Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ystadegau swyddogol dan ddatblygiad yw'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn y trydydd Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2023. Mae’r CBGY yn casglu gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Rhwng 2022 a 2023, gwelwyd ostyngiad o 2.7% yn y nifer o athrawon yn gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, a gwelwyd ostyngiad o 2.3% yn y nifer o staff cymorth. Un esboniad posib am y gostyngiad yn y nifer o athrawon yw natur dros dro, a’r newidiadau i, arian Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RAChS). Darparwyd arian RAChS i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID a’r cyfnod adferu hyd at 2023-24, er mae’r swm sydd wedi’i ddyrannu wedi lleihau ers yr ariannu gwreiddiol yn 2020-21. Roedd y mwyafrif o’r staff yma wedi’u cyflogi ar sail dros dro ac mae hyn wedi effeithio y newidaiadau sydd i’w gweld yn y gweithlu ysgol. Ceir mwy o wybodaeth Werthusiad o’r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

Mae’r tablau StatsCymru cysylltiedig yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl ar y gweithlu ysgol, yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol a sector.

Ar hyn o bryd, dylid parhau i ddefnyddio’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) fel y ffynhonell swyddogol ar gyfer ystadegau ar y gweithlu ysgol. Unwaith mae safon data’r CBGY wedi eu sicrhau yn llawn, bydd y CBGY yn disodli’r elfennau gweithlu yn y CYBLD.

Caiff Datganiad Ysgol y CBGY ei gwblhau gan ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae ysgolion yn cofnodi a diweddaru data ar y gweithlu drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth (SRhG). Mae’r Datganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY yn cael ei gwblhau gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion sydd wedi dewis peidio ag ymrwymo i gytundebau lefel gwasanaeth adnoddau dynol a/neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Caiff y data eu cynnal drwy’r flwyddyn yn eu systemau adnoddau dynol a chyflogres. Mae’r ddwy elfen yn cael eu cysylltu’n ddi-enw er mwyn galluogi dadansoddi cyflogau aabsenoldebau trwy salwch athrawon yn ôl nodweddion ysgol a staff. 

Gweler ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).

Prif bwyntiau

  • Roedd yna 25,740 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 2.7% o’i gymharu â Thachwedd 2022.
  • 19,115 o athrawon (74.2%) yn fenywod. Roedd menywod yn cyfri am 65.1% o athrawon mewn swyddi Arweinyddiaeth.
  • 10,060 o athrawon (39.1%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch
  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 7.8 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (4.5) yn is i’w gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (9.1).
  • Cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon oedd £47,691
  • Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith collwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch oedd 11.3, lawr o 12.8 yn 2021/22.
  • Roedd yna 30,155 staff cymorth, gostyngiad o 2.3% o’i gymharu â Thachwedd 2022.

Athrawon

Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r casgliad data CBGY Ysgol. Mae’r CBGY Ysgol yn cael ei gwblhau gan bob ysgol wedi’i chynnal gan awdurdodau lleol ac yn adlewyrchu’r gweithlu ar ddyddiad y cyfrifiad sydd fel arfer ar ddechrau Tachwedd. Y dyddiad cyfrifiad oedd 7 Tachwedd 2023. Nid yw’r CBGY Ysgol yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol heb contract gyda ysgolion penodol. Mae’r staff yma wedi’u cynnwys yn y rhan cyflogau athrawon. Fel rhan o’r data CBGY Ysgol mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gofnodi sy’n dangos y gyfran o amser contract llawn mae’r unigolion yn gwario ym mhob rôl ac ysgol.

Rolau athrawon

  • Ym mis Tachwedd 2023, roedd yna 25,740 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 2.7% o’i gymharu â Thachwedd 2022. 
  • Roedd yna 23,995 o athrawon cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 1], lawr 2.6% ar 2021.
  • Ar sail mesur person cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 2], roedd yna 21,490 athro (83.5%) yn gweithio fel athro dosbarth wedi cymhwyso.
  • Roedd y mwyafrif o staff addysgu yn gweithio mewn ysgolion cynradd (47.6%) neu ysgolion uwchradd (40.8%).

Nodweddion athrawon

  • 19,115 o athrawon (74.2%) yn fenywod. Mewn rolau arweinyddiaeth, roedd menywod yn cyfri am 65.1% o athrawon mewn swyddi Arweinyddiaeth [troednodyn 3].
  • Roedd yna chyfran uwch o athrawon benywaidd mewn ysgolion cynradd (83.0%) i gymharu ag ysgolion uwchradd (65.1%).
  • 15,555 o’r holl athrawon (60.4%) yn uniaethu fel Cymraeg.
  • 350 athro (1.4%) ag ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4]. Roedd yna gyfran lai o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol mewn rolau arweinyddiaeth (a, 0.7%).
  • 210 athro (0.8%) wedi nodi bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.

