Neidio i'r prif gynnwy

Bil newydd y Gymraeg ac Addysg i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg, gyda'r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus erbyn 2050, beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg.

Ar hyn o bryd, mae gallu disgyblion i siarad Cymraeg yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar ba ysgol y maent yn ei mynychu. Bydd y Bil yn mynd ati i gau’r bwlch o ran gallu disgyblion yn y Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles: 

Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'r cynigion hyn yn ymwneud â rhoi cyfle tecach i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae cefnogaeth eang i'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a heddiw, rydym yn cymryd cam hanfodol tuag at wireddu'r uchelgais honno.

Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall pob un fod yn falch o'u treftadaeth a'u sgiliau dwyieithog neu amlieithog.

Mae'r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ar draws Cymru.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: 

Mae ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru, ac rwy'n ymfalchïo yn yr hyn y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd. Mae’r Bil yn brosiect hirdymor a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg i'w gweithgareddau.

Mae'r gefnogaeth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer yr athrawon all weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.

Dywedodd Lisa Jenkins, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Stanwell: 

Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud ein dysgwyr yn hyfedr yn y Gymraeg ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Ers 2023 mae wedi bod yn un o'n blaenoriaethau gwella ysgol ac mae'n ffocws ar lawer o'n gwaith o ran datblygu safonau, gwerthoedd a sgiliau.

Rydyn ni wedi addasu ein hamserlen i gynyddu nifer y gwersi Cymraeg ym Mlynyddoedd 7 ac 8 i sicrhau eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith yn amlach ac rydym yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi yn ein gweledigaeth hirdymor. Bwriad y Bil newydd hwn yw adeiladu'r sylfeini ac rydym yn cefnogi unrhyw fesurau sy'n cefnogi ysgolion i gyflawni hyn.

Rhannodd Isabella Colby Browne, a aned yn America a symudodd i Sir y Fflint yn ifanc, ei phrofiad: 

Am gyfnod fel dysgwr, roeddwn yn eiddigeddus iawn o fy ffrindiau oedd wedi mynd i ysgolion Cymraeg. Fodd bynnag, wrth fynd i ysgol Saesneg ac yna penderfynu dysgu Cymraeg yn ddiweddarach, dwi wedi cael fy mhrofiad unigryw a chyffrous fy hun o ddysgu’r iaith.

Mae'r Bil yn cyflwyno dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg i bobl o bob oed, cam sydd wedi ei groesawu gan arweinwyr busnes. Dywedodd Siân Goodson, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni chwilio gweithredol Goodson Thomas:

Rydym yn cydnabod gwerth galluogi pobl ifanc i fod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt adael yr ysgol. Rydym yn aml yn cael sgyrsiau gydag ymgeiswyr sy'n tanamcangyfrif eu sgiliau iaith ac yn gweithio gyda nhw i bontio'r bwlch rhwng eu galluoedd canfyddedig â disgwyliadau ein cleientiaid.