Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru: asesiadau effaith
Asesiad o effaith polisi dysgu 14 i 16 o fewn Cwricwlwm i Gymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham
Y mater
Yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, mae pob ysgol a gynhelir yn gyfrifol am gynllunio ei chwricwlwm, ei roi ar waith a'i adolygu. Rhaid i'r pennaeth sicrhau y caiff cwricwlwm ei gynllunio ar gyfer pob dysgwr cofrestredig yn yr ysgol rhwng 3 ac 16 oed. Fodd bynnag, mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yn wahanol i'r rhai ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 14 oed, mae hyn er mwyn ystyried y dewisiadau y gall dysgwyr eu gwneud ynghylch rhai o'r cyrsiau y byddant yn eu dilyn ym mlynyddoedd 10 ac 11 sy'n arwain at gymwysterau.
Ochr yn ochr â diwygio'r cwricwlwm, mae Cymwysterau Cymru, rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, wrthi’n ymgymryd â rhaglen waith i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru, gan lywio cymwysterau newydd i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu'r cynnig llawn o gymwysterau 14 i 16, gan gynnwys TGAU.
Gyda diwygiad mor sylweddol, i'r cwricwlwm ac i'r cymwysterau ategol, teimlwn ei bod yn briodol cyhoeddi canllawiau statudol a bod angen gwneud hyn er mwyn cefnogi ysgolion i ddeall a chyflawni eu gofynion cyfreithiol o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu Cymru 2021 (y Ddeddf), mewn perthynas â chynnig y cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed. Rydym hefyd am nodi ein polisi ynghylch yr agweddau ehangach ar y cwricwlwm ar gyfer cam cynnydd 5 a phobl ifanc 14 i 16 oed, agweddau yr ydym yn ystyried yn werthfawr ac yn hanfodol i gyflawni Cenhadaeth ein Cenedl.
Pan fydd dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, caiff eu cynnydd ei gefnogi gan ddysgu sy'n digwydd wrth iddynt ddilyn cyrsiau astudio, ond hefyd drwy'r dysgu a'r profiadau ehangach y mae'r ysgol yn eu darparu, sydd yr un mor bwysig. Er bod y canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion i helpu dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben, dyma'r man cychwyn ar gyfer yr holl addysgu a dysgu, ac mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys disgwyliadau i ddysgwyr 14 i 16 oed ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dulliau dysgu a fydd yn sail i'r hyn sydd ei angen arnynt drwy gydol eu hoes. Mae'r canllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd cynnydd dysgwyr a pharatoi dysgwyr ar gyfer eu taith ôl-16, a chânt eu defnyddio mewn ysgolion a rhyngddynt, i gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella, a thrwy hynny, wireddu'r Cwricwlwm i Gymru.
Dylai'r holl addysgu a dysgu 14 i 16 gael eu cynllunio yn unol â Fframwaith y Cwricwlwm, gyda dull gweithredu addysgegol sy'n gyson â'r 12 egwyddor addysgegol, sy'n golygu y bydd profiadau dysgu yn teimlo fel rhan barhaus o daith 3 i 16 y dysgwr. Dylai hyn arwain at wella'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed, sy'n cefnogi'r profiadau dysgu gorau posibl a chynnydd dysgwyr yn y dyfodol, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Fel un o'r Egwyddorion Cynnydd gorfodol, mae cynyddu effeithiolrwydd dysgwyr yn hanfodol er mwyn datgloi potensial y Cwricwlwm i Gymru, ac mae hyn yn chwarae rôl ganolog yn y canllawiau 14 i 16. Pan fyddwn yn addysgu pobl ifanc i ddysgu'n fwy effeithiol, gallwn ryddhau eu gallu i ddysgu, gwneud cynnydd a chyflawni eu potensial llawn.
Camau gweithredu a gynigir
Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer dysgu 14 i 16 mewn ysgolion yng Nghymru a fydd yn:
Sicrhau bod ysgolion yn cynllunio cwricwlwm yn benodol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11
Wrth gynllunio cwricwlwm, bydd yn ofynnol i ymarferwyr sicrhau bod popeth y mae dysgwr yn ei brofi yn berthnasol i'r pedwar diben ac ystyried yr hyn y maent yn ei addysgu, ond bydd angen iddynt hefyd ystyried sut a pham y maent yn ei addysgu. Mae hyn yn cynnwys dewis y dull gweithredu addysgegol mwyaf priodol er mwyn sicrhau bod y profiadau a gynigir i ddysgwyr yn ddiddorol ac yn berthnasol. Hefyd, bydd mwy o gyfle i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau eraill, er mwyn ehangu cwricwla pan fo hynny er lles pennaf dysgwyr.
