Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn rhoi crynodeb misol o ddata perfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hwy yn cael eu harchwilio yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.

Yn sgil yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar lefelau perfformiad a gweithgarwch y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Mae’r cynllun hwn yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros ar gyfer pobl yng Nghymru. Mae’r mesuriadau perfformiad hyn yn erbyn yr uchelgeisiau hyn wedi’u hymgorffori gennym yn y datganiad ystadegol hwn ac ar StatsCymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu darparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) oni nodir yn wahanol. Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar ein gwefan StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ym mis Mehefin, gwnaethpwyd ychydig o dan 79,300 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, sef gostyngiad o tua 13,700 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. Cafodd ychydig o dan 63,400 o’r galwadau hyn (80.0%) eu hateb. Cafwyd ychydig o dan 411,700 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru hefyd, a llenwyd ychydig dros 12,700 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru).

Ym mis Mehefin, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 5,127 o alwadau coch (bywyd yn y fantol), sef 14.7% o’r holl alwadau. Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 171 o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol – 6 yn fwy nag ym mis Mai, a dyma’r ail ffigur uchaf ar gofnod. 

Cafodd 46.5% o alwadau coch ymateb brys o fewn wyth munud. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mai. Dim ond o fis Mai 2019 ymlaen y gellir cymharu data ar gyfer galwadau coch.

Ar gyfartaledd bob dydd, cafwyd 3,166 o ymweliadau ag adrannau brys, sy’n is o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y perfformiad wedi gwaethygu o’i gymharu â’r targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwella o’i gymharu â’r targed o ddeuddeg awr. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) a gafodd ei dreulio mewn adrannau brys wedi cynyddu ym mis Mehefin o’i gymharu â’r mis blaenorol, i ddwy awr a phedwar deg pum munud.

Mae’r pandemig wedi achosi cynnydd mawr mewn llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Ym mis Mai, cynyddodd y nifer o ychydig dros 775,000 i ychydig dros 787,900, sef y ffigur uchaf ar gofnod. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu mai’r sefyllfa ym mis Mai, pan oedd tua 787,900 o lwybrau cleifion ar agor, oedd bod tua 611,500 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru, sef y ffigur uchaf ar gofnod.

Roedd cyfran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi gostwng i 54.8% ym mis Mai. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog ar ôl disgyn yn sylweddol o’r lefelau cyn y pandemig. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu ym mis Mai, i ychydig dros 265,200, y trydydd ffigur uchaf ar gofnod. 

Roedd ychydig o dan 22,500 o lwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, dwy ran o dair (68.1%) yn is na’r ffigur uchaf ond yr ail gynnydd ers y mis blaenorol ar ôl gostwng am bedwar mis ar hugain yn olynol. Roedd yr amser cyfartalog (canolrifol) yr oedd llwybrau cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Ebrill 0.5 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, ar 21.5 wythnos.

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, gyda’r ‘rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith a oedd yn cael eu cydnabod fel rhai eithriadol o heriol hyd yn oed cyn y pandemig. Ni chyrhaeddwyd y targed ym mis Mawrth 2023 ac ym mis Mai roedd 17 o arbenigeddau eraill â llwybrau’n aros mwy na dwy flynedd, sef 3,072 o lwybrau, sy’n gynnydd o 174 o’i gymharu â’r mis diwethaf.

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 707,300 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 22 o lwybrau (nid cleifion) am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, y ffigur ym mis Mai oedd 13 o lwybrau am bob 100 o bobl.

Roedd llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu i 70,300, sydd 31.5% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio i ddileu’r rhain erbyn diwedd 2022.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gostyngodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig o dan 111,700 ym mis Mai. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig o dan 40,400. Dyma’r ail ffigur isaf ers mis Ebrill 2020. Ar gyfer therapïau, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig o dan 57,300 o therapïau yn aros ym mis Mai. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi cynyddu i ychydig dros 5,800. Ni chyrhaeddwyd y targedau adfer gofal wedi’i gynllunio, i ddileu amseroedd aros o fwy nag 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig ac 14 wythnos ar gyfer therapïau erbyn Gwanwyn (Mawrth) 2024.

Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd 1,800 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Mai, yr un nifer ag yn y mis blaenorol. Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arno wedi codi i 14,251. Roedd y perfformiad wedi cynyddu o’i gymharu â’r targed o 62 diwrnod ym mis Mai, i 55.4%, o’i gymharu â 53.8% yn y mis blaenorol.

Gofal heb ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal heb ei drefnu ar gyfer mis Mehefin 2024.

Galwadau i wasanaeth 111

Ar 16 Mawrth 2022, cafodd gwasanaeth llinell gymorth 111 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ei gyflwyno ledled Cymru.

Gweithgaredd

Ffigur 1: Galwadau a dderbyniwyd a galwadau a atebwyd yng ngwasanaeth 111 y GIG

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Roedd siart linell yn dangos nifer y galwadau a dderbyniwyd gan y gwasanaeth 111 wedi bod yn gymharol sefydlog yn ystod 2023 ond mae wedi dechrau cynyddu yn 2024. Bu gostyngiad yn nifer y galwadau a atebwyd o fewn 60 eiliad yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Gweithgarwch gwasanaeth 111 yng Nghymru, yn ôl dyddiad a mesur, ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, gwnaethpwyd 79,282 o alwadau i wasanaeth llinell gymorth 111, gostyngiad o tua 13,700 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol. Atebwyd ychydig o dan 63,400 (80.0%) o’r galwadau hyn, sef cyfartaledd o ychydig mwy na 2,100 o alwadau'r dydd. 

Cafodd amcangyfrif o 15,889 (20.0%) o alwadau eraill eu terfynu gan y galwr cyn cael eu hateb. O’r rhain, cafodd 6,422 eu terfynu o fewn 60 eiliad i’r negeseuon awtomatig, gan awgrymu bod eu hanghenion yn debygol o fod wedi cael eu diwallu. 

Cafodd ychydig o dan 9,500 o alwadau eu gadael ar ôl 60 eiliad ac ystyrir y rhain yn alwyr yr oedd yn fwy tebygol bod dal angen gwasanaeth arnynt ar ôl y negeseuon ond nad oeddent wedi gallu mynd drwodd neu eu bod wedi penderfynu peidio ag aros. 

O'r galwadau a atebwyd, nododd 1,616 o alwyr eu bod yn dymuno siarad Cymraeg ar yr alwad. 

Cafwyd ychydig o dan 411,700 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru, a llenwyd ychydig dros 12,700 o holiaduron symptomau (GIG 111 Cymru) ym mis Mehefin.

Galwadau brys i'r gwasanaeth ambiwlans

Mae amrywiaeth ehangach o ddangosyddion ansawdd ambiwlansys yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru a gwefan Pwyllgor Cydgomisiynu NHS Cymru 

Mae galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys).

Gweithgaredd

Ffigur 2: Nifer cyfartalog y galwadau ambiwlans brys bob dydd, yn ôl math o alwad a mis, Mehefin 2019 i Mehefin 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Galwad ambr yw’r alwad fwyaf cyffredin ac mae nifer y galwadau coch yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Galwadau ambiwlans brys ac ymatebion i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Roedd diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ym mis Mehefin, gwnaethpwyd ychydig o dan 34,800 o alwadau brys i’r gwasanaethau ambiwlans. Roedd hyn yn gyfartaledd o 1,159 o alwadau'r dydd, sef 23 galwad y dydd ar gyfartaledd yn llai na'r mis blaenorol, ond 17 (1.5%) yn fwy o alwadau'r dydd na’r un mis y llynedd.

Ar gyfartaledd, roedd 171 o alwadau coch y dydd yn cael eu gwneud bob dydd ym mis Mehefin, sef 6 yn fwy na’r mis blaenorol a'r ail uchaf ar gofnod.

Ym mis Mehefin, roedd cyfran yr holl alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn 14.7%, 0.8 pwynt canran yn uwch nag ym mis Mai, a’r uchaf ar gofnod.

