Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) Llywodraeth Cymru yw lleihau'r rhwystrau ariannol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel i aros mewn addysg amser llawn ar ôl yr oedran y daw addysg orfodol i ben. Bwriad y cynllun oedd helpu i gau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng y rhai o gefndiroedd tlotach a'r rhai o gefndiroedd mwy cefnog ac ehangu mynediad i addysg bellach.

Lwfans ariannol yw'r LCA sydd ar gael i bobl ifanc 16 i 18 oed (a rhai pobl ifanc 19 oed [troednodyn 1]) a gyflwynwyd yn gyntaf fel cynllun y DU gyfan [troednodyn 2] i bobl ifanc 16 oed cymwys yn 2004/05, gan ymestyn i bobl ifanc 17 oed yn 2005/06 ac yna i bobl ifanc 18 oed yn ystod 2006/07. Mae dysgwyr yn gymwys i gael yr LCA os ydynt yn byw ar aelwyd:

  • sydd ag incwm blynyddol o £20,817 neu lai os mai’r ymgeisydd yw’r unig ddibynnydd, neu
  • sydd ag incwm blynyddol o £23,077 neu lai os oes dibynyddion eraill yn byw ar yr aelwyd (mae dibynyddion yn 15 oed neu’n iau neu’n 16 i 20 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn nad yw’n addysg uwch, ac sy'n gymwys i gael budd-dal plant)

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) sy'n gweinyddu’r cynllun LCA yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae ymgeiswyr yn cyflwyno eu cais i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Roedd proses ymgeisio ar bapur yn unig ar waith tan fis Hydref 2023, pan gyflwynwyd cyfleuster newydd i wneud cais ar-lein hefyd [troednodyn 3].

Lwfans wythnosol o £40 yw’r LCA, sy'n cael ei dalu bob pythefnos i ddysgwyr cymwys sy’n hanu o Gymru sy’n mynychu ysgolion neu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru neu rywle arall yn y DU. Mae taliadau'r LCA yn gysylltiedig â lefel foddhaol o bresenoldeb a chyrraedd nodau dysgu y cytunwyd arnynt fel y nodir gan eu hysgol neu sefydliad addysg bellach (SAB). Mae'n ofynnol i ddysgwyr lofnodi Cytundeb Dysgu LCA blynyddol gyda'u hysgol neu SAB.

Penderfynodd Gweinidogion Cymru godi’r lwfans wythnosol o £30 i £40 ym mis Ebrill 2023 i helpu dysgwyr gyda realiti costau astudio [troednodyn 4].

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Nod yr adolygiad oedd ymchwilio i effeithiau’r LCA yng Nghymru ac adolygu’r meini prawf cymhwystra presennol a gwerth y dyfarniad. Roedd disgwyl hefyd i'r adolygiad gynnig argymhellion i lywio polisïau a phenderfyniadau yn ymwneud â buddsoddi yn y cynllun yn y dyfodol. 

Roedd disgwyl i’r adolygiad asesu:

  • effaith yr LCA ar benderfyniadau dysgwyr i ymgymryd ag astudiaethau pellach (gan ystyried y gyfradd flaenorol o £30 a'r gyfradd uwch newydd o 2023 ymlaen)
  • effaith yr LCA ar ymgysylltiad dysgwyr â'u hastudiaethau ar ôl iddynt gofrestru
  • effaith yr LCA ar allu dysgwyr i ymdopi â phwysau ariannol yn fwy cyffredinol, yn benodol yng ngoleuni'r argyfwng costau byw
  • y meini prawf cymhwystra a gwerth cymorth yr LCA 
  • sut y dylid parhau i adolygu meini prawf a gwerth y cymorth yn y dyfodol
  • ai’r model LCA yw’r model mwyaf effeithiol ac effeithlon i gefnogi dysgwyr ynteu a ddylid ystyried modelau amgen

Dull

Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng mis Hydref 2023 a mis Mai 2024. Roedd yn cynnwys: 

