Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn nodi lefelau uwchgyfeirio ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau iechyd arbennig a byrddau iechyd yng Nghymru.

Mae'r amgylchedd y mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig yn gweithredu ynddo yn dal yn anodd. Ceir pwysau ariannol, gweithredol a staffio. Maent yn ymateb i alw cynyddol am ofal brys, gofal mewn argyfwng a gofal a gynlluniwyd, gan weithio ar yr un pryd i leihau amseroedd aros hir. Nid rhywbeth unigryw i Gymru yw'r heriau hyn. 

Rwyf wedi derbyn yr argymhellion gan swyddogion Llywodraeth Cymru na ddylai fod unrhyw newid, am y tro, i statws uwchgyfeirio sefydliadau ac felly mae statws uwchgyfeirio cyrff y GIG fel a ganlyn:

Sefydliad
Statws Presennol (Mehefin 2024)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio

Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrLefel 5 - Mesurau arbennig
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r FroLefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau 

Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel DdaLefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu
Bwrdd Iechyd Addysgu PowysLefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Lefel 4 - Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau 

Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio 

Lefel 3 - Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus CymruLefel 1 - Trefniadau arferol
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre Lefel 1 - Trefniadau arferol
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans CymruLefel 1 - Trefniadau arferol
Iechyd a Gofal Digidol CymruLefel 1 - Trefniadau arferol
Addysg a Gwella Iechyd CymruLefel 1 - Trefniadau arferol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru | LLYW.CYMRU