Perfformiad

Targed
  • Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
Ffigur 3: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, Mehefin 2019 i Mehefin 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod y perfformiad ar gyfer galwadau ymateb brys wedi gostwng dros y tymor hir. Mae’r perfformiad yn parhau i fod yn is na’r targed o 65%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Ffigur 4: Canran y galwadau coch a oedd wedi cael ymateb brys yn y fan a’r lle o fewn 8 munud, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Mehefin 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos bod y perfformiad yn is na’r lefel darged ar gyfer galwadau ymateb brys ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymatebion brys: perfformiad fesul munud i alwadau coch, fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ym mis Mehefin, cyrhaeddwyd 46.5% o’r ymatebion brys i alwadau (coch) lle mae bywyd yn y fantol o fewn 8 munud ar ôl pennu lleoliad y claf a’r brif gŵyn. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, ond y trydydd isaf ar gofnod. 

Ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol, roedd y gyfran uchaf o alwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud i’w gweld yn Aneurin Bevan (52.3%), a’r isaf yng Nghwm Taf Morgannwg (37.3%).

Mae cyfran y galwadau coch yr ymatebwyd iddynt o fewn 8 munud wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf o’r ffigur uchaf o 80% yn 2017, ond dros yr un cyfnod mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y galwadau coch a dderbyniwyd. Er enghraifft, yn y deuddeg mis diwethaf roedd tua 56,000 o alwadau coch, mwy na dwywaith cymaint ag yn 2017 (22,000). Mae’r cynnydd cyffredinol yn y galw yn adlewyrchu dau beth i raddau helaeth; newidiadau yn y ffordd yr ymdrinnir â rhai galwadau, gan fod rhai galwadau a arferai gael eu categoreiddio fel galwadau ambr bellach yn cael eu categoreiddio fel rhai coch; a chynnydd mawr mewn cyflyrau anadlol yn ystod gaeafau diweddar. 

Ar wahân i’r galw, gall oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai effeithio ar berfformiad hefyd, pan nad yw criwiau ambiwlans yn gallu ymateb i alwadau newydd wrth aros i drosglwyddo cleifion i adrannau brys. Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn oedi wrth drosglwyddo yn y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy na phedair gwaith yn fwy o oriau’n cael eu colli yn ystod y deuddeg mis diwethaf o’i gymharu ag yn 2017. Ym mis Mai, collwyd tua 22,000 o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo. Mae rhagor o ddata am oedi wrth drosglwyddo ar gael ar ddangosfwrdd Dangosyddion Gwasanaeth Ambiwlans y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Roedd yr amser ymateb canolrifol yn y pedair blynedd cyn y pandemig yn amrywio rhwng 4 munud 30 eiliad a 6 munud ar gyfer galwadau coch. Ym mis Mehefin, yr amser ymateb cyfartalog (canolrifol) i alwadau ‘coch’ lle’r oedd bywyd yn y fantol oedd 8 munud a 33 eiliad. Roedd hyn 4 eiliad yn gynt nag yn y mis blaenorol, ond munud ac 18 eiliad yn arafach nag ym mis Mehefin 2023.

Mae’r rhan fwyaf o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel galwadau ‘ambr’, ac nid oes targed perfformiad ar gyfer amseroedd ymateb galwadau. Ym mis Mehefin, yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau ambr oedd 1 awr 37 munud a 12 eiliad. Roedd hyn ychydig o dan 1 munud yn gyflymach nag ym mis Mai, ond ychydig dros 36 munud yn arafach nag ym mis Mehefin 2023.

Ymweliadau ag adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty

Mae ystod ehangach o ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol, fel gwybodaeth reoli.

Gweithgaredd

Ffigur 5: Nifer gyfartalog yr ymweliadau ag adrannau damweiniau, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys mawr, Mehefin 2019 i Mehefin 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos ymweliadau ag adrannau achosion brys, sydd fel arfer yn uwch yn ystod misoedd yr haf na’r gaeaf, ond sydd fel arall yn aros yn gymharol sefydlog. Cafwyd gostyngiad yn nifer yr ymweliadau yn ystod pandemig COVID-19.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys GIG Cymru, fesul band oedran, rhyw a safle, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r Siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Mehefin, cafwyd ychydig o dan 95,000 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,166 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 50 yn llai bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol.