Cyflwyno hawl i ddysgu'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11
Mae proffil y dysgwr yn cynnwys pedair elfen o ddysgu a phrofiadau eang a chytbwys:
- Cymwysterau Llythrennedd a Rhifedd: bydd tystiolaeth o gyrhaeddiad yn cefnogi cynnydd llwyddiannus yn y dyfodol.
- Cymwysterau sy'n annog cyfleoedd dysgu eang: cynnig cyfres ehangach o gyrsiau astudio sy'n cynnwys cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol, y gall dysgwyr ddewis o'u plith wrth iddynt ddechrau arbenigo, sy'n cefnogi cynnydd a llwybrau gyrfa yn y dyfodol.
- Dysgu a phrofiadau ehangach: cynnig cyfleoedd dysgu eang a fydd yn ystyrlon ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ac yn darparu cyfleoedd ar draws y cwricwlwm. Ni fydd profiadau pob dysgwr yn arwain at gymhwyster ffurfiol, ac mae'r canllawiau'n trafod dysgu ehangach yn glir gan nodi ei bod yn hanfodol bod hyn yn cyfrannu at gynnydd dysgwyr tuag at y pedwar diben. Mae'r elfen hon yn cynnig mwy o gyfle ar gyfer astudio'n annibynnol er mwyn datblygu sgiliau dysgu, annibynnol a chyfathrebu dyfnach.
- Myfyrio a chynllunio ôl-16: amser cwricwlwm pwrpasol parhaus i ddysgwyr fyfyrio ar eu dysgu a'u cynnydd ar draws y cwricwlwm a chynllunio ar gyfer eu taith ôl-16. Bydd hyn yn golygu y gellir cefnogi dysgwyr gyda'u camau nesaf a bydd yn cynnig cyfle i ysgolion ddarparu Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith sydd wedi'u teilwra'n fwy unigol.
Bydd y canllawiau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion sicrhau y gall pob dysgwr ddangos ei ddysgu, ei gynnydd a'i gyflawniadau yn y pedair elfen, pan fydd yn cwblhau addysg orfodol.
Sicrhau cynnig eang o gyfleoedd dysgu a phrofiadau i gefnogi llwybrau dysgwyr
Mae'n bwysig bod ysgolion yn caniatáu i ddysgwyr wneud cynnydd priodol yn unol â'r cod cynnydd. Mae'r canllawiau yn cynnwys cyngor i ysgolion ar ‘sicrhau dysgu’ ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf). Mae hyn yn cynnwys bod ysgolion yn cynnig ystod o gyrsiau ym mhob MDPh, ymhlith pethau eraill.
Cyfrannu at brosesau hunanwerthuso a gwella ysgolion
Fel rhan o'u proses hunanwerthuso a gwella, bydd nifer o ofynion i ysgolion (sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a'r egwyddorion sylfaenol) ac a fydd yn sicrhau cyflawniad llwyddiannus i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Bydd yn ofynnol i ysgolion wneud y canlynol:
- dangos bod eu cwricwlwm i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn cynnig cyfleoedd dysgu ar draws y pedair elfen ym mhroffil y dysgwr
- gwerthuso ansawdd y dysgu a gynigir i ddysgwyr unigol ym mlynyddoedd 10 ac 11 a myfyrio arno, gan ystyried yn benodol y rhai sy'n cwblhau eu haddysg ym mlwyddyn 11 o ran a ydynt wedi gwneud cynnydd priodol ar draws y pedair elfen
- rhoi gwybod i'w hawdurdod lleol am unrhyw bryderon ynghylch dysgwyr unigol fel y gellir rhoi'r cymorth priodol ar waith
- sicrhau bod casgliadau unrhyw rai o'r uchod yn llywio cynlluniau gwella'r ysgol
Pum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Mae'r gofynion a nodir yn y Canllawiau Dysgu 14 i1 6 yn cyd-fynd â phob un o'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015:
Hirdymor
Mae'r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddatblygu i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer byd sy'n newid yn gyflym iawn ac i sicrhau bod addysg yn cyflawni ei blaenoriaethau ac yn ymdrin ag anghenion posibl busnesau a'r economi yn y dyfodol. Mae ffyniant, cydlyniant a llesiant cenedl yn seiliedig ar system addysg lwyddiannus.