  • cam cychwynnol, gan gynnwys nifer bach o gyfweliadau cwmpasu 
  • adolygiad pen desg o ddogfennau polisi a dogfennau strategol perthnasol yn ogystal â dogfennau a data'r cynllun
  • arolwg ar-lein o 2,731 o ymgeiswyr LCA 
  • ymweliadau â phum coleg a phum ysgol yng Nghymru, a chyfweliadau â chyfanswm o 26 o staff, 52 o fyfyrwyr sy'n derbyn LCA, 23 o fyfyrwyr nad ydynt yn derbyn LCA ac 16 o ddysgwyr Blwyddyn 11
  • casglu adborth gan 12 o bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd pawb ond un yn cael, neu wedi cael yr LCA
  • cyfweld ag 17 o'r rhai a dderbyniodd yr LCA yn flaenorol
  • cyfweld â chwe rhiant/gwarcheidwad sydd â phlant mewn addysg ôl-16. Roedd pump yn rhieni i fyfyrwyr a oedd yn derbyn LCA 
  • cyfweld â dau aelod o staff ac un dysgwr mewn dau goleg/lleoliad chweched dosbarth yn Lloegr sydd wedi’u lleoli’n agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr
  • hwyluso dwy drafodaeth grŵp ffocws, un gydag wyth o staff SAB a’r llall gyda phedwar aelod o staff ysgol
  • cyfweld â chwe chynrychiolydd o bedwar sefydliad rhanddeiliaid, yn ogystal â thri aelod o staff Llywodraeth Cymru, a hwyluso grŵp ffocws gydag aelodau o Rwydwaith Swyddogion Gofalwyr Ifanc Awdurdodau Lleol (COLIN) 
  • cyfweld â naw cynrychiolydd o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban ac Adran Addysg Llywodraeth y DU i drafod cymorth ariannol cymaradwy ar gyfer addysg bellach
  • cyfuno canfyddiadau'r ymchwil desg, gwaith maes a data'r arolwg; cyflwyno'r canfyddiadau i swyddogion polisi Llywodraeth Cymru; a pharatoi adroddiad

Canfyddiadau allweddol

Nifer sy'n manteisio ar yr LCA a phroffil y derbynyddion yng Nghymru

Ers 2010/11, mae nifer y dysgwyr sy'n gwneud cais am y cynllun ac sy'n cael eu cefnogi ganddo wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24, mae data Gwybodaeth Reoli y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ym mis Chwefror 2024 yn dangos bod cyfanswm o 17,102 o geisiadau wedi dod i law ac y gwnaed 16,153 o ddyfarniadau.

Mae’r gostyngiad mewn ceisiadau am LCA a nifer y ceisiadau sy'n cael eu cymeradwyo wedi cyd-daro â gostyngiad ym mhoblogaeth gyffredinol myfyrwyr 16 i 18 oed dros y pum mlynedd rhwng 2015/16 a 2019/20. Ers hynny mae niferoedd y myfyrwyr wedi adfer i lefel 2016/17 tra bod y ceisiadau am LCA a nifer y ceisiadau sy'n cael eu cymeradwyo wedi parhau i ostwng. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2015/16, roedd y ceisiadau am LCA a gafodd eu cymeradwyo yn cyfrif am 41% o boblogaeth gyffredinol y myfyrwyr 16 i 18 oed. Roedd hyn wedi gostwng i 25% erbyn y flwyddyn academaidd 2022/23.

Mae cyfran yr ymgeiswyr y mae eu ceisiadau am LCA wedi cael eu cymeradwyo sydd wedi’u lleoli mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SAB) wedi cynyddu dros amser ac yn y flwyddyn academaidd 2023/24, roedd yn cyfrif am 76% o’r holl geisiadau LCA a gymeradwywyd. O blith yr holl ddysgwyr ôl-16 yn 2023/24, roedd 66% o’r cofrestriadau mewn SAB. Mae derbynyddion LCA yn cael eu gorgynrychioli mewn SAB er bod mwyafrif y dysgwyr ôl-16 yn mynychu SAB.