Ym mis Mehefin, derbyniwyd ychydig o dan 14,500 o gleifion i’r un ysbyty neu i ysbyty gwahanol ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 5.6% yn is na’r mis blaenorol a 3.7% yn is na’r un mis yn 2023.

Perfformiad
Targedau
  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 6: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, Mehefin 2019 i Mehefin 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau brys wedi gostwng yn ystod pandemig y coronafeirws, a bod y canran hynny wedi sefydlogi ar y cyfan ers 2021.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 7: Canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Mehefin 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos bod y perfformiad yn is na’r targed perfformiad 4 awr ar gyfer adrannau brys ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn targed 4 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru.

Ym mis Mehefin, roedd 68.9% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn 0.8 pwynt canran yn is na’r mis blaenorol, ac mae’n parhau yn gymharol isel mewn cyd-destun hanesyddol. 

Bwrdd Iechyd Bae Abertawe welodd y gyfran uchaf yn treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys (77.5%), a Chaerdydd a’r Fro welodd y gyfran isaf (62.6%).

Yn 2019, yr amser canolrifol a dreuliwyd mewn adran achosion brys oedd tua 2 awr 30 munud. Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd yr amser canolrifol sy’n cael ei dreulio yn yr adran wedi gostwng, i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae'r amseroedd canolrifol wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf ar gofnod, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022. Yn y data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin, yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 45 munud, sef 4 munud yn arafach na’r mis blaenorol.

Mae’r amser canolrifol sy’n cael ei dreulio mewn adran achosion brys yn amrywio yn ôl oedran. Cyn y pandemig, roedd plant (rhwng 0 a 4 oed) yn treulio rhwng 1 awr a 30 munud a 2 awr mewn adrannau achosion brys, ac roedd cleifion hŷn (85 oed a hŷn) yn treulio rhwng 3 awr a 30 munud a 5 awr. 

Ym mis Mehefin, roedd plant (0-4 oed) yn treulio 2 awr ac 8 munud ar gyfartaledd mewn adrannau brys. Roedd oedolion 85 oed a hŷn yn treulio 5 awr ac 23 munud ar gyfartaledd mewn adrannau brys.

Ffigur 8: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys y GIG, Mehefin 2019 i Mehefin 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell yn dangos nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau brys, a oedd wedi gostwng yn sydyn yn ystod cyfnod cychwynnol y coronafeirws. Gwelwyd ychydig o ostyngiad yn ddiweddar, ar ôl tuedd hirdymor am i fyny.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty, ar StatsCymru

Ffigur 9: Cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau brys y GIG, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Mehefin 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart far yn dangos bod cleifion yn aros mwy na 12 awr ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Perfformiad yn erbyn y targed 12 awr fesul ysbyty ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Mehefin, roedd 9,989 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 525 (5.0%) yn llai na’r mis blaenorol. Wedi ei addasu yn ôl ymweliadau, roedd mwy o gleifion yn aros mwy na 12 awr ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (1,424) nag yn unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall. Roedd y ffigur isaf ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro (780). Heb addasu yn ôl ymweliadau, roedd y nifer uchaf ac isaf o gleifion a oedd yn aros mwy na 12 awr hefyd ym Metsi Cadwaladr (3,136) a Chaerdydd a’r Fro (933).

Gofal wedi ei drefnu

Darperir data newydd yn ymwneud â gofal wedi’i drefnu ar gyfer mis Mai 2024. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Atgyfeiriadau ac apwyntiadau cleifion allanol

Gweithgaredd

Ffigur 10: Atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Mai 2019 i Mai 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny. Yn dilyn gostyngiad mawr mewn atgyfeiriadau ym mis Chwefror 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae atgyfeiriadau cleifion allanol wedi cynyddu’n raddol yn uwch na chyn y pandemig.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau fesul bwrdd iechyd lleol a mis, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, roedd 4,399 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi’u gwneud bob dydd ym mis Mai 2024. Mae hyn yn ostyngiad o 3.1% (139 yn llai o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ebrill 2024, ond mae'n 4.6% o gynnydd o’i gymharu â mis Mai 2023.