Gwyddom fod y cwricwlwm yng Nghymru wedi rhoi pwyslais amlwg ar gymwysterau hyd yn hyn, heb roi cydnabyddiaeth ddigonol i'r amrywiaeth a'r ystod o sgiliau i gefnogi pobl ifanc i ffynnu. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn gwneud hyn ac mae'r hawl i ddysgu yn anelu at gefnogi pob dysgwr. Fodd bynnag, bydd manteision hirdymor yr hawl i ddysgu yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymagwedd at ddysgu y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau a byddant yn eu helpu i ffynnu mewn addysg bellach neu'r byd gwaith.
Atal
Mae anfantais, ar sawl ffurf, yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol plant a phobl ifanc. Dylai cynnig cyfleoedd dysgu ehangach ac sydd wedi'u teilwra'n fwy roi gwell anogaeth i ddysgwyr unigol fynychu'r ysgol, gan dorri cylch negyddol cyfraddau presenoldeb isel. Os bydd dysgwyr yn ymgysylltu mwy â'u haddysg ac yn cael mwy o fewnbwn o ran yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut, dylai hyn helpu i wella ymddygiad disgyblion mewn ystafelloedd dosbarth a helpu i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl gwell i ddysgwyr. Dylai'r hawl i ddysgu (a'r trefniadau hunanwerthuso) helpu i nodi dysgwyr sydd mewn perygl o fod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yn gynharach. Bydd hefyd yn helpu pobl ifanc i hunanfyfyrio ar eu dysgu, a chynllunio ar gyfer eu taith ôl-16 (gan chwalu rhwystrau i ddysgu a gwella dyheadau, ni waeth beth fo'u cefndir), ac ymgymryd ag Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith ystyrlon a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu camau nesaf.
Integreiddio
Mae'r canllawiau yn cyd-fynd â phob un o'r saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:
Cymru lewyrchus
- Un o bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru yw galluogi ‘cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith’. Bydd yn ofynnol i gwricwla ysgolion ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed alluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at hyn. Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith wedi'i gynnwys yn y canllawiau er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn ymgymryd â chyfleoedd ystyrlon a bod sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r cwricwlwm cyfan. Mae cymwysterau llythrennedd a rhifedd a chynllunio ôl-16 yn elfennau allweddol o'r hawl i ddysgu a fydd yn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu trwytho yn y sgiliau hyn sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn bywyd ac ar gyfer Cymru lewyrchus.
Cymru gydnerth
- Mae'r nodweddion sy'n sail i'r pedwar diben yn cyfrannu at godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ac ecoleg: O dan y diben dinasyddion egwyddorol, gwybodus, mae'n ofynnol i ddysgwyr ddangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd y blaned a chydnabod eu bod yn dibynnu arni, gan ddeall ac ystyried effaith eu gweithredoedd wrth wneud dewisiadau a gweithredu. Bydd angen i gwricwla ysgolion ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd tuag at y dibenion hyn. O fewn elfen cymwysterau i annog ehangder yr hawl i ddysgu, dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn dilyn cwrs priodol, heriol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster mewn gwyddoniaeth. Cynghorir ysgolion i gynnig ystod o gyrsiau mewn cyfrifiaduraeth a thechnoleg ddigidol hefyd.
Cymru iachach
- Un arall o'r pedwar diben yw creu ‘unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’ ac mae pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cyfrannu at hyn. O fewn elfen cymwysterau i annog ehangder yr hawl i ddysgu, cynghorir ysgolion i gynnig ystod o gymwysterau o fewn y Maes Iechyd a Lles. Mae'r canllawiau hefyd yn cadarnhau bod yn rhaid i ysgolion barhau i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i bob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11, (cynllunio'r dull gweithredu sydd fwyaf priodol i ddiwallu anghenion eu dysgwyr) ac mae hyn ar wahân i'r gofyniad i sicrhau dysgu.
Cymru sy'n fwy cyfartal
- Mae'r canllawiau yn cefnogi un arall o'r pedwar diben er mwyn creu ‘dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes’. Drwy gael gwared ar gyfnodau allweddol, mae'n cynnig eglurder pellach o ran sut y caiff y continwwm o 3 i 16 oed ei gymhwyso ym mlynyddoedd 10 ac 11 ac mae'n cadarnhau bod yn rhaid i ysgolion ddarparu ar gyfer cynnydd priodol yn unol ag egwyddorion cynnydd, ac nid dim ond asesiadau a all fod yn rhan o gymhwyster. Mae'r hawl i ddysgu yn cydnabod pwysigrwydd dysgu heb gymwysterau a datblygu sgiliau allweddol er mwyn pontio i fyd gwaith neu hyfforddiant pellach. Yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, mae'r hawl i ddysgu yn cydnabod bod pob dysgwr yn unigolyn ac, fel y cyfryw, bydd ei hawl yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd dysgu, profiadau a chyflawniadau gwahanol ar draws y pedair elfen.