Roedd 31% o'r ymgeiswyr y cafodd eu ceisiadau am LCA eu cymeradwyo yn astudio cymwysterau Safon Uwch neu Uwch Gyfrannol yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24. Roedd ychydig yn llai na chwarter, sef 23%, yn astudio ar gyfer cymhwyster BTEC a chwarter arall, sef 24%, yn astudio ar gyfer NVQ.

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24, roedd dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal a oedd yn derbyn LCA yn cyfrif am 3.5% o’r holl dderbynyddion.

Roedd traean (36%) o'r ymatebwyr i'r arolwg yn cael prydau ysgol neu goleg am ddim a chwarter (27%) yn cael cludiant am ddim neu gludiant â chymhorthdal i'r ysgol neu'r coleg. Nid oedd chwarter yr holl ymatebwyr i’r arolwg (24%) yn cael unrhyw gymorth ariannol arall, a chynyddodd hyn i 52% o ymgeiswyr LCA aflwyddiannus a oedd yn astudio mewn ysgol neu goleg (41 o blith 79 o ymatebwyr) [troednodyn 5].

Roedd tua hanner yr holl ymatebwyr i’r arolwg (ymgeiswyr cymeradwy ac aflwyddiannus) wedi profi rhyw fath o galedi bwyd dros y 12 mis blaenorol gan eu bod wedi teimlo'n llwglyd neu heb fwyta’n iawn ar ryw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd tuag un rhan o bump o’r rhai a holwyd wedi profi caledi bwyd mwy difrifol, fel mynd heb fwyd am ddiwrnod cyfan neu roedd y bwyd yn y cartref wedi dod i ben. Dywedodd cyfrannau uwch o ofalwyr ifanc a ymatebodd i’r arolwg eu bod wedi profi caledi bwyd dros y 12 mis blaenorol, ac roedd 27% yn byw ar aelwydydd ble roedd y bwyd wedi dod i ben yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dyluniad yr LCA

Roedd consensws cyffredinol y dylai'r LCA barhau, ac iddo ganolbwyntio ar gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel yn ogystal â’r grwpiau esempt [troednodyn 6] sy'n cael eu cwmpasu gan y canllawiau ar hyn o bryd. Mae lle i ymestyn y grwpiau esempt cymwys i gynnwys gofalwyr ifanc yn ogystal â dysgwyr a gafodd brydau ysgol am ddim yn ystod Blwyddyn 1. 

Roedd barn unfrydol gan bob math o gyfranwyr bod y trothwy incwm aelwydydd ar gyfer yr LCA bellach yn rhy isel, a bu llawer o feirniadaeth ymhlith staff y Ganolfan Ddysgu, rhanddeiliaid, a’r rhai nad oeddent yn derbyn LCA nad oedd hwn wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf i gyd-fynd â'r cynnydd mewn incwm a chwyddiant.

Mae nifer y dysgwyr sy’n cael eu cefnogi gan yr LCA wedi mwy na haneru ers y flwyddyn academaidd 2010/11, o ychydig dros 36,000 i ychydig dros 16,000 erbyn 2023/24, y gellir ei briodoli fwy na thebyg i'r ffaith nad yw trothwyon incwm wedi newid yn ystod y cyfnod hwn. Argymhellodd y gwerthusiad blaenorol y dylai'r cynllun gael ei dargedu'n well at y dysgwyr mwyaf anghenus h.y. y rhai o aelwydydd incwm isel ac o aelwydydd sydd â brodyr a chwiorydd eraill sy'n dal mewn addysg. Fodd bynnag, mae’r adborth a gasglwyd drwy’r adolygiad hwn yn awgrymu bod cyfran y dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg sy’n cael eu cefnogi drwy’r LCA, sef 25%, yn rhy isel bellach. Ar y sail na wneir unrhyw newidiadau ehangach i’r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ôl-16, mae dadl gref y dylai’r LCA gefnogi carfan ychydig yn ehangach o ddysgwyr a byddai mabwysiadu trothwy incwm aelwyd uwch yn caniatáu ar gyfer hynny.

Roedd y cyfranwyr yn meddwl ei bod yn briodol bod y meini prawf presennol yn gwahaniaethu rhwng aelwydydd ag un neu fwy o ddibynyddion eraill, ond roedd awgrym cryf y dylid ehangu’r meini prawf i ystyried nifer y dibynyddion eraill sy'n dal mewn addysg.

