Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw ystyr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad?

1. Mae ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad o dan Ddeddf Caffael 2023 (y Ddeddf) yn digwydd cyn cyhoeddi hysbysiad tendro neu hysbysiad tryloywder, ac mae’n helpu awdurdodau contractio a’r farchnad i baratoi ar gyfer y broses gaffael. Mae’r ymgysylltu hwn yn bwysig iawn o dan y Ddeddf, lle mae gan awdurdodau contractio hyblygrwydd sylweddol i ddylunio a theilwra eu gweithdrefnau caffael cystadleuol. Fodd bynnag, rhaid ymgysylltu mewn ffordd nad yw’n rhoi mantais annheg i gyflenwr nac yn ystumio’r gystadleuaeth.

2. Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Diben yr hysbysiad yw gwahodd cyflenwyr i gymryd rhan mewn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad neu roi gwybod i’r farchnad bod yr ymgysylltu hwn wedi digwydd. Gall hysbysiadau helpu i sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb ac i ddenu newydd-ddyfodiaid.

Beth yw’r fframwaith cyfreithiol sy’n rheoli ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad?

3. Mae’r prif ddarpariaethau ynghylch ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn adrannau 16 a 17 o’r Ddeddf.

4. Mae amrywiol ddarpariaethau cyffredinol o dan y Ddeddf hefyd, er enghraifft yr amcanion caffael, gofynion i beidio â gwahaniaethu, a rhwymedigaethau ar gyfer gwrthdaro rhwng buddiannau, sy’n berthnasol i ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad.

Beth sydd wedi newid?

5. Mae’r adrannau hyn yn debyg i’r darpariaethau yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (2015) (PCR) (gweler rheoliadau 40 a 41). Un o’r prif wahaniaethau yw bod rhwymedigaethau ynghylch hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad wedi cael eu hychwanegu.

6. Yn ogystal â hynny, yn wahanol i’r PCR (gweler rheoliad 41(2)) sy’n nodi rhai enghreifftiau o gamau y gallai awdurdod eu cymryd i sicrhau na chaiff y gystadleuaeth ei hystumio, nid oes enghreifftiau penodol yn adrannau 16 a 17 o’r Ddeddf. Fodd bynnag, byddai camau fel rhannu gwybodaeth berthnasol sydd wedi’i chasglu neu ei chyfnewid â chyflenwyr, a phennu terfynau amser priodol ar gyfer derbyn tendrau hefyd yn gamau y gellid eu cymryd o dan y Ddeddf i atal mantais annheg a sicrhau nad yw’r gystadleuaeth yn cael ei hystumio.

Adran 16: Ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad 

7. Mae Adran 16 yn caniatáu i awdurdodau contractio ymgysylltu â’r farchnad, yn rhestru dibenion a ganiateir yr ymgysylltu hwn, ac yn mynnu bod awdurdodau contractio’n cymryd camau i sicrhau nad oes mantais annheg i’r cyflenwyr sy’n cymryd rhan ac nad yw’r gystadleuaeth yn cael ei hystumio mewn unrhyw ffordd arall.

Adran 17: Hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad

8. Nid yw’r Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau contractio’n ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad. Fodd bynnag, mae adran 17 yn mynnu bod awdurdod contractio, os bydd yn ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad, yn gwneud un o’r canlynol:

  1. cyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad cyn cyhoeddi hysbysiad tendro, neu
  2. esbonio, yn yr hysbysiad tendro, pam nad oedd wedi cyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad.

9. Yn dilyn y diwygiadau yn Rheoliadau Caffael 2024 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024, ni fydd yr adran hon yn berthnasol i gyfleustodau preifat.

Prif bwyntiau a bwriad y polisi

10. Amcan y polisi yw annog awdurdodau contractio i drafod â’r farchnad cyn cychwyn proses gaffael. Er nad yw hyn yn orfodol, mae’r wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu yn ystod y cam hwn yn gallu bod yn hynod werthfawr i’r awdurdod contractio wrth iddo egluro ei ofynion, asesu capasiti’r farchnad a datblygu ei strategaeth gaffael.