Cymru o gymunedau cydlynus
- Mae'r Canllawiau Dysgu 14 i 16 yn helpu pob ysgol i ddatblygu cynnig cwricwlwm 14 i 16 sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu'r cymwyseddau, yr ymagweddau, y sgiliau a'r profiadau a nodir yn y pedwar diben. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddod yn ‘unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’ a bydd yn cefnogi dysgwyr i barhau i ffynnu i fod yn ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd’, sy'n deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd, yn wybodus ynghylch eu diwylliant, cymuned, cymdeithas a'r byd, nawr ac yn y gorffennol, ac yn parchu anghenion a hawliau eraill, fel aelodau o gymdeithas amrywiol.
- Caiff cwricwlwm ysgol ei gynllunio gan ystyried y gymuned leol, a gan y bydd yr hawl i ddysgu yn cefnogi mwy o bwyslais ar waith cynllunio ôl-16, y gobaith yw y bydd ysgolion yn gweithio gyda'r gymuned leol i nodi bylchau sgiliau ac anghenion y gymuned er mwyn helpu i lywio cynnig y cwricwlwm i ddysgwyr 14 i 16 oed. Dylai meithrin cysylltiadau â'r gymuned leol a datblygu cwricwlwm sy'n cefnogi dealltwriaeth o'r gymuned leol ac sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau a all gefnogi'r gymuned leol i ffynnu, helpu i wneud y gymuned yn fwy deniadol ac yn fwy hyfyw yn economaidd.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Yn unol â gweledigaeth a strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, sef Cymraeg 2050, mae'r canllawiau yn cadw'r polisi presennol bod yn rhaid i bob dysgwr gael y cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster yn y Gymraeg ac yn egluro'r pwysigrwydd parhaus i bob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 sicrhau dysgu a chynnydd yn y Gymraeg. Mae elfen cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd yr hawl i ddysgu yn darparu y dylai pob dysgwr ddilyn cwrs heriol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster yn y Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i fodloni'r gofyniad i gynnwys y pwnc hwn fel rhan orfodol o'u cwricwlwm. Mae'r canllawiau yn cynnig eglurder pellach ynghylch sut y dylai'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU sydd wedi'u gwneud i Gymru mewn iaith a llenyddiaeth Cymraeg gael ei rhoi ar waith mewn ysgolion sydd â chategorïau iaith gwahanol (gweler uchod). Mae elfen Dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm yr hawl i ddysgu yn cynnig cyfle pellach i ddysgwyr sy'n dewis peidio ag astudio cymhwyster yn Gymraeg (neu mewn unrhyw iaith ryngwladol), ond sy'n dymuno parhau â'u cynnydd yn hyn o beth.
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
- Mae Meysydd Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau a Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion gwybodus, hunanymwybodol sy'n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. O fewn elfen cymwysterau i annog ehangder yr hawl i ddysgu, dylai ysgolion gynnig ystod eang o gyrsiau uchelgeisiol a heriol sy'n arwain at gymwysterau yn y Meysydd hyn. Mae'r canllawiau hefyd yn nodi, p'un a yw dysgwr yn dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster ai peidio, yn unol â'r elfen Dysgu a phrofiadau ehangach, mae'n hanfodol bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben drwy ddysgu a phrofiadau yn y Meysydd hyn.
Cydweithio
Fel rhan o broses cyn ymgynghori gadarn, gwnaed gwaith ymgysylltu helaeth ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys rhanddeiliaid mewnol Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol fel cyflogwyr, ac mae'r gwaith ymgysylltu hwn wedi parhau drwy gydol y broses ymgynghori ffurfiol. Rydym wedi creu bwrdd dysgu 14 i 16, a gynrychiolir gan bob rhanddeiliad allweddol sydd â diddordeb mewn dysgu 14 i 16 yng Nghymru. Ymgynghorwyd ag aelodau'r bwrdd ar fersiwn ddrafft gynnar o'r ddogfen ganllaw ac ystyriwyd eu safbwyntiau, cyn lansio'r ymgynghoriad. Mae aelodau o'r bwrdd wedi parhau i gynghori Llywodraeth Cymru wrth inni wneud cynnydd tuag at ddatblygu'r canllawiau terfynol a pharatoi i ysgolion eu rhoi ar waith. Mae swyddogion hefyd wedi ymgysylltu â'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant. Cafwyd adborth cadarnhaol gan y Grŵp hwn ac ystyriwyd y cyngor a gafwyd wrth ddatblygu'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant. Mae swyddogion wedi ymgysylltu â chydweithwyr pellach yn y sector addysg ledled Cymru, a chynrychiolwyr o grwpiau cyflogwyr (CBI, FSB, Siambrau Masnach), gan gydnabod y bwriedir i'r cynnig 14 i 16 sicrhau y gall pobl ifanc symud yn hyderus i gyfleoedd gwaith, addysg a hyfforddiant.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r canllawiau statudol drafft i ddysgwyr 14 i 16 rhwng 28 Chwefror 2024 ac 8 Mai 2024. Ymgysylltwyd yn uniongyrchol â dysgwyr a rhieni a gofalwyr hefyd. Cynhaliwyd y broses ymgynghori ffurfiol ar ran Llywodraeth Cymru gan Miller Research a gwnaed gwaith ymgysylltu helaeth â phlant a phobl ifanc fel rhan o hyn.