Awgrymwyd y byddai’n werth ymchwilio i gynnwys gofalwyr ifanc fel grŵp esempt i fod yn gymwys ar gyfer yr LCA, a/neu osod trothwyon incwm aelwyd uwch ar eu cyfer.

Cafodd y codiad i'r taliadau ym mis Ebrill 2023 ei groesawu'n gyffredinol. Nid ystyriwyd bod cynnydd pellach yn y lwfans yn flaenoriaeth. Hefyd, mae'n dal i fod yn wir bod yr LCA, hyd at £1,600 y flwyddyn [troednodyn 7], yn cymharu'n ffafriol â'r cymorth ariannol sydd ar gael yng ngwledydd eraill y DU.

Cydweddiad LCA â chymorth ariannol arall

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i golegau AB yng Nghymru, drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, i gefnogi dysgwyr a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol neu a allai fel arall adael eu haddysg oherwydd problemau ariannol. Gall colegau AB osod eu meini prawf trothwy incwm eu hunain ar gyfer y Gronfa, fodd bynnag, yn ymarferol mae’r rhan fwyaf yn defnyddio trothwyon yr LCA ar gyfer pennu cymhwystra ar gyfer y cynllun. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sy'n dod o aelwydydd incwm isel yn aml yn cael cymorth gan y ddau gynllun, ond nad yw dysgwyr o aelwydydd ag incwm sydd ychydig uwchlaw trothwy cymhwystra'r LCA yn cael unrhyw gymorth ariannol o gwbl.

Mae’r rhan fwyaf o’r derbynyddion yn gwario'r LCA ar gostau sy’n ymwneud â’u haddysg, ac mae’r rhan fwyaf o’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn a ddyrennir i golegau AB i gefnogi dysgwyr yn cael ei gwario ar yr un darpariaethau ar draws colegau h.y. bwyd yn y coleg, llyfrau neu gyfarpar ar gyfer y coleg, neu gostau teithio i'r coleg. 

Mae'r ddarpariaeth o brydau a chludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16 ledled Cymru yn anghyson ac mae colegau AB yn darparu bwyd am ddim a/neu lwfansau prydau bwyd yn gynyddol i ddysgwyr. Byddai’n werth ystyried sut y gellid mynd i’r afael â’r anghysondeb hwn, er enghraifft drwy ddarparu cludiant am ddim a phrydau am ddim i ddysgwyr o aelwydydd incwm isel ar draws lleoliadau ysgolion a cholegau AB. Pe bai modd mynd i’r afael â chostau uniongyrchol ymgysylltu ag addysg drwy ddulliau eraill, yna byddai’r angen am yr LCA (a’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn) yn lleihau yn y dyfodol.

Nid yw'r lwfans o £40 yn ystyried pa gymorth ariannol arall y gallai dysgwyr ei gael a beth yw'r costau addysg gwirioneddol. Yn ei hanfod, nid yw’r LCA yn gwahaniaethu rhwng dysgwyr ar sail pa gyllid arall y gallent ei gael a’r costau y maent yn debygol o’u hwynebu. 

Yr ateb hirdymor mwyaf priodol fyddai mynd i’r afael â’r cymorth addysg bellach yn ehangach, er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei dargedu tuag at fynd i’r afael â’r costau gwirioneddol yr eir iddynt gan ddysgwyr yn sgil ymgysylltu ag addysg bellach, waeth beth fo’u dewis o leoliad.

Defnyddir y Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn effeithiol i gefnogi dysgwyr mewn colegau AB gyda’r costau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu ag addysg, gyda dyraniad blynyddol o £6.88 miliwn. Pe bai’r trothwyon LCA yn cael eu cynyddu, mae colegau AB yn fwy tebygol o gynyddu trothwy eu Cronfa Ariannol Wrth Gefn i gyd-fynd ag LCA, gan ehangu nifer y dysgwyr y maent yn eu cefnogi.