Pennu beth allai gael ei ystyried yn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad

11. Mae adran 16(1) yn rhestru’r dibenion ymgysylltu a ganiateir. Mae’r rhestr yn eang yn fwriadol er mwyn rhoi hyder i awdurdodau contractio ymgysylltu â’r farchnad ynghylch ystyriaethau masnachol perthnasol a rhesymol cyn cychwyn proses gaffael. Dyma’r dibenion a ganiateir:

  1. datblygu gofynion a dull gweithredu’r awdurdod mewn perthynas â’r broses gaffael
  2. dylunio gweithdrefn, amodau cyfranogiad neu feini prawf dyfarnu
  3. paratoi’r hysbysiad tendro a’r dogfennau tendro cysylltiedig
  4. dnodi cyflenwyr a fydd o bosibl yn gallu cyflenwi’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r gwaith angenrheidiol
  5. nodi telerau tebygol y contract
  6. adeiladu capasiti ymysg cyflenwyr mewn perthynas â’r contract a fydd yn cael ei ddyfarnu.

12. Dylai awdurdodau contractio gofio mai pwrpas a phwnc yr ymgysylltu yw’r hyn a restrir yn adran 16(1), nid ffurf yr ymgysylltu. Felly, dim ots a yw’r awdurdod contractio’n ei ystyried yn ymgysylltu ‘ffurfiol’ ynteu ‘anffurfiol’, os yw ei bwrpas wedi’i restru yn 16(1), dylid ei ystyried yn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad a’i drin yn unol â hynny. Fodd bynnag, dylid cofio na fydd pob ymgysylltiad sy’n cynnwys awdurdodau contractio, cyflenwyr ac eraill yn ymgysylltiad at ddiben 16(1), ac felly na fyddai’n cael ei ddiffinio fel ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad o dan adran 16.

13. Mae ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn adnodd pwysig iawn i sicrhau gwerth am arian. Er enghraifft, mae’n caniatáu i awdurdodau contractio nodi gwahaniaethau rhwng cyflenwyr sy’n ei gwneud yn bosibl nodi meysydd addas ar gyfer negodi, deialog neu brofi/arddangos fel rhan o weithdrefn hyblyg, gystadleuol. Hefyd, dylai awdurdodau contractio, lle bo’n berthnasol, ddefnyddio ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i gynyddu’r ddealltwriaeth o sut dylid pennu gofynion er mwyn lleihau costau’r cylch oes cyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar bris prynu cychwynnol y contract.

Paratoi ar gyfer ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad

14. Bydd angen i awdurdodau contractio ystyried pwrpas a fformat yr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Mae’r ymgysylltu yn debygol o fod yn fwy effeithiol os yw awdurdodau contractio’n gwybod pwrpas a chanlyniadau dymunol yr ymgysylltu, ac yn eu mynegi’n glir i gyflenwyr. Gallai’r fformat gynnwys mwy nag un math neu gyfuniadau o ymgysylltu, fel cyflwyniadau wyneb yn wyneb, gweminarau, gweithdai, ymweliadau safle, cyfarfodydd un-i-un, neu wahoddiad syml i ddarpar gyflenwyr gysylltu. Mae’n bwysig bod awdurdodau contractio’n ystyried adnoddau’r farchnad, yn ogystal ag amser a chost ymgysylltu. Er enghraifft, gallai’r gofyniad yn yr amcanion caffael i ystyried y rhwystrau gallai busnesau bach a chanolig eu hwynebu, ac i ystyried a ellir dileu neu leihau’r rhwystrau hyn, effeithio ar y dull o ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad. Yn ogystal â chynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, gall cynnal sesiynau recordio neu weminarau digidol helpu i wneud yr ymgysylltu’n fwy hygyrch. Rhaid cynnwys manylion am fformat y digwyddiad yn yr hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, a allai gynnwys y pwrpas (neu wybodaeth arall) hefyd.