Effaith
O dan Gwricwlwm 2008, mae dysgu 14 i 16 yn seiliedig ar gymwysterau ffurfiol. Wrth inni ddiwygio'r dirwedd cymwysterau i ddysgwyr 14 i 16 oed yn gyfan gwbl, mae cymwysterau yn rhan bwysig o ddysgu 14 i 16 o hyd ond, er mwyn bodloni gofynion y Cwricwlwm i Gymru a chefnogi dysgwyr o ddifrif i ddatblygu tuag at y pedwar diben, mae'n rhaid i Gynnig y Cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed ddarparu mwy na chymwysterau'n unig. Y bwriad yw darparu cysondeb ledled Cymru, wrth sicrhau'r hyblygrwydd a'r cymorth ar gyfer cynnydd sydd wedi'u hymgorffori yn y cwricwlwm newydd, ac mae hyn yn fantais glir.
Bydd y canllawiau hefyd yn llywio cynigion o ran yr hyn y dylid ei gynnwys yn yr ecosystem wybodaeth newydd i ysgolion, wrth iddi gyfleu'r hyn sydd bwysicaf ar gyfer dysgu 14 i 16 ym marn Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys y gofynion gwybodaeth a fydd yn disodli'r mesurau perfformiad ysgolion interim presennol. Yn unol â'r canllawiau, byddem yn disgwyl i hyn gynnwys cofrestriadau a deilliannau cymwysterau, ond hefyd fod yn ehangach na hyn.
Rydym wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth o ymarferwyr ac undebau addysgu i ystyried unrhyw bryderon ynghylch rhoi'r polisi hwn ar waith mewn perthynas â llwyth gwaith ysgolion. Mae adborth yn y trafodaethau hyn wedi cyfrannu at ddadansoddiad penodol o effaith llwyth gwaith sydd wedi cael ei ystyried ochr yn ochr ag ymatebion i'r broses ymgynghori ffurfiol. Caiff adnoddau pellach eu paratoi i helpu ysgolion i roi'r polisi hwn ar waith a byddwn yn parhau i ymdrin ag unrhyw bryderon a monitro effaith mewn perthynas â llwyth gwaith ysgolion.
Costau ac Arbedion
Nod y canllawiau hyn yw helpu ysgolion i ddeall yr hyn sy'n ddisgwyliedig ohonynt o dan ddeddfwriaeth bresennol y Cwricwlwm i Gymru, felly nid ydym yn rhagweld y byddant yn arwain at unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol i ysgolion. Mae gan lawer o ysgolion gynnig cwricwlwm sydd eisoes yn darparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau ehangach ac yn cefnogi dysgwyr i ffynnu yn eu camau nesaf, ac nid ydym yn ystyried y bydd hyn y newid sylweddol i'r rheini. Fodd bynnag, rydym o'r farn y byddai'n fuddiol darparu rhywfaint o gymorth dysgu proffesiynol i helpu ysgolion i feithrin eu gallu o ran cefnogi dysgwyr i hunanfyfyrio a datblygu effeithiolrwydd dysgwyr, sydd ymhlith gofynion yr Egwyddorion Cynnydd ond yn sail i elfen cynllunio ôl-16 a hunanfyfyrio'r hawl i ddysgu. Caiff hyn ei gyflwyno'n genedlaethol er mwyn lleihau'r costau i Lywodraeth Cymru gymaint â phosibl.
Systemau
Mae dyletswydd statudol ar ysgolion i ddarparu ar gyfer pob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16 eisoes. Ym mlynyddoedd 10 ac 11, bydd y cwricwlwm yn cynnwys rhai o'r dewisiadau a wnaed gan ddysgwyr o ran eu cymwysterau. Diben y canllawiau yw sicrhau bod ysgolion yn deall blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnig cwricwlwm ym mlynyddoedd 10 ac 11. Byddant hefyd yn helpu ysgolion i fodloni'r gofynion statudol a nodir yn adran 30 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Adran 8: casgliad
Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Gwnaed gwaith ymgysylltu cyn ymgynghori helaeth ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys rhanddeiliaid mewnol Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol fel cyflogwyr, ac mae llawer o'r gwaith hwn yn mynd rhagddo o hyd. Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys dirprwyon/arweinwyr cwricwlwm ‘Gyda’n Gilydd’ o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg (CYDAG) ac ymarferwyr o ysgolion arbennig.