Perfformiad

Targedau

Ffigur 11: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Mai 2019 i Mai 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws cyn haneru i tua 50,000. Mae’r ffigur wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ar StatsCymru

Ffigur 12: Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, wedi’i addasu yn ôl maint y boblogaeth. Roedd hyn ar ei uchaf ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac ar ei isaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, lle nad oes llwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf bellach.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cynllun adfer COVID-19, uchelgeisiau ar gyfer amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Mai, roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu 8.0%, o’i gymharu â’r mis blaenorol, i 70,300. Ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer adfer gofal wedi ei gynllunio, ond mae wedi gostwng 31.5% ers y lefel uchaf a gyrhaeddwyd ym mis Awst 2022.

Ymysg y Byrddau Iechyd Lleol, roedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghwm Taf Morgannwg (3,510) a’r isaf ym Mae Abertawe, lle nad oes unrhyw lwybr yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf erbyn hyn.

Amseroedd aros diagnostig a therapi

Gweithgaredd

Ffigur 13: Llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Mai 2019 i Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell yn dangos cynnydd tymor hir yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig, gan gynnwys cynnydd sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws, a nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau therapi sydd wedi gweld tuedd hirdymor am i fyny hefyd.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r isafbwynt ym mis Ebrill 2020 ar gyfer therapïau wedi digwydd yn rhannol oherwydd nad oedd Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno data ar gyfer y mis hwn, gweler yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth. 

Sylwch fod newidiadau i’r ffordd y mae’r data’n cael eu casglu wedi effeithio ar ffigurau mis Ebrill 2024 ar gyfer llwybrau therapïau. Yn benodol, nid yw llwybrau awdioleg (sydd bellach yn cael ei adrodd ar wahân ar StatsCymru) a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach. Darparwyd rhagor o fanylion am hyn yn y datganiad y mis diwethaf.

Ym mis Mai, roedd ychydig o dan 57,300 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau. Roedd hyn 1.7% yn uwch na’r mis blaenorol. 

Ym mis Mai, roedd ychydig o dan 111,700 o lwybrau cleifion yn aros am wasanaethau diagnostig. Roedd hyn 3.3% yn uwch na’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau
  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio roi Gwanwyn 2024 yn ddyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 14: Llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, Mai 2019 i Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell yn dangos cynnydd mawr yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros dros 8 wythnos am wasanaethau diagnostig ar ddechrau pandemig y coronafeirws, cyn gostwng drwy gydol 2020 ac amrywio ers hynny. Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cyrraedd y lefel uchaf ym mis Mehefin 2020 a mis Mawrth 2022, ond mae’n amrywio ers hynny. Nid yw lefelau profion diagnostig na therapïau yn agos at y lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.

Ffigur 15: Llwybrau cleifion (fesul 100,000 o’r boblogaeth) sy’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig a gwasanaethau therapi fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siartiau bar yn dangos bod gan bob Bwrdd Iechyd Lleol lwybrau sy’n aros mwy na’r amser targed ar gyfer diagnosteg a therapïau.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi yn ôl wythnos, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ddiwedd mis Mai, roedd ychydig o dan 40,400 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig. Roedd hyn 0.7% yn uwch nag yn y mis blaenorol, a’r trydydd isaf ers mis Ebrill 2020. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio, i ddileu amseroedd aros o fwy nag 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig erbyn Gwanwyn (Mawrth) 2024.

Ddiwedd Mai, roedd ychydig dros 5,800 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau. Roedd hyn 11.0% yn fwy na’r mis blaenorol. Ni chyrhaeddwyd y targed adfer gofal wedi’i gynllunio, i ddileu amseroedd aros o fwy nag 14 wythnos erbyn Gwanwyn (Mawrth) 2024.

Roedd y nifer uchaf o lwybrau diagnostig a oedd yn aros mwy na’r amser targed am bob 100,000 o’r boblogaeth ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro (3,015), ac roedd y nifer uchaf o therapïau ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda (504). Roedd y nifer isaf o lwybrau diagnostig a oedd yn aros mwy na’r amser targed am bob 100,000 o’r boblogaeth yn ardal Aneurin Bevan (689), ac roedd y nifer isaf o therapïau ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe (0).