Gallu athrawon yn y Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae athrawon yn nodi eu sgiliau iaith Gymraeg yn erbyn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg ymarferwyr addysg. Mae’r ffigurau isod yn mesur y nifer o athrawon sydd ag sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd, uwch neu hyfrededd gan bod hyn yn dangos bod gan rhai unigolion y sgiliau anghenrheidiol i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond efallai angen datblygu eu sgiliau ac hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.

  • 10,060 o athrawon (39.1%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch [troednodyn 5]. Roedd y gyfran yn amrywio rhwng sectorau ysgol, gyda 31.3% mewn ysgolion uwchradd a 52.1% mewn ysgolion ganol. Ar lefel awdurdod lleol, roedd y gyfran yn amrywio o 13.5% ym Mlaenau Gwent i 92.8% yng Ngwynedd.
  • Roedd 6,390 o athrawon (24.8%) yn dysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu swydd bresennol, â 1,585 (6.2%) arall yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond ddim yn gwneud ar y pryd yn eu Swydd presennol.

Ffigur 1: Cyfran o athrawon â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn, Gwynedd a Ceredigion sydd â’r gyfran uchaf o athrawon â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch. Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy sydd â’r gyfran isaf.

Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol

Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru 

[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y 'Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg'

Pynciau a ddysgir gan athrawon

Mae’r data yma yn adlewyrchu pynciau a ddysgir i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 dros amserlen pythefnos arferol.

  • Roedd y gyfran fwyaf o amserlen addysgu ysgolion yn addysgu Mathemateg (136%), Saesneg (13.2%), Gwyddoniaeth [troednodyn 6] (10.3%), Cymraeg (7.4%) ac Addysg Gorfforol (6.8%).
  • Ar gyfartaledd, dysgir 1 o bob 5 awr addysgu (20.9%) yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Unigolion yn addysgu Mathemateg oedd yn gwario’r gyfran fwyaf o’u hamserlen yn addysgu’r pwnc hynny (84.7%) [troednodyn 7]. Y gyfran ar gyfer y rhai hynny’n dysgu Saesneg oedd 79.6% Ieithoedd Modern oedd 76.2%, a Cymraeg 74.7%.

Ffigwr 2: Nifer o athrawon yn ôl mesur (cyfrif pen a cyfwerth â pherson llawn) a pynciau a ddysgir, Tachwedd 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Mae’r siart bar yma yn dangos y pum pwnc gyda’r nifer mwyaf o athrawon yn addysgu’r pwnc fel ar Dachwedd 2023 – Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol a Cymraeg. Roedd y cyfrif pen yn amrywio o 1,875 yn addysgu Saesneg i 1,125 yn addysgu Cymraeg. Roedd y nifer cyfwerth â pherson llawn yn amrywio o 1,520 o athrawon yn addysgu Mathemateg i 820 yn addysgu Addysg Gorfforol.

Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol

Athrawon yn ôl mesur (cyfrif pennau, cyfwerth â pherson llawn ac oriau) a pynciau a ddysgir ar StatsCymru 

[Nodyn 1] Mae'r cyfrif pen yn cyfri athrawon am bob pwnc a ddysgir.

[Nodyn 2] Mae'r mesur cyfwerth a â pherson llawn yn rhannu athrawon yn ôl y gyfran o amser yn dysgu bob pwnc. Mae athro sy'n gwario hanner ei amser yn dysgu Mathemateg a hanner ei amser yn dysgu Saesneg wedi ei cyfri 0.5 yn erbyn y ddau bwnc.

Recriwtio a chadw athrawon

Data ar recriwtio a chadw athrawon, yn cynnwys swyddi wedi’u hysbysebu, nifer o geisiadau ac athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn. Mae’r data yma wedi gasglu’n wrtholygol ac yn cynnwys unrhyw swyddi parahaol am dymor neu fwy wedi’u hysbysebu, ac athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23.

  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 7.8 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (4.5) yn is i’w gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (9.1). Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (4.6) yn is nag ar gyfer swyddi ysgolion cynradd (12.3). 
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2022/23 roedd 2,142 o swyddi gwag hysbyswyd (87.5%) wedi’u llenwi.
  • O’r 1,340 o athrawon oedd wedi gadael y proffesiwn, roedd 380 (28.2%) wedi ymddeol (ymddeol ar oedran arferol neu gynnar).

