Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r dystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniad dros ofyn i'r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol adael Llywodraeth Cymru. 

Er mwyn cadarnhau eglurder a chywirdeb y ddadl ynglŷn â'r mater hwn yn y Senedd, credaf ei bod bellach yn iawn imi nodi'r dystiolaeth a arweiniodd at fy mhenderfyniad. Yn benodol, rwyf o'r farn ei bod yn bwysig i integriti Llywodraeth Cymru fod eglurder yn cael ei roi bellach ynglŷn â’r dystiolaeth a gefnogodd y penderfyniad hwnnw. 

Mae cynnal cyfrifoldeb ar y cyd yn rhan annatod o allu'r Cabinet i weithredu'n effeithiol. Rhaid i Weinidogion Cymru allu ystyried a thrafod materion heriol a gwybodaeth sensitif am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion. Mae'n bwysig eu bod nhw - a gweision sifil - yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd dibynadwy a chyfrinachol. 

Mae'r darn cyntaf o dystiolaeth, fel y disgrifiais yn fanwl i'r Senedd ar 10 Gorffennaf, yn llun o ddarn o sgwrs iMessage o fis Awst 2020 rhwng un ar ddeg o Weinidogion Llafur Cymru. Fe anfonwyd y llun hwnnw at Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni yn yr union ffurf rwy'n ei gyhoeddi heddiw gan newyddiadurwr a oedd yn ceisio sylw ar ei gynnwys.

Rydym wedi cyhoeddi’r llun hwn o'r blaen ar ffurf wedi'i golygu, fodd bynnag, mae bellach ar gael i'r Aelodau heb ei olygu.

Mae'r ail yn ddelwedd gyfatebol o'r un sgwrs, a gafodd ei lleoli wedyn ar ffôn un arall o'r cyfranogwyr ar ôl i'r ddelwedd gael ei rhannu â ni. Mae cynnwys llawn y sgwrs hon bellach wedi'i gyflwyno i'r Ymchwiliad COVID. 

Mae'r ddelwedd hon yn dangos bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn aelod o'r sgwrs ar y diwrnod hwnnw. 

Wrth edrych ar sgwrs iMessage ar ddyfais unigolyn, bydd modd gweld llythrennau cyntaf yr holl gyfranogwyr eraill, ar wahân i rai’r cyfranogwr ei hunan.

Drwy groesgyfeirio'r dystiolaeth ynghylch aelodau’r sgwrs yn erbyn y llun o’r sgwrs a gafodd ei rannu â ni gan y newyddiadurwr, daw'n amlwg mai'r unig lythrennau cyntaf sydd ar goll yn y ddelwedd hon yw rhai’r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Mae hefyd yn amlwg bod y ddelwedd wedi'i thynnu yn 2020 a'i chadw cyn i’r datgeliad ddod yn amlwg yn gynharach eleni. 

Y ddau ddarn o dystiolaeth hyn, gyda'i gilydd, yw’r rheswm pam rwyf wedi nodi’n glir wrth y Senedd na all y llun hwn ond fod yn ddelwedd o ffôn y cyn-Weinidog. Gwnes i'r penderfyniad anodd i ofyn i'r cyn-Weinidog adael y Llywodraeth ar sail yr wybodaeth hon a'r diffyg esboniad credadwy. 

Gweinidogion sy'n gyfrifol am ddiogelwch eu data, ac ni waeth sut y daeth y llun i feddiant y newyddiadurwr, ni ddylai'r ddelwedd fod wedi cael ei chymryd, gan arwain fel y gwnaeth at Weinidogion yn colli ymddiriedaeth yn y ffordd y diogelir preifatrwydd eu trafodaethau. Roedd yn arbennig o anodd i gydweithwyr eraill nad oeddent yn gallu bod yn glir nad nhw oedd yn gyfrifol am y datgeliad dan sylw. 

Mae disgwyl i'r Senedd drafod cynnig Adran 37 yn ddiweddarach yr wythnos hon. Er nad wyf yn ystyried y gall y deunydd a gyhoeddir heddiw fod yn ofynnol gan y cynnig hwnnw, er tryloywder ac o ystyried y diddordeb parhaus, rwyf wedi penderfynu ei rannu â’r Aelodau heddiw.

Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y Senedd ar 10 Gorffennaf, ac i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener. Drwy gydol y broses anodd hon, rwyf wedi ceisio diogelu llesiant y cyn-Weinidog, a chynnig unrhyw gymorth parhaus y mae hi'n dymuno ei gael.