Roedd yr amseroedd aros canolrifol am brofion diagnostig yn weddol sefydlog ers 2017 (2.8 wythnos ar gyfartaledd) ac ar gyfer gwasanaethau therapi ers 2018 (3.6 wythnos ar gyfartaledd). Roedd yr amseroedd aros canolrifol am y ddau wasanaeth wedi cyrraedd y lefel uchaf yn 2020 (14.3 wythnos ar gyfer diagnosteg ac 14.9 wythnos ar gyfer therapïau). 

Ym mis Mai, 5.0 wythnos oedd yr amser aros canolrifol am brofion diagnostig, o’i gymharu â 5.3 yn y mis blaenorol. Roedd yr amser aros canolrifol am wasanaethau therapi yn 4.4 wythnos, o’i gymharu â 3.9 yn y mis blaenorol.

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn dangos data misol ar yr amseroedd aros ar gyfer llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG. Llwybrau agored yw’r rheini sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, ac mae llwybrau sydd wedi cau yn golygu’r rheini sydd wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros.

Mesurir gweithgarwch yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru.

Mae gwybodaeth reoli sydd newydd gael ei chasglu yn cael ei chyhoeddi hefyd, ar gyfer nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru.

Perfformiad

Targedau
  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau newydd wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
Ffigur 16: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, Mai 2019 i Mai 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart linell yn dangos bod y nifer sy’n aros wedi cynyddu’n sylweddol ers pandemig y coronafeirws. Gwelwyd cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ond mae’r niferoedd yn gostwng erbyn hyn.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

Ffigur 17: Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 (cyfanswm sy’n aros) [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart far sy’n dangos mai bwrdd iechyd Aneurin Bevan, wedi’i addasu yn ôl poblogaeth, sydd â’r nifer lleiaf o lwybrau sy’n aros i ddechrau triniaeth, a bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro sydd â’r nifer mwyaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ffigur 18: Llwybrau cleifion sy’n aros dros flwyddyn i ddechrau triniaeth, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart far sy’n dangos mai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, wedi’i addasu yn ôl poblogaeth, sydd â’r nifer lleiaf o lwybrau sy’n aros dros flwyddyn, a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro sydd â’r nifer mwyaf.

Ffigur 19: Llwybrau cleifion sy’n aros dros ddwy flynedd i ddechrau triniaeth, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Bae Abertawe sydd â’r nifer leiaf o lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd, a Betsi Cadwaladr sydd â’r nifer mwyaf.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi’u grwpio a cham y llwybr, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigurau hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Mai, roedd ychydig dros 787,900 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn yn gynnydd o tua 12,900 o lwybrau o’i gymharu â mis Ebrill, a 73.6% yn uwch na mis Mai 2020. Dyma’r ffigur uchaf ar gofnod. 

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae’r ddealltwriaeth bresennol yn awgrymu bod modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. Ar y sail honno, mae tua 707,300 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 22 o lwybrau (nid cleifion) am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, y ffigur ym mis Mai oedd 13 o lwybrau am bob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd

O’r cyfanswm o 787,900 o lwybrau, roedd tua 154,900 o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn ym mis Mai. Roedd y nifer hwn 4.5% yn uwch na'r mis diwethaf. Roedd bron i 22,500 yn aros mwy na dwy flynedd. Mae’r nifer hwn 5.5% yn uwch na'r mis blaenorol ond mae 68.1% yn is na’r nifer uchaf ym mis Mawrth 2022. 

Wedi ei addasu yn ôl poblogaeth, gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yr oedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros (29,706 am bob 100,000). Yng Nghaerdydd a'r Fro (6,426 am bob 100,000) yr oedd y nifer mwyaf a oedd yn aros mwy na blwyddyn, ac ym Metsi Cadwaladr yr oedd y nifer mwyaf a oedd yn aros mwy na dwy flynedd (1,411 am bob 100,000). Aneurin Bevan oedd â’r nifer isaf yn aros yn gyffredinol (23,653 am bob 100,000). Bae Abertawe oedd â’r nifer isaf yn aros mwy na blwyddyn (3,364 am bob 100,000) ac ym Mae Abertawe yr oedd y nifer isaf a oedd yn aros mwy na dwy flynedd (400 am bob 100,000).