Rydym wedi creu bwrdd dysgu 14 i 16, a gynrychiolir gan bob rhanddeiliad allweddol sydd â diddordeb mewn dysgu 14 i 16 yng Nghymru. Ymgynghorwyd ag aelodau'r bwrdd ar fersiwn ddrafft gynnar o'r ddogfen ganllaw ac ystyriwyd eu safbwyntiau, cyn lansio'r ymgynghoriad. Mae'r bwrdd dysgu yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru wrth inni symud ymlaen tuag at roi'r canllawiau ar waith mewn ysgolion. Mae swyddogion hefyd wedi ymgysylltu â'r Pwyllgor Cynghori ar Hawliau Plant i drafod bwriadau'r polisi a'r effaith ar ddysgwyr.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau rhwng 28 Chwefror 2024 ac 8 Mai 2024. Cyhoeddwyd fersiwn o'r ddogfen ymgynghori i rieni a gofalwyr ochr yn ochr â'r canllawiau drafft, gyda chwestiynau penodol gyda'r nod o gasglu barn rhieni a gofalwyr. Cynhaliwyd y broses ymgynghori gan Miller Research ar ran Llywodraeth Cymru a hwylusodd grwpiau ffocws gydag ymarferwyr, rhieni a gofalwyr a dysgwyr. Cafwyd 103 o ymatebion i'r ymgynghoriad ffurfiol. Cafodd arolwg i ddysgwyr ei ddosbarthu drwy plant yng Nghymru hefyd a chafwyd ymatebion gan 340 o blant a phobl ifanc o flwyddyn 7 i flwyddyn 11. Mae'r broses ymgysylltu wedi helpu i nodi bylchau yn y canllawiau drafft a llywio'r canllawiau terfynol.
Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Ystyrir y bydd effeithiau mwyaf sylweddol y canllawiau yn gadarnhaol, gan eu bod yn ceisio mynd i'r afael â'r agweddau negyddol ar ddarpariaeth bresennol y cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru, wrth adeiladu ar y cryfderau sydd eisoes yn bodoli. Mae'r canllawiau yn cyflwyno ‘hawl i ddysgu’ ar gyfer pob dysgwr yn yr ystod oedran hon. Mae hawliau plant wedi bod yn rhan annatod o'r gwaith o ddatblygu'r polisi hwn, sydd â phwyslais cryf ar ddysgwyr ac a fydd felly'n cael effaith gadarnhaol ar hawliau plant.
Mae'r canllawiau yn cynnig eglurder pellach mewn perthynas â pholisi'r Cwricwlwm i Gymru i sicrhau dysgu i bobl ifanc 14 i 16 oed ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), p'un a yw dysgwr yn dilyn cymhwyster mewn Maes penodol ai peidio. Yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, maent yn ceisio cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth drwy ei gwneud yn ofynnol i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gael eu hymgorffori ym mhob rhan o'r cwricwlwm i ddysgwyr 14 i 16 oed (ac ar draws ysgolion). Mae Maes y Dyniaethau yn ymwneud ag ennyn diddordeb dysgwyr yn y materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaliadwyedd a newid cymdeithasol, a helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol. Yn ogystal â chymwysterau mewn pynciau dyniaethau, mae elfen Dysgu a phrofiadau ehangach yr hawl i ddysgu yn cynnig cyfle pellach i ddysgu yn y Maes hwn. Mae'r canllawiau yn hyrwyddo gwybodaeth am faterion bioamrywiaeth a dealltwriaeth ohonynt drwy'r pedwar diben, fel y man cychwyn ar gyfer yr holl addysgu a dysgu, ac yn y Maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn arbennig. Yn ogystal ag elfen cymwysterau i annog ehangder yr hawl i ddysgu (lle cynghorir ysgolion i gynnig amrywiaeth o gyrsiau uchelgeisiol a heriol sy'n arwain at gymhwyster yn y Maes hwn), mae cyfleoedd pellach i ddysgwyr wneud cynnydd tuag at y pedwar diben o fewn elfen Dysgu a phrofiadau ehangach yr hawl i ddysgu.