O ran clywed am yr LCA a gwneud cais amdano

Daw'r rhan fwyaf o ddysgwyr i glywed am yr LCA ar ddechrau Blwyddyn 12 a chaiff y cynllun ei hyrwyddo'n effeithiol ar yr adeg hon. Mae ysgolion yn tueddu i deilwra eu cyfathrebu am y cynllun tra bod colegau yn mabwysiadu dulliau hyrwyddo ehangach i dargedu cynulleidfa ehangach.

Ychydig o ymwybyddiaeth sydd gan ddysgwyr o'r cynllun cyn Blwyddyn 12, ac mae lle i wella ar hynny.

Daw dysgwyr sydd â phrofiad o ofal i glywed am yr LCA o ystod ehangach o ffynonellau na dysgwyr nad ydynt wedi cael profiad o ofal, ond mae angen gwella'r ddealltwriaeth ymhlith gweithwyr cymdeithasol, gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o gefnogi rhai dysgwyr i wneud cais.

Croesewir y ffaith bod ffurflen gais ar-lein wedi'i chyflwyno ac mae mawr ei hangen. Soniodd y rhai a oedd wedi cwblhau cais ar-lein am brofiad mwy cadarnhaol na’r rhai a gwblhaodd ffurflen bapur, yn bennaf oherwydd bod y ffurflen yn fyrrach oherwydd y defnydd o gwestiynau penodol. 

Roedd llawer o ddysgwyr, yn enwedig y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu sydd ag ADY, yn gweld y cwestiynau a'r derminoleg a ddefnyddir ar y ffurflen gais yn anodd, ac roedd awydd i weld yr iaith yn cael ei symleiddio.

Cytundebau Dysgu LCA a monitro presenoldeb

Roedd yr hyn yr oedd y dysgwr yn ei gofio am Gytundebau Dysgu LCA yn niwlog, ond er gwaethaf hyn roedd gan ddysgwyr ddealltwriaeth dda o’u goblygiadau o ran lefel y presenoldeb yr oedd ei angen er mwyn derbyn eu taliadau LCA. 

Mae lefel presenoldeb y dysgwyr yn amrywio o un Ganolfan Ddysgu i’r llall, gan fod Cytundeb Dysgu'r LCA yn cael ei ddatblygu rhwng y dysgwr a’r Ganolfan Ddysgu.

Yn seiliedig ar yr adborth a gasglwyd gan Ganolfannau Dysgu a gyfrannodd at yr adolygiad hwn, roedd ysgolion yn fwy rhagweithiol na cholegau AB wrth ddilysu materion yn ymwneud ag absenoldebau anawdurdodedig cyn adrodd ar ddata presenoldeb i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr oherwydd bod ganddynt nifer lai o ddysgwyr LCA yn eu lleoliad. 

Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranwyr yn meddwl bod presenoldeb yn ffordd effeithiol o ddyfarnu'r LCA ond er bod dyfarnu'r LCA ar sail lefel dderbyniol o bresenoldeb yn effeithiol, gall gofynion presenoldeb llym fod yn anfantais i ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr anabl, y rhai sy'n wael eu hiechyd a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Colli taliadau oedd y broblem fwyaf a godwyd gan dderbynyddion yr LCA a chanfuwyd bod hyn yn achosi llawer o boen meddwl a phryder i ddysgwyr. Roedd dysgwyr o'r farn ei bod yn arbennig o annheg eu bod yn colli'r taliad wythnosol cyfan o £40 am fethu dim ond un wers neu gyfnod cofrestru.

Mae llawer o ddysgwyr yn ei chael hi'n anodd bodloni'r gofynion presenoldeb a osodir gan eu Canolfan Ddysgu ac roedd ystod eang o ffactorau i gyfrif am yr absenoldebau anawdurdodedig hyn, gan gynnwys problemau ar ochr y Canolfannau Dysgu. Awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i sut y gellid ymgorffori mwy o hyblygrwydd yn y model talu ar sail presenoldeb ac a fyddai symud tuag at lwfansau dyddiol, yn hytrach na lwfansau wythnosol, yn achosi llai o straen a phryder i ddysgwyr.