15. Gall awdurdodau contractio ddefnyddio ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i gynyddu’r gystadleuaeth a chynyddu amrywiaeth cyflenwyr yn y broses gaffael. Er enghraifft, mae cynnal digwyddiadau i helpu cyflenwyr i ddeall y broses ymgeisio ac am beth mae’r awdurdod contractio’n chwilio mewn tendr yn gallu bod yn ddefnyddiol i gyflenwyr newydd a busnesau bach a chanolig. Yn wir, dylai ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyflenwyr wella’r broses gaffael. Mae hefyd yn bwysig nad yw ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o deilwra proses gaffael i gyflenwr penodol.

16. Gall awdurdodau contractio ymgysylltu ag unrhyw un sy’n mynegi diddordeb mewn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Ond gall awdurdod contractio hefyd nodi yn yr hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sut bydd y niferoedd yn cael ei lleihau; er enghraifft os oes gormod o ymatebwyr. Serch hynny, bydd awdurdodau contractio’n dal yn gorfod cydymffurfio â’u rhwymedigaethau yn adran 16 awdurdod contractio ac â’r dyletswyddau cyffredinol o dan y Ddeddf, gan gynnwys y rhai yn adran 12.

17. Mae’r rhwymedigaethau ar gyfer gwrthdaro rhwng buddiannau yn Rhan 5 o’r Ddeddf yn berthnasol wrth ystyried ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i awdurdodau contractio gymryd pob cam rhesymol i nodi a lliniaru unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau, neu wrthdaro posibl rhwng buddiannau. Hefyd, cyn cyhoeddi hysbysiad tendro neu hysbysiad tryloywder, rhaid i’r awdurdod contractio baratoi asesiad gwrthdaro mewn perthynas â’r broses gaffael. Mae rhagor o wybodaeth yn y canllawiau ar wrthdaro rhwng buddiannau.

Camau i sicrhau nad oes mantais annheg i gyflenwr a/neu i osgoi ystumio’r gystadleuaeth

18. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau contractio’n cymryd camau i sicrhau nad oes mantais annheg i gyflenwyr sy’n cymryd rhan yn yr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ac nad yw’r gystadleuaeth o ran dyfarnu’r contract yn cael ei hystumio mewn unrhyw ffordd arall. Dylai awdurdodau contractio ystyried sut byddant yn bodloni’r gofyniad hwn cyn dechrau ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad. Os bydd awdurdod contractio’n credu bod cyfranogiad cyflenwr yn yr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad wedi rhoi mantais annheg i’r cyflenwr hwnnw mewn perthynas â dyfarnu’r contract, ac na ellir osgoi’r fantais, rhaid gwahardd y cyflenwr o’r broses gaffael.

19.  Dylai awdurdod contractio gadw cofnod o’r wybodaeth y mae wedi’i rhannu a’i chasglu fel rhan o ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Gall hyn helpu i sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn cael ei hystyried yn y broses gaffael. Gellir rhannu’r wybodaeth â phartïon eraill hefyd, a’i defnyddio i sicrhau nad oes mantais annheg i gyflenwyr sy’n cymryd rhan. Yn dibynnu ar natur y wybodaeth sy’n cael ei rhannu a’i chasglu, yr arfer gorau fyddai cynnwys unrhyw wybodaeth o’r fath a/neu ganlyniadau’r ymgysylltu yn yr hysbysiad tendro neu ddogfennau’r tendr. I helpu i wneud hyn, dylai awdurdodau contractio ystyried ymlaen llaw sut byddant yn trin unrhyw wybodaeth gyfrinachol, gan gynnwys eiddo deallusol. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am yr awdurdod contractio, am gyflenwr presennol, neu am sefydliadau sy’n rhan o’r ymgysylltu.