Mae'r canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ystyried sut maent yn cynnig sicrhau bod eu holl ddysgwyr 14 i 16 oed yn gwneud cynnydd addas a heriol o ran eu sgiliau ar hyd y continwwm Cymraeg drwy gynyddu faint o gyfarwyddyd a roddir yn Gymraeg yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg eu hawdurdod lleol. Er y caiff ysgolion eu hannog i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr barhau gyda'u cynnydd mewn ieithoedd, drwy'r elfen Dysgu a phrofiadau ehangach, fel rhan o elfen cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd yr hawl i ddysgu, mae hefyd yn ofynnol i ysgolion ddefnyddio'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU sydd wedi'u gwneud i Gymru yn briodol er mwyn sicrhau:
- bod pob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg categori 3 yn dilyn cwrs heriol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster yn Gymraeg
- y gall pob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 mewn ysgolion cyfrwng Saesneg categori 1 barhau i wneud cynnydd a pharhau i gael y cyfle i astudio tuag at gymhwyster heriol ac uchelgeisiol addas yn Gymraeg
- y gall pob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 mewn ysgolion dwy-iaith barhau i wneud cynnydd a pharhau i gael y cyfle i astudio tuag at gymhwyster heriol ac uchelgeisiol addas yn Gymraeg, a fydd yn cynnwys cyfran fwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau ymhellach ar hyd y continwwm Cymraeg nag mewn ysgolion categori 1
Mae'r canllawiau yn ailgyflwyno elfen myfyrio a chynllunio ôl-16 yr hawl i ddysgu sy'n golygu y bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi'n well i feddwl am eu dyheadau a'u camau nesaf ôl-16 pan fyddant yn iau, gan osgoi rhai o'r risgiau sy'n gysylltiedig â gohirio hyn nes y byddant yn 16 oed. Cynghorir ysgolion i ystyried sut mae dysgwyr yn dod yn fwyfwy effeithiol wrth ddysgu mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun cysylltiedig â gwaith ac mae gofyn iddynt neilltuo amser priodol yn y cwricwlwm i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 fyfyrio ar eu dysgu a chynllunio eu camau nesaf ôl-16. Mae'r canllawiau yn cefnogi adran Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith y canllawiau ar fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ymhellach gan y bydd yr elfen myfyrio a chynllunio ôl-16 yn cynnig cyfleoedd i ysgolion ddarparu Addysg a Phrofiadau Byd Gwaith mwy penodol i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11. Ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yw'r Warant i Bobl Ifanc er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru y cymorth a'r cyfle sydd ar gael i gyflawni eu potensial yn dilyn amhariad y pandemig, er mwyn cefnogi pobl ifanc i naill ai i gael lle ar gwrs addysg neu hyfforddiant neu eu helpu i gael swydd neu fod yn hunangyflogedig. Wrth ddatblygu'r canllawiau hyn, rydym wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr polisi y Warant i Bobl Ifanc ac wedi ystyried ymchwil berthnasol er mwyn sicrhau bod bwriadau'r polisi yn cyd-fynd yn llawn ag ymrwymiad y Warant i Bobl Ifanc.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant
Drwy gefnogi dysgwyr 14 i 16 oed i wireddu'r pedwar diben, mae'r canllawiau yn cyfrannu at bob un o'r saith nod llesiant a nodir yn Adran 1. Mae'r gofynion yn cynnig digon o hyblygrwydd i ymarferwyr ddefnyddio eu creadigrwydd a'u barn broffesiynol i ddarparu cwricwlwm sy'n cefnogi eu dysgwyr 14 i 16 oed mewn yn eu cyd-destunau penodol. Mae'r polisi yn cefnogi effeithiau cadarnhaol drwy sicrhau bod addysgu a dysgu i ddysgwyr yn yr ystod oedran hon yn ffurfio rhan barhaus o'r continwwm 3 i 16 gan gydnabod, wrth i'r dysgwyr hyn gyrraedd blwyddyn 10, eu bod yn dechrau arbenigo mewn rhai agweddau ar ddysgu a dilyn rhai cyrsiau astudio sy'n arwain at gymwysterau. Mae hefyd yn cefnogi cynwysoldeb gan ei fod yn ymatebol i anghenion dysgwyr unigol ac yn annog ysgolion i wneud dysgu yn ddiddorol ac yn sicrhau bod cwricwla ysgolion yn cael eu cynllunio mewn ffordd sy'n sicrhau bod dysgwyr yn datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymagwedd at ddysgu y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau er mwyn diwallu anghenion posibl busnesau a'r economi yn y dyfodol.