Pwysigrwydd yr LCA a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud

Mae'r LCA yn lleddfu straen a phryder ariannol ymhlith dysgwyr a'u teuluoedd ac mae'n chwarae rhan allweddol o ran cyfrannu at lesiant dysgwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r derbynyddion yn ystyried ei fod yn hanfodol neu'n eithaf pwysig a'i fod yn lleihau dibyniaeth dysgwyr ar eu teuluoedd am gymorth ariannol. O gymharu, ceir tystiolaeth ddiamheuol bod y rhai nad ydynt yn derbyn LCA (y tybir eu bod yn dod o aelwydydd incwm isel) yn wynebu caledi ariannol, yn mynd heb eitemau hanfodol, ac yn bryderus iawn am eu sefyllfaoedd ariannol.

Nid yw'r LCA yn cael llawer o effaith ar benderfyniadau dysgwyr i ymgymryd ag astudiaethau pellach, gan y byddai'r rhan fwyaf o ddysgwyr wedi parhau â'u haddysg beth bynnag ac yn gwneud eu penderfyniad cyn clywed am y lwfans sydd ar gael iddynt. Mae unigolion yn dewis parhau mewn addysg am resymau cadarnhaol gan eu bod yn rhoi gwerth ar eu haddysg ac mae ganddynt uchelgeisiau gyrfa a/neu uchelgeisiau ar gyfer addysg uwch yn y dyfodol.

Mae adborth gan Ganolfannau Dysgu a derbynyddion yr LCA yn awgrymu bod yr LCA yn cael effaith gadarnhaol ar gyfraddau presenoldeb ymhlith y rhai sy'n ei dderbyn, gan fod yr ofn o golli eu taliadau yn gymhelliant cryf dros fynychu. Mae rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd gan Ganolfannau Dysgu bod y cynnydd diweddar yn y lwfans i £40 wedi gwella lefelau presenoldeb ymhellach.

Dywedodd y rhan fwyaf o ddysgwyr eu bod yn fwy abl i gymryd rhan mewn gwersi ac yn ymwneud yn fwy â gweithgareddau allgyrsiol a theithiau oherwydd eu bod yn derbyn yr LCA, dywedodd 60% o’r rhai a holwyd fod derbyn yr LCA yn golygu eu bod yn bendant neu o bosibl yn fwy abl i gymryd rhan mewn gwersi.

Mae effaith ganfyddedig y lwfans ar gyflawniad addysgol yn llai amlwg. Mae Dysgwyr a Chanolfannau Dysgu yn credu bod cydberthynas rhwng presenoldeb cryf a chyflawniad addysgol, ac mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu bod yr LCA yn caniatáu i ddysgwyr ganolbwyntio ar eu hastudiaethau o ganlyniad i'r ffaith ei fod yn lleihau'r pwysau ariannol.

Roedd yr heriau ariannol a wynebir gan ddysgwyr yn ystod addysg bellach yn peri i rai gwestiynu eu gallu i fforddio addysg uwch yn y dyfodol, er eu bod yn ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Argymhellion