20. Efallai y bydd awdurdodau contractio’n gallu defnyddio ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i’w helpu i gydymffurfio â’u dyletswydd i ystyried a ellir dileu neu leihau unrhyw rwystrau penodol sy’n atal busnesau bach a chanolig rhag cymryd rhan (dyma un o’r amcanion caffael yn adran 12 o’r Ddeddf). Caniateir sesiynau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sy’n canolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig a newydd-ddyfodiaid, ar yr amod nad yw hyn yn rhoi mantais annheg i’r cyflenwyr penodol hynny nac yn ystumio’r gystadleuaeth. Rhaid i ymgysylltu o’r fath gydymffurfio ag amcanion caffael eraill hefyd, fel rhannu gwybodaeth a gweithredu’n ddidwyll.

21. Os bydd awdurdodau contractio’n ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad, nid oes yn rhaid iddynt fwrw ymlaen â’r broses gaffael dan sylw ac os nad oes hysbysiad tendro neu hysbysiad tryloywder wedi cael ei gyhoeddi, nid oes angen hysbysiad terfynu proses gaffael. Fodd bynnag, er nad oes angen hysbysiad o’r fath, mae cofnodi’r rhesymau dros beidio â bwrw ymlaen â phroses gaffael yn arfer gorau, a gellir defnyddio hysbysiad terfynu proses gaffael yn wirfoddol i nodi na fydd proses gaffael benodol a nodir mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn mynd yn ei blaen.

Cyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad

22. Dylai cyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad fod yn arfer safonol pan nodir y bydd ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad o fudd i’r broses gaffael ac mai ymgysylltu yw’r bwriad. Bydd angen cyfiawnhau’r penderfyniad i ymgysylltu â’r farchnad heb ddefnyddio hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn yr hysbysiad tendro, a bydd angen i awdurdodau contractio ystyried yr amcanion yn adran 12, y gofynion i beidio â gwahaniaethu, a rhwymedigaethau ar gyfer gwrthdaro rhwng buddiannau. Mae hyn yn golygu nad oes rhyddid llwyr i benderfynu peidio â defnyddio hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar gyfer proses gaffael berthnasol pan fydd awdurdod contractio’n bwriadu ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad neu wedi gwneud hynny.

23. Os nad yw’r awdurdod contractio wedi ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad o gwbl, nid oes gofyniad o dan y Ddeddf i gyhoeddi’r rheswm am hynny yn yr hysbysiad tendro.

24. Mae adran 17(2) a rheoliad 18 yn nodi’r cynnwys gofynnol mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Nid oes amserlen benodol ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Fodd bynnag, os defnyddir hysbysiad i wahodd cyflenwyr i ddigwyddiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, o ystyried y dyletswyddau o dan adran 12 mae’n syniad da rhoi digon o amser paratoi i’r rhai a allai fod yn awyddus i gymryd rhan. Dylai’r cyfnod paratoi fod yn gymesur â natur yr ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Gall y cyfnod amrywio yn dibynnu ar, er enghraifft, gymhlethdod y farchnad a’r math o ymgysylltu dan sylw. Er enghraifft, weithiau bydd angen rhoi amser i gyfranogwyr ddarllen dogfennau cefndir a pharatoi cwestiynau/adborth cyn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Droeon eraill, efallai mai dim ond mynd i gyfarfod i drafod gofynion yr awdurdod contractio fydd angen (a dim gwaith paratoi).

25. Gall awdurdodau contractio hefyd ddefnyddio hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad i ddatgan bod ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad wedi digwydd eisoes (er enghraifft gyda grŵp dethol o gyflenwyr) ac i ddarparu manylion am y broses ymgysylltu. Yn y sefyllfa hon, gellir defnyddio’r hysbysiad i rannu canlyniadau’r ymgysylltu a sicrhau bod cynulleidfa ehangach yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am safbwyntiau’r awdurdod contractio. Byddai hyn yn cefnogi amcanion adran 12 ac yn sicrhau bod pob cyflenwr yn cael yr un wybodaeth. Gall yr hysbysiad dynnu sylw at gyfleoedd ymgysylltu ychwanegol yn y dyfodol hefyd.