Cyflogau a lwfansau athrawon

Mae’r data canlynol ar gyflogau a lwfansau athrawon ac absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau. Mae hyn yn cael ei gwblhau gan bob awdurdod lleol ac unrhyw ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth gyda’u hawdurdod lleol. Bydd y mwyafrif o’r gweithlu wedi’u cofnodi yn y set ddata CBGY Ysgol a set ddata CBGY Cyflog, AD ac Absenoldebau, er mi fydd yna rhai eithriadau. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol wedi’u cofnodi yn y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’. Mae’r data canlynol ar nifer cyfwerth ag amser llawn yn dangos unigolion wedi’u cyfri am y gyfran o amser contract llawn maent yn cael eu talu ar raddfa gyflog benodol a bydd yn wahanol i’r ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nodweddion athrawon o’r data CBGY Ysgol.

Ni chwblhawyd a gweithredu dyfarniad codiad cyflog athrawon am y flwyddyn academaidd 2022/23 tan ar ôl dyddiad y cyfrifiad CBGY ym mis Tachwedd 2022 ac nid oedd ffigurau ar gyflogau athrawon cyhoeddwyd ar gyfer 2022/23 ym mis Gorffennaf 2023 yn adlewyrchu’r codiad tâl llawn ar gyfer 2022/23. Fel canlyniad, mae’r cynydd mew cyflog athrawon cyfartalog rhwng 2022/23 a 2023/24 fel a ddengys yn y datganiad yn fwy na’r dyfarniad cyflog ar gyfer 2023 gan ei fod yn cynnwys elfen o ddyfarniad cyflog athrawon 2022 lle nad oedd awdurdodau lleol yn gallu ei weithredu cyn diwrnod cyfrifiad CBGY ym mis Tachwedd 2022. Gweler ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am wybodaeth bellach.

  • Y nifer o athrawon cyfwerth ag amser llawn yn cael eu talu ar raddfeydd cyflogau yn ôl Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 oedd 25,010, gyda 15,210 (60.8%) yn cael eu talu ar yr ystod gyflog uwch.
  • Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon yn £47,691.
  • Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog o £44,189. Roedd hyn yn amrywio o £44,086 mewn ysgolion cynradd i £44,485 mewn ysgolion uwchradd.
  • Roedd cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer penaethiaid (a) mewn ysgolion uwchradd (£103,543) tipyn uwch o’i gymharu ag ysgolion cynradd (£72,373).
  • Ar gyfartaledd, roedd dynion ((£49,467) yn cael eu talu £2,382 yn fwy nag menywod (£47,085). Ar gyfer athrawon dosbarth, roedd menywod (£44,259) yn cael eu talu mwy na dynion ((£43,964). Er hynny, mewn swyddi arweiyddiaeth, roedd dynion (£73,107) yn cael eu talu mwy na menywod (£67,673) ar gyfartaledd.
  • Rhwng Tachwedd 2022 a 2023, roedd 8,580 athro (29.6%) wedi derbyn lwfans Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu gyda swm cyfartalog o £5,089.
Tabl 1: Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr) yn ôl swydd a rhyw, Tachwedd 2023
SwyddGwrywBenywCyfanswm
Athro heb gymhwyso£26,881£25,642£26,066
Athro dosbarth£40,309£40,620£40,546
Ymarferydd arweiniol£55,084£55,829£55,594
Pennaeth [Nodyn 1]£76,795£70,234£72,774
Arweinyddiaeth arall [Nodyn 2]£61,472£58,227£59,292
Holl arweinyddiaeth£67,732£62,405£64,269
Cyfanswm£45,421£43,162£43,740

Disgrifiad o Tabl 1: Mae’r tabl yma yn dangos cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog yn ôl swydd a rhyw fel ar Tachwedd 2023. Y cyflog cyfartalog ar gyfer yr holl athrawon oedd £47,691. Cyflog cyfartalog penaethiaid oedd £77,689, a chyflog cyfartalog athrawon dosbarth oedd £44,189.

Ffynhonnell: Data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr a chanolrif) athrawon yn ôl awdurdod lleol a swydd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys penaethiaid gweithredol.

[Nodyn 2] Yn cynnwys penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.

Absenoldeb trwy salwch athrawon

Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2022/23.

  • Agorwyd neu caewyd 36,000 cofnod absenoldeb trwy salwch yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Cymrodd 16,965 o athrawon (60.9%) o leiaf un cyfnod absenoldeb trwy salwch.
  • Collwyd 5.3 diwrnod gwaith ar gyfartaledd am bob absenoldeb trwy salwch. Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith collwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch oedd 11.3, lawr o 12.8 yn 2021/22.