Roedd y cynllun adfer gofal wedi ei gynllunio wedi gosod targed i ddileu’r arosiadau dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cael ei asesu ar y sail bod ‘y rhan fwyaf’ yn cyfeirio at bob arbenigedd ac eithrio saith sy’n cael eu cydnabod yn rhai eithriadol o heriol, gyda niferoedd mawr yn aros hyd yn oed cyn pandemig COVID-19. Y rhain yw Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol, Offthalmoleg, Wroleg, Gynaecoleg, Orthopaedeg a Chlust, Trwyn a Gwddf. Ni chyrhaeddwyd y targed ym mis Mawrth 2023, ac ym mis Mai roedd 17 o arbenigeddau eraill o hyd â llwybrau’n aros dros ddwy flynedd, sef 3,072 o lwybrau, sy'n gynnydd o 174 o’i gymharu â’r mis diwethaf. 

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. 

Nid oes gennym ystadegau swyddogol ynghylch nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth reoli yn awgrymu mai’r sefyllfa ym mis Mai, pan oedd yr Ystadegau Gwladol (uchod) yn adrodd bod ychydig dros 787,900 o lwybrau cleifion yn agored, amcangyfrifid bod tua 611,500 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru, sef y nifer uchaf ar gofnod.

Yn wahanol i’r Ystadegau Gwladol sydd wedi’u cynnwys mewn rhannau eraill o’r datganiad hwn, a aseswyd yn annibynnol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar wybodaeth reoli. Er bod egwyddorion y Cod Ymarfer wedi’u cymhwyso, nid yw sicrhau ansawdd yn cyfateb i lefel yr Ystadegau Gwladol. Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r data hyn, a bydd hyn yn cael ei gyfleu’n glir wrth i ni ddysgu rhagor. Am y rhesymau hyn, mae mwy o ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif hwn na’r ffigurau eraill yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae lefel diddordeb y cyhoedd mewn deall nifer y cleifion yn ychwanegol at nifer y llwybrau cleifion yn ychwanegu digon o werth i gyflwyno’r wybodaeth hon.

Ffigur 20: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, yn ôl mis
Image

Disgrifiad o Ffigur 20: Siart linell yn dangos bod canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos wedi gostwng yn sydyn yn ystod pandemig y coronafeirws, ac mae’r perfformiad wedi sefydlogi rhwng tua 50 a 60% ers hynny, gan gynyddu’n araf. 

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ffigur 21: Canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul 100,000 o’r boblogaeth, yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 21: Siart far yn dangos bod perfformiad ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn is na’r targed o 95%.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael drwy’r ddolen StatsCymru flaenorol.

O blith yr ychydig dros 787,900 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Mai, roedd 54.8% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn 0.6 pwynt canran yn is nag yn y mis blaenorol, a 27.1 pwynt canran yn is nag ym mis Mawrth 2020. Ym Mae Abertawe yr oedd y gyfran uchaf a oedd yn aros llai na 26 wythnos (59.7%), a’r isaf yng Nghaerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg (51.8%).

Ffigur 22: Nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis ac wythnosau o aros
Image

Disgrifiad o Ffigur 22: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 wythnos, a gynyddodd yn gyflym yn ystod pandemig y coronafeirws ac sy’n dal yn agos i'r lefelau uchaf ar gofnod.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

Ffigur 23: Llwybrau cleifion a gaewyd, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 23: Siart far yn dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 36 wythnos, wedi’i addasu yn ôl maint y boblogaeth, sy’n dangos y ffigurau uchaf ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a’r isaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Canran y llwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth o fewn y targed amser fesul mis a grwpiau o wythnosau ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r ffigur hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael yn y ddolen StatsCymru flaenorol.

Ym mis Mai, roedd ychydig dros 265,200 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn yn 33.7% o’r holl lwybrau cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth. Roedd hyn 7,882 (neu 3.1%) yn uwch nag yn y mis blaenorol, a dyma’r trydydd ffigur uchaf ar gofnod. Ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro (10,771) yr oedd y nifer uchaf o lwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos am bob 100,000 o’r boblogaeth, a’r isaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe (6,791). 