Mae'r adolygiad yn cynnig yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

  1. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weinyddu’r LCA yng Nghymru, a’i bod yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.
  2. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ehangu’r grwpiau sy'n esempt o'r LCA i gynnwys gofalwyr ifanc a'r rhai sydd wedi bod yn cael prydau ysgol am ddim.
  3. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ystyried sut i fynd i’r afael â’r annhegwch ehangach o ran mynediad i gymorth ar draws addysg bellach yng Nghymru, ac yn archwilio’n benodol sut y gallai ddarparu cludiant am ddim a phrydau am ddim i ddysgwyr o aelwydydd incwm isel ar draws lleoliadau ysgolion a cholegau AB. Dylai Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ddisgrifio'n fanylach pa gludiant sydd ar gael ar hyn o bryd a beth fyddai’r gost o lenwi'r bylchau hyn. 
  4. Pe bai adnoddau ariannol yn caniatáu, byddem yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r trothwyon incwm aelwydydd ar gyfer dyfarnu’r LCA, gan gadw’r model trothwy dwy haen sydd ar waith ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer amgylchiadau aelwydydd â niferoedd gwahanol o ddibynyddion. Byddem yn argymell bod y trothwy incwm aelwydydd yn cael ei gysoni â’r cyflog byw gwirioneddol, sydd ar hyn o bryd yn gyflog blynyddol o £23,400 os yw rhywun yn gweithio'n llawn amser. 
  5. Rydym yn argymell na ddylid gwneud unrhyw newid i werth y lwfans ar hyn o bryd. Pe bai adnoddau ariannol yn caniatáu, byddem yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu symiau yn y dyfodol yn unol â'r cynnydd blynyddol mewn chwyddiant fel y nodir yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr neu yn unol â chodiadau canrannol mewn cymorth grant i fyfyrwyr addysg uwch.
  6. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn sicrhau bod ysgolion a cholegau AB yn gwneud mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o'r LCA a'i hyrwyddo yn gynharach ymhlith dysgwyr Blwyddyn 11 a allai fod yn gymwys i'w gael, yn enwedig y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim a grwpiau agored i niwed fel y rhai â phrofiad o fod mewn gofal. 
  7. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’i sefydliadau rhanddeiliaid yn ymchwilio i sut y gellir gwella dealltwriaeth gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr allweddol o’r LCA fel eu bod mewn sefyllfa well i hysbysu dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr ifanc am yr LCA, cefnogi eu cais a sicrhau bod gan y dysgwr fynediad uniongyrchol i'r arian ar ôl iddynt ei dderbyn. 
  8. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ystyried sut y gellid symleiddio’r iaith a’r derminoleg a ddefnyddir ar ffurflen gais LCA a’i gwneud yn fwy hygyrch i bobl ifanc. 
  9. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn archwilio sut y gallai Canolfannau Dysgu fabwysiadu mwy o hyblygrwydd o fewn eu polisïau presenoldeb a’u gweithgarwch monitro i sicrhau nad yw derbynyddion yr LCA yn colli taliadau. Efallai hefyd y byddai’n werth i Lywodraeth Cymru archwilio a fyddai model taliadau dyddiol, yn hytrach nag wythnosol, ar gyfer yr LCA yn achosi llai o straen a phryder i ddysgwyr.
  10. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu dadansoddiad meintiol o ffynonellau data eilaidd yn y dyfodol, er mwyn gwella’r dystiolaeth am effaith yr LCA yng Nghymru. 

Troednodiadau

[1] Er mwyn bod yn gymwys yn 19 oed, mae'n rhaid bod y dysgwr yn parhau â chwrs neu raglen astudio bresennol neu'n cwblhau cwrs neu raglen astudio bresennol a heb gael mwy na dwy flynedd o gymorth LCA yn ystod y tair blynedd flaenorol. 

[2] Mae'r cynllun a oedd yn cwmpasu'r DU gyfan wedi dod i ben bellach. 

[3] Fodd bynnag, gall ymgeiswyr wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen bapur o hyd, os yw'n well ganddynt wneud hynny.

[4Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg

[5] Rhagdybir y gallai cyfran fawr o ymgeiswyr aflwyddiannus fod wedi methu'r trothwy incwm ar gyfer cymhwystra o drwch blewyn, ond tybir eu bod yn dod o deuluoedd incwm isel yn bennaf.

[6] Mae'r rhain yn ddysgwyr sydd yng ngofal yr awdurdod lleol, gyda rhieni maeth neu'n gadael gofal; yn gyfrifol am eu plentyn eu hunain; yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm; â hawl i gael credyd cynhwysol o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, neu yn y ddalfa neu'n cael eu cadw o fewn y system cyfiawnder ieuenctid gan gynnwys Sefydliad Troseddwyr Ifanc, Canolfan Hyfforddi Ddiogel, neu Gartref Plant Diogel.

[7] Wedi'i gyfrifo ar sail 40 wythnos y flwyddyn.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Bryer, N; Bebb, H; a Grover, T

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Emma Hall
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 55/2024
ISBN digidol 978-1-83625-351-8

Image
GSR logo