Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Fran Targett (Cadeirydd), Annibynnol
Adrian Devereux, Llywodraeth Cymru
Amanda Main, CBS Caerffili
Anna Friend, Cyngor Sir y Fflint
Benjamin Gibbs, Llywodraeth Cymru
Claire Germain, Llywodraeth Cymru
Glyn Jones, Llywodraeth Cymru
Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid
Joanna Goodwin, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Karen McFarlane, Plant yng Nghymru
Kevin Griffiths, Llywodraeth Cymru 
Launa Anderson, Llywodraeth Cymru 
Leah Whitty, Llywodraeth Cymru
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Nigel Griffiths, CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Nigel Oanea-Cram, The Trussell Trust
Steffan Evans, Sefydliad Bevan

Hwyluswyr

Paul Neave, Llywodraeth Cymru
Mel James, Llywodraeth Cymru
Sam Pidduck, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru
Beatrice Orchard, The Trussell Trust
Matthew Evans, Cymdeithas Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru
Victoria Lloyd, Age Cymru
Miranda Evans, Anabledd Cymru

Croeso gan y Cadeirydd

Dechreuodd y sesiwn gydag aelodau'n cytuno i gyhoeddi Cylch Gorchwyl, cofnodion ac allbynnau'r grŵp ar dudalen we Llywodraeth Cymru. Cytunodd yr aelodau i rannu cyfeiriadau e-bost rhwng aelodau'r grŵp hefyd. 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cymeradwyodd y grŵp y cofnodion drafft o'r cyfarfod diwethaf (14 Chwefror 2024).

Adborth gan y Grŵp Cynghori Digidol, CLlLC

Yn dilyn y cyfarfod diwethaf, fe wnaeth LP gyfarfod yn fewnol â chydweithwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac yn dair ochrog gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, fe wnaeth gyflwyno ar y gwaith i symleiddio System Budd-daliadau Cymru yng nghyfarfod diweddar y Grŵp Cynghori Digidol (GCD).

Mae'r GCD yn cynnwys y Prif Swyddog Digidol (neu swyddog cyfatebol) o bob un o'r 22 Awdurdod Lleol ac mae'n cyfarfod bob yn ail fis gyda CLlLC i drafod anghenion a blaenoriaethau cyfredol.

Yn dilyn adborth gan y GCD, nodwyd chwe maes ffocws:

  1. Ymrwymiad.
  2. Perchnogaeth.
  3. Adnoddau a Chyllid.
  4. Cynrychiolaeth Llywodraeth Leol ar Ffrydiau Gwaith.
  5. Cyfathrebu ar draws Llywodraeth Leol.
  6. Deall Systemau a Phrosesau Cyfredol. 

Ymrwymiad

Bydd y gwaith i symleiddio System Budd-daliadau Cymru yn gofyn am fynediad at ddata, pobl ac adnoddau eraill. Mae sicrhau llwyddiant ac ymrwymiad ar lefelau uwch o fewn Awdurdodau Lleol yn hanfodol.

Cyflwynodd LP / CLlLC gyfres o gynigion i sicrhau / cynnal ymrwymiad Awdurdodau Lleol. Gan gynnwys yr awgrym i gyflwyno briff i uwch arweinwyr cynghorau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y prosiect, o ble y daeth a manteision cymryd rhan. 

At hynny, awgrymwyd y gellid gofyn i bob Awdurdod Lleol enwebu arweinydd ar gyfer y gwaith hwn. Yna byddai'r arweinwyr hyn yn ffurfio Grŵp Craidd ac yn dod yn ffynhonnell gyfathrebu ganolog ar ein gwaith o fewn eu Hawdurdod Lleol.

Yn ogystal, gellid ategu'r pwyntiau uchod â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gytuno a chadarnhau disgwyliadau Awdurdodau Lleol. 

Cynigiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydlynu'r camau hyn. 

Perchnogaeth

Roedd adborth ynghylch perchnogaeth yn cynnwys ceisiadau am eglurder ar i) pwy sy'n gyfrifol ac yn atebol am y darn hwn o waith, ii) gwneud penderfyniadau a llywodraethu iii) rheoli ffrydiau gwaith a iv) sut y bydd y cynllun gweithredu yn cael ei gymeradwyo.

Adnoddau ac arian

Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, yr adborth gan y GCD oedd bod y gwaith hwn yn gofyn am newid sylweddol ar draws sectorau a gwasanaethau. Bydd hyn yn gofyn am adnoddau dynol ac ariannol.

Cynrychiolaeth Llywodraeth Leol ar Ffrydiau Gwaith

Llywodraeth Leol fydd y prif randdeiliad ar gyfer y darn hwn o waith wrth gyflawni newidiadau – dylid eu cynnwys ym mhob cam ym mhob ffrwd waith. Gellid cyflawni hyn gyda chymorth y "Grŵp Craidd" a drafodwyd yn gynharach. 