Roedd yr amser aros canolrifol i ddechrau triniaeth wedi bod tua 10 wythnos cyn y pandemig, rhwng diwedd 2013 a mis Chwefror 2020. Cynyddodd hyn yn ystod y pandemig a chyrraedd y lefel uchaf erioed o 29 wythnos ym mis Hydref 2020. Ym mis Mai, roedd yr amser aros canolrifol yn 21.5 wythnos, a oedd 0.5 wythnos yn is na'r mis blaenorol.

Ffigur 24: Llwybrau cleifion a gaewyd, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 24: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gaewyd, sydd fel arfer yn amrywio. Ar ôl gostyngiad mawr ym mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws, mae nifer y llwybrau a gaewyd wedi codi’n raddol i lefelau cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl y mis, y bwrdd iechyd lleol a’r wythnosau aros, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Diwygiwyd y data i gynnwys llwybrau a gaewyd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg erbyn hyn. Hyd at ddatganiad ystadegol Gorffennaf 2022, nid oedd y gyfres ddata ar gael ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Cafodd 110,230 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Mai. Roedd hyn yn gyfartaledd o 5,249 o lwybrau cleifion yn cau bob diwrnod gwaith. Roedd hyn yn gynnydd o 84 o lwybrau cleifion (neu 1.6%) yn cael eu cau bob diwrnod gwaith o’r mis blaenorol.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithgaredd

Ffigur 25: Llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 25: Siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio ond yn dangos tuedd am i fyny, a nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sydd wedi bod yn gymharol sefydlog ers dechrau cofnodi.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cyflwynwyd proses newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ym mis Rhagfyr 2020.

Ym mis Mai, dechreuodd 1,800 o lwybrau, lle’r oedd cleifion newydd gael diagnosis o ganser ac wedi cael eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn ystod y mis. Roedd hyn yr un fath â’r mis blaenorol.

Cafodd 14,251 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Mae hyn 3.5% yn fwy na’r mis blaenorol. 

Ym mis Mai, agorwyd 17,584 o lwybrau cleifion yn ystod y mis yn dilyn amheuaeth newydd o ganser. Roedd hyn yn gynnydd o 446 (2.6%) o’i gymharu â’r mis blaenorol, ac yn gynnydd o 7.1% o’i gymharu â mis Mai 2023. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi amrywio, ond mae wedi sefydlogi dros y misoedd diwethaf.

Perfformiad

Targed

  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Nid yw'r targed yn berthnasol i ddata a gyhoeddwyd ar gyfer cyfnodau amser cyn Rhagfyr 2020.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.
Ffigur 26: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 26: Siart linell yn dangos canran y llwybrau cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf a’r targed perfformiad o 75%. Mae’r perfformiad yn amrywio, ond cafwyd tuedd gyffredinol am i lawr yn y blynyddoedd diwethaf. 

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Cafodd y gwaith newydd o gasglu data am y llwybr amheuaeth o ganser ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2020, gyda tharged perfformiad o 75%. Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio sefydlu targed newydd o 80%, i'w gyrraedd erbyn 2026.

Ffigur 27: Canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul Bwrdd Iechyd Lleol, Mai 2024 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o Ffigur 27: Siart far yn dangos bod perfformiad ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn is na’r lefel darged o 75%.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau wedi’u cau) ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi ei eithrio o’r dadansoddiad hwn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â Byrddau Iechyd Lleol eraill. Mae data ar gyfer Powys ar gael ar StatsCymru.

Ym mis Mai, roedd 55.4% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Roedd hyn 1.6 pwynt canran yn uwch nag yn y mis blaenorol, ond 0.3 pwynt canran yn is na mis Mai 2023. 

Yng Nghaerdydd a’r Fro (62.1%) yr oedd y gyfran uchaf o lwybrau a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod, a’r isaf yn Aneurin Bevan (49.2%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â'r datganiad ystadegol hwn i'w gweld yn y Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG: adroddiad ansawdd.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddwyd eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, a defnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer.

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data, ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Amseroldeb y data sy’n darparu’r diweddariad mwyaf diweddar gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost i regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Diweddariad nesaf

22 Awst 2024

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 61/2024

Image