweddarach eleni.

Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a'r iaith Gymraeg - cynaliadwy ym mhob ystyr y gair.