Roedd y GCD hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd llais defnyddwyr yn bwydo i mewn i’r holl waith cyn gynhared â phosibl.

Cyfathrebu ar draws Llywodraeth Leol 

Rhannodd y GCD enghreifftiau o lle roedd ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gwaith o fewn awdurdodau lleol yn isel. Nodwyd bod angen codi ymwybyddiaeth ar draws llywodraeth leol ar bob lefel gyda'r nod o ddarparu eglurder ar y canlyniadau a’r buddion a fwriedid.

Dealltwriaeth o Systemau a Phrosesau Cyfredol 

Er bod llawer o ymchwil a gwybodaeth lefel uchel ar gael ar weinyddu Budd-daliadau Cymru, y cam nesaf fyddai sefydlu lefel briodol o fanylion ar gyfer pob cyngor. Bydd hyn yn cynnwys deall systemau, prosesau, llunwyr penderfyniadau a theithiau defnyddwyr presennol.

Trafodaeth Gyffredinol 

Diolchodd y Cadeirydd i LP am y cyflwyniad a chytunodd mai Llywodraeth Leol a'r bobl sy'n darparu Budd-daliadau Cymru yw'r rhanddeiliaid allweddol. Gan barhau i ddatgan y bydd llawer o'r meysydd a godir gan y cyflwyniad yn cael sylw wrth i'r ffrydiau gwaith fynd rhagddynt, ond y bydd angen i ni gadw y pwyntiau hyn mewn cof wrth i ni fynd ymlaen. 

Gan nodi bod y gwaith ar System Budd-daliadau Cymru wedi'i gymeradwyo yng Nghyngor Partneriaeth Cymru, cynigiodd CG ei chefnogaeth hi a'i thîm o fewn Llywodraeth Cymru i CLlLC wrth fynd i'r afael ymhellach â'r pwyntiau a godwyd gan y GCD, megis y broses ar gyfer cymeradwyo'r cynllun gweithredu a chyfleu nodau'r grŵp hwn. 

Mewn cytundeb ac i gefnogi cynnig CLlLC i gydlynu'r darn hwn o waith, awgrymodd y Cadeirydd fod y grŵp llywio yn neilltuo peth amser i ystyried y materion hyn.

O ran cynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith hwn, rhannodd SE y bydd sesiwn ymylol yng Nghynhadledd CLlLC-Plaid yn canolbwyntio ar y gwaith i symleiddio System Budd-daliadau Cymru.

Wrth gydnabod y gefnogaeth wleidyddol a ddarparwyd gan y Cynghorydd Hunt, Llefarydd Cyllid Arweiniol CLlLC, adleisiodd y Cadeirydd y galwadau am sicrhau ymrwymiad gwleidyddol ehangach o fewn Awdurdodau Lleol.

Pwynt Gweithredu 1: Gyda chefnogaeth y grŵp, CLlLC a Llywodraeth Cymru, bwrw ymlaen â'r cynigion uchod.

Pwynt Gweithredu 2: SE / Sefydliad Bevan i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith i symleiddio System Budd-daliadau Cymru yng Nghynhadledd CLlLC-Plaid.

Pwynt Gweithredu 3: Cyfarfod yn y dyfodol i drafod cymeradwyo'r cynllun gweithredu a chodi ymwybyddiaeth.

Cyflwyniadau hwyluswyr ffrydiau gwaith

Ers y cyfarfod diwethaf, mae 6 chynrychiolydd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i hwyluso'r ffrydiau gwaith. 

  • Dylunio/ data: Glyn Jones
  • Ymchwil a gwerthuso: Josh Parry 
  • Cymhwysedd: Leah Whitty 
  • Cam 1: Ben Gibbs
  • Cyfathrebu strategol: Adrian Devereux
  • Dysgu a datblygu: Kevin Griffiths

Adolygiad o aelodaeth a blaenoriaethau ffrydiau gwaith

Cafwyd trafodaeth ar ddogfen a luniwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn dwyn ynghyd yr awgrymiadau gan aelodau’r grŵp llywio ar gyfer blaenoriaethau ac aelodaeth Ffrydiau Gwaith. Isod ceir crynodeb o'r drafodaeth.  

Dylunio/data 

Blaenoriaethau

Roedd cytundeb cyffredinol i'r nod a'r camau blaenoriaeth a gynigiwyd ar gyfer y ffrwd waith Dylunio / Data. Awgrymwyd y dylai pwyslais uniongyrchol y ffrwd waith hon fod ar ddau gam gweithredu penodol – 1. archwilio meddalwedd a phrosesau presennol ar gyfer gweinyddu budd-daliadau Cymru a 2. archwilio gofynion cipio data ar gyfer Budd-daliadau Cymru ac adnabod dyblygu data. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod ar draul nodau tymor hwy eraill. 