Mae trefniadau hunanwerthuso a gwella ysgolion eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddangos sut maent yn galluogi pob dysgwr, yn enwedig carfanau gwahanol o ddysgwyr megis y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai o gefndiroedd economaidd ddifreintiedig, i wneud cynnydd ar hyd ei lwybr dysgu unigol ei hun, gan ystyried ei anghenion amrywiol. Mae'r naratif mewn perthynas â phedair elfen yr hawl i ddysgu yn y canllawiau yn diffinio ac yn egluro ymhellach sut mae angen cymhwyso cynnig y cwricwlwm i ddysgwyr 14 i 16 oed yn briodol, fesul dysgwr unigol.
Bydd y polisi hwn yn llywio ecosystem wybodaeth yr ysgol a fydd yn disodli'r mesurau perfformiad interim presennol ar gyfer cyfnod allweddol 4. Bydd y polisi yn datblygu cyfleoedd dysgu a hunanfyfyrio ehangach mewn ysgolion, a fydd yn helpu i lywio gofynion gwybodaeth ysgolion yn y dyfodol. Bydd yr elfen cynllunio ôl-16 yn benodol yn cefnogi ymdrechion i ddefnyddio data ar gyrchfannau yn ehangach, rhywbeth sydd eisoes wedi cael ei gydnabod yn eang fel ffordd well o fesur cynnydd dysgwyr sydd dan anfantais economaidd.
Y diben cyffredinol yw helpu ysgolion i roi'r profiadau dysgu a'r deilliannau gorau posibl i ddysgwyr ym mlynyddoedd 10 ac 11 waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, er mwyn sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau yn codi.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Gellir lleihau a lliniaru unrhyw effeithiau negyddol a allai ddod i'r amlwg wrth roi'r polisi ar waith drwy wneud y canlynol:
- Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol i ymarferwyr mewn perthynas â chynllunio'r cwricwlwm. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ddatblygu rhaglen genedlaethol briodol i sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn gymesur ac yn cael eu darparu mewn ffordd gyson ledled Cymru.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adnoddau ar-lein i helpu ysgolion i roi'r polisi ar waith, ochr yn ochr â chymorth sydd wedi'i gynllunio i ysgolion ar hyn o bryd ar y cymwysterau newydd.
- Bydd strategaeth gyfathrebu effeithiol sy'n rhoi eglurder ynghylch nodau a manteision y polisi i'r holl randdeiliaid.
- Bydd yn ofynnol i ysgolion werthuso ansawdd y dysgu a gynigir i ddysgwyr unigol ym mlynyddoedd 10 ac 11 a myfyrio arno, gan ystyried yn benodol y rhai sy'n cwblhau eu haddysg ym mlwyddyn 11 o ran a ydynt wedi gwneud cynnydd priodol ar draws y pedair elfen. Bydd angen iddynt roi gwybod i'w hawdurdod lleol am unrhyw bryderon fel y gellir rhoi'r cymorth priodol ar waith a dylid addasu cynlluniau gwella ysgolion yn unol â hyn.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
Cyhoeddwyd y canllawiau statudol drafft ym mis Chwefror 2024 yn dilyn amrywiaeth eang o weithgareddau ymgysylltu cyn ymgynghori ag ymarferwyr a rhanddeiliaid ehangach. Yna cafodd y canllawiau eu mireinio yn ystod gwanwyn a haf 2024. Ochr yn ochr â hynny, mae ystod o randdeiliaid, gan gynnwys cyflogwyr a'r bwrdd dysgu 14 i 16, wedi cysylltu â'u rhwydweithiau eu hunain ac wedi rhoi adborth sydd wedi llywio gwaith mireinio pellach. Mae'r gwaith ymgysylltu hwn yn parhau i fynd rhagddo wrth inni symud tuag at y cam gweithredu ac wedi hynny. Mae'r gwerthusiad o'r broses o roi'r polisi ar waith wedi cael ei gynnwys yn y Fframwaith Gwerthuso Cenedlaethol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gyda phwyslais penodol ar roi'r Cwricwlwm 14 i 16 ar waith o 2025, unwaith y bydd ysgolion wedi dechrau rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith i'w dysgwyr ym mlwyddyn 10.
Bydd trefniadau gwella ysgolion newydd a'r ecosystem wybodaeth ysgolion a fydd yn helpu i lywio gofynion gwybodaeth ysgolion yn cael eu harwain gan y polisi hwn a byddant yn cefnogi'r gwaith adolygu a gwerthuso ar ôl gweithredu. Ar ôl eu cwblhau'n derfynol, bydd y trefniadau hyn yn ffurfio sail ar gyfer proses fonitro system gyfan a byddant yn nodi unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i'r canllawiau i ddysgwyr 14 i 16 yn y dyfodol.