26. Yn ystod y cam hwn yn y broses, pan fydd awdurdod contractio’n llenwi’r maes ‘pwnc y contract’ yn yr hysbysiad, efallai y bydd yn gallu ei ddisgrifio mewn termau cyffredinol neu ddarparu amcangyfrifon lefel uchel yn unig. Nid oes yn rhaid i’r gofynion mewn hysbysiadau dilynol sy’n ymwneud â’r broses gaffael gyfateb yn union i’r wybodaeth/amcangyfrifon yn yr hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. O ystyried mai pwrpas ymgysylltu yw helpu’r awdurdod contractio i ddatblygu ei ofynion, efallai y bydd y rhain yn cael eu haddasu yn dibynnu ar ganlyniadau’r ymgysylltu rhagarweiniol.

 Ymgysylltu Rhagarweiniol â’r Farchnad ar y Cyd

27. Gall awdurdodau contractio ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad ar y cyd. Os felly, gall ‘awdurdod arweiniol’ gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar ran yr holl awdurdodau contractio a gellir cynnwys eu holl brosesau caffael mewn un hysbysiad. Pan fydd yr awdurdodau contractio’n cyhoeddi eu hysbysiadau tendro, byddant yn gallu nodi yn eu hysbysiadau eu bod yn dibynnu ar hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yr awdurdod contractio arweiniol fel cyfiawnhad dros beidio â chyhoeddi eu hysbysiad eu hunain.

Ymgysylltu heb gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad

28. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdod contractio ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad heb hysbysiad, ar yr amod ei fod yn nodi ei resymau am hynny yn yr hysbysiad tendro. Hefyd, bydd awdurdodau contractio’n dal yn gorfod cydymffurfio â’r darpariaethau yn adran 16 o ran sut mae ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad; er enghraifft y rhwymedigaeth i gymryd camau i osgoi mantais annheg ac ystumio’r gystadleuaeth. Rhaid i awdurdod contractio ystyried dyletswyddau cyffredinol y Ddeddf (fel y rhai yn adran 12) hefyd wrth wneud y penderfyniad hwn i beidio â chyhoeddi.

29. Mae’r opsiwn i ganiatáu i awdurdod contractio beidio â chyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, ar yr amod bod yr awdurdod yn nodi ei resymau yn ei hysbysiad tendro, wedi cael ei gynnig i ddarparu ar gyfer nifer cyfyngedig o amgylchiadau, yn ôl y disgwyliadau. Er y bydd yn benodol o ran ffeithiau bob amser, enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gallai hyn fod yn wir yw gorfod cadw’r ymgysylltu’n gyfrinachol am resymau diogelwch gwladol, neu os oes amgylchiadau arbennig, er enghraifft oherwydd bod risg uchel o fethiant gwasanaeth difrifol os na fydd y broses gaffael yn datblygu’n gyflym.

30. Oherwydd y bydd y rhesymau dros beidio â chyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn cael eu hamlinellu yn yr hysbysiad tendro, bydd unrhyw bartïon sydd â diddordeb yn gallu codi pryderon â’r awdurdod contractio.

Ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar gyfer prosesau caffael perthnasol nad oes angen hysbysiad tendro ar eu cyfer

31. Er bod y rhwymedigaethau sydd wedi’u hamlinellu yn adran 16 yn gysylltiedig â chyhoeddi hysbysiad tendro, nid yw adran 16 yn atal awdurdod contractio rhag ymgysylltu â chyflenwyr fel y bo’n briodol cyn cychwyn proses gaffael nad oes angen hysbysiad tendro ar ei chyfer. Er enghraifft, mewn perthynas â chontractau sy’n cael eu dyfarnu o dan fframweithiau neu ddyfarniadau uniongyrchol. Yn yr un modd, nid yw awdurdod contractio sy’n sefydlu marchnad ddeinamig wedi’i atal rhag ymgysylltu â’r farchnad cyn cyhoeddi hysbysiad marchnad ddeinamig.

32. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad fel y diffinnir yn adran 16(1) ac ni fydd rhai o’r dibenion a nodir yn adran 16(1) yn berthnasol, fel yn achos fframweithiau lle, er enghraifft, bydd y meini prawf dyfarnu wedi’u hamlinellu yn y fframwaith.