Aelodaeth

Cytunwyd y gellid symud rhai o'r cynrychiolwyr Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CGCD) a osodwyd yn wreiddiol yn y ffrwd waith hon i gefnogi gwaith Cam 1. Yn y cyfamser, gallai'r ffrwd waith hon estyn allan at gynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol ychwanegol, Data Cymru, Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Ymchwil a gwerthuso

Blaenoriaethau

Roedd trafodaethau'n ymwneud â diwygio'r nod o gynhyrchu egwyddorion a daliadau dyluniad gwerthuso ar gyfer y darn hwn o waith, yn hytrach na dull gwerthuso. Yn ogystal, awgrymwyd y dylai pwyslais cychwynnol y ffrwd waith hon fod ar Gam Un. Yn olaf, cytunwyd y dylid ailenwi'r ffrwd waith hon yn Ymchwil, Gwerthuso a Monitro. 

Aelodaeth

Awgrymwyd y gallai'r ffrwd waith elwa o ychwanegu economegydd ac arbenigwr data/ystadegau Trydydd Sector, a allai fod yn gynrychiolydd o dîm polisi Cyngor ar Bopeth sy'n cynhyrchu’r Dangosfwrdd Costau Byw. Cytunwyd y gallai fod angen eithrio aelodau penodol o drafodaethau masnachol pe bai angen caffael unrhyw ymchwil pellach os byddai cael eu cynnwys yn cynrychioli gwrthdaro buddiannau.

Cymhwysedd

Blaenoriaethau

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar yr anhawster o ddatgysylltu materion yn ymwneud â chymhwysedd i Fudd-daliadau Cymru a’u gwerth. Er enghraifft, er nad lle'r grŵp llywio yw ystyried gwerth ariannol budd-daliadau Cymru, efallai y byddai'n briodol ystyried manteision ehangu cymhwysedd ar gost, os yw'n symleiddio'r gwaith gweinyddu ac yn darparu arbedion. 

Aelodaeth

Awgrymwyd y byddai'r grŵp yn elwa o economegydd i gynghori ar gostau/buddion cysylltiedig ac efallai y bydd yn rhaid i'r grŵp ymgysylltu â Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Cam 1

Blaenoriaethau

Cytunwyd ar welliant i nod cyffredinol y ffrwd waith hon. Roedd hyn er mwyn ei gwneud yn glir bod y ffrwd waith yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n ofynnol ar gyfer symleiddio Budd-daliadau Cymru Cam 1 ym mhob Awdurdod Lleol, ac nid cyflwyno un broses wedi’i symleiddio ar draws pob Awdurdod Lleol.

Aelodaeth

Nodwyd bod arweinwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Grant Hanfodion Ysgolion wedi cytuno i ymuno â'r ffrwd waith. Yn ogystal â'r gallu i ddefnyddio Grŵp Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru fel cymuned ymarfer naturiol.  

Cyfathrebu strategol

Blaenoriaethau

Cytunwyd ar y camau blaenoriaeth a gynigiwyd.

Aelodaeth

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol cael cynrychiolydd o dîm cyfathrebu'r sector cynghori. Nodwyd y gallu i ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol drwy'r sianeli presennol. 

Dysgu a datblygu

Blaenoriaethau

Cytunwyd ar y camau blaenoriaeth a gynigiwyd.

Aelodaeth

Awgrymwyd, er mwyn deall yn llawn yr heriau dysgu a datblygu y mae Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu, byddai cael cynrychiolwyr ychwanegol o Awdurdodau Lleol sydd ar wahanol gamau o’r broses symleiddio ar gyfer budd-daliadau Cam 1 yn fuddiol.

Trafodaeth ehangach

Cytunwyd y gallai hwyluswyr ffrydiau gwaith ddiwygio'r camau blaenoriaeth a'r aelodaeth a gynigiwyd, yn unol â'r hyn a drafodwyd. 

Yn olaf, a chan ddod â'r eitem hon ar yr agenda i ben, cytunwyd na fyddai'r Cadeirydd yn aelod parhaol o unrhyw un o'r ffrydiau gwaith ond y byddai'n mynychu mewn modd ad hoc mewn unrhyw gyfarfod ffrwd waith fel y bo'n briodol. 

Pwynt Gweithredu 4: Pob hwylusydd ffrwd waith i adolygu’r blaenoriaethau a’r aelodaeth a gynigiwyd.

Unrhyw fusnes arall a'r cyfarfod nesaf

Cadarnhawyd y bydd cyfarfod nesaf y grŵp yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd ym mis Ebrill. Gyda'r cyfarfod canlynol yn cael ei gynnal yn rhithiol ym mis Mehefin.