33. Os bydd awdurdodau contractio’n ymgysylltu â’r farchnad yn yr amgylchiadau hyn, rhaid cydymffurfio â’r gofynion perthnasol eraill yn y Ddeddf, fel yr amcanion caffael yn adran 12.

34. Yn yr amgylchiadau hyn, gall awdurdod contractio ddewis hysbysu’r farchnad am ymgysylltu drwy hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, ond eto, nid oes gofyniad i wneud hyn o dan y Ddeddf.

Contractau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy

35. Nid yw’r rhwymedigaethau yn adrannau 16 a 17 yn berthnasol i gontractau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy. Eto, gall awdurdod contractio gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar gyfer contractau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy, ond nid oes yn rhaid iddynt. Nid oes gofyniad chwaith i esbonio’r rhesymau dros beidio â chyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad mewn hysbysiad tendro ar gyfer contract nad yw’n cyrraedd y trothwy.

Cyfleustodau preifat

36. Caiff cyfleustodau preifat eu hannog i gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad pan fyddant yn bwriadu ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad neu wedi gwneud hynny, ond pan fyddant yn penderfynu peidio â gwneud hynny, nid oes yn rhaid iddynt esbonio hyn yn yr hysbysiad tendro.

Pa hysbysiadau sy’n gysylltiedig â’r agwedd hon ar y drefn?

37. Mae natur yr hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn golygu ei fod yn cael ei gyhoeddi’n fuan yn y gyfres o hysbysiadau y darperir ar eu cyfer o dan y Ddeddf. Bydd wedi’i ragflaenu gan hysbysiad piblinell fel arfer ond byddai modd ei gyhoeddi fel yr hysbysiad cyntaf yn y gyfres (os nad yw’r broses gaffael yn cael ei chyhoeddi yn hysbysiad piblinell yr awdurdod contractio neu os yw’r ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn digwydd cyn i’r awdurdod contractio benderfynu bwrw ymlaen â’r broses gaffael a chyhoeddi hysbysiad piblinell). Gallai ddilyn yr hysbysiad caffael wedi’i gynllunio hefyd.

38. Un o’r canlynol fydd yr hysbysiad nesaf yn y gyfres ar ôl yr hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad:

  1. hysbysiad piblinell – i gyhoeddi’r prosesau caffael unigol sy’n rhan o biblinell.
  2. hysbysiad caffael wedi’i gynllunio – i roi gwybod ymlaen llaw am y broses gaffael a manteisio ar amserlenni byrrach o bosibl.
  3. hysbysiad tendro – i hysbysebu’r cyfle i dendro. Fel y nodir uchod, os bydd awdurdod contractio’n ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ond na chaiff hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ei gyhoeddi, mae’n rhaid esbonio’r diffyg cyhoeddiad yn yr hysbysiad tendro.
  4. hysbysiad tryloywder – i’w defnyddio pan fydd dyfarniad uniongyrchol yn cael ei wneud.
  5. hysbysiad terfynu proses gaffael – gellir ei ddefnyddio’n wirfoddol i ddangos na fydd proses gaffael benodol a nodwyd mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn mynd yn ei blaen.

39. Wrth gyhoeddi’r hysbysiad nesaf yn y gyfres, rhaid i awdurdodau contractio sicrhau eu bod yn cyfeirio’n ôl at yr hysbysiad cychwynnol. Mae rhagor o ganllawiau ar gyfresi hysbysiadau a siartiau llif ar Lwyfan Digidol Cymru.

Pa ganllawiau eraill sy’n berthnasol i’r pwnc hwn?

  • Canllawiau ar gyfresi hysbysiadau a siartiau llif
  • Canllawiau ar amcanion prosesau caffael perthnasol
  • Canllawiau ar dendro cystadleuol
  • Canllawiau ar ddyfarnu’n uniongyrchol
  • Canllawiau ar wrthdaro rhwng buddiannau
  • Canllawiau ar Lwyfan Digidol Cymru

WG50130