Ffigwr 3: Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u hagor yn ôl mis a math o absenoldeb, 2022/23

Image

Disgrifiad o Ffigwr 3: Mae’r siart llinell yn dangos y nifer o absenoldebau tymor byr a thymor hir agorwyd yn ystod y flwyddyn ysgol ym mhob mis yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23. Mae’r nifer o absenoldebau tymor byr yn arwyddocaol o uwch nag absenoldebau tymor hir, gyda’r nifer uchaf ym mis Rhagfyr a Mawrth. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23 roedd yna ostyngiad sylweddol ym mis Ebrill, gyda’r toriad Pasg, ac eto ym mis Gorffennaf ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Ffynhonnell: Data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch yn ôl mis agorwyd a cyfnod salwch ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mwy na 20 diwrnod gwaith wedi'u colli.

Staff cymorth

Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Ysgol wedi’u cwblhau gan bob ysgol wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol gan adlewyrchu’r gweithlu fel ar y dyddiad cyfrifiad. Mae staff cymorth yn cynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenion Addysgu Yachwanegol (AAY), staff cymorth AAY, rheolwyr busnes, ataff gweinyddol a rolau staff cymorth eraill. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’.

Staff cymorth: rolau

  • Ym mis Tachwedd 2023, roedd yna 30,155 staff cymorth, gostyngiad o 2.3% o’i gymharu â Thachwedd 2022.
  • Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 8] o’r holl staff cymorth yn 23,860, gostyngiad o 3.7%.
  • Yn seiliedig ar y nifer cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 9], roedd 15,230 (50.5%) o staff cymorth yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu, gyda 1,600 (5.1%) arall yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) a 3,470 (11.5%) yn gweithio fel staff cymorth AAY
  • Roed dyna 1,565 o staff yn gweithio fel cyd-lynwyr AAY neu yn ymgymryd ar rol yn ychwanegol i’w prif swydd.
  • Roedd mwy o staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion Cynradd (60.6%) nag ysgolion Uwchradd (24.0%).

Nodweddion staff cymorth

  • Roedd 27,225 o staff cymorth (90.3%) yn fenywod, i’w gymharu â 74.2% o athrawon.
  • 16,615 staff cymorth (55.1%) yn uniaethu yn Gymraeg.
  • Roedd 975 o staff cymorth (3.2%) o grŵp ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 10], o’i gymharu â 1.4% o athrawon.
  • Nododd 410 staff cymorth (1.4%) bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.

Gallu staff cymorth yn y Gymraeg

  • 6,355 o staff cymorth (21.1%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, o’i gymharu â 39.1% o athrawon (a). 
  • Roedd y gyfran o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd neu uwch yn amrywio o 3.0% ym Mlaenau Gwent i 89.3% yng Ngwynedd [troednodyn 11].

Ffigur 4: Cyfran o staff cymorth â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 4: Mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn a Gwynedd sydd â’r gyfran uchaf o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, tra bod bron tri chwarter o’r awdurdodau lleol â llai na 20% o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch.

Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol

Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol (Staff Cymorth) ar StatsCymru 

[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y 'Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg'.

Recriwtio a chadw staff cymorth

Mae’r data yma yn cyfeirio at swyddi wedi’u hysbysebu a staff sydd wedi gadael y proffesiwn ar gyfer cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenhion Dysgu Ychwanegol (ADY) a staff cymorth ADY yn unig ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn gwahaniaethu o’r rhestr llawn o rolau staff cymorth llawn sy’n cael ei gasglu fel rhan o’r CBGY oherwydd natur dros dro a sut mae swyddi yn cael eu hysbysebu ar gyfer rolau staff cymorth eraill.

  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 5.8 cais am bob swydd wag. Mae’r cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (2.7) o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (6.7) Hefyd, roedd y cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (4.0) o’i gymharu â swyddi ysgolion cynradd (5.9).
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, roedd 1,446 o swyddi a hysbyswyd (87.1%) wedi’u llenwi.
  • O’r 2,100 staff cymorth wnaeth adael y proffesiwn, roedd 640 (30.4%) wedi symud i swyddi tu allan i addysg.

Gwybodaeth ar ansawdd y data a methodoleg

Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2023 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol.  Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.  Gosodwyd 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.

[2] Mae Cyfwerth â Pherson  Llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.

[3] Yn cynnwys penaethiaid, penaethiaid gweithredol, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.

[4] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.

[5] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg’.

[6] Nid yw gwyddoniaeth yn cynnwys bioleg, cemeg neu ffiseg lle’u dysgir fel pwnc ar wahan.

[7] Mae hyn yn cynrychioli’r nifer cyfwerth â pherson llawn fel cyfran o gyfrif pen. Y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r cyfwerth â pherson llawn y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd  yn y pwnc.

[8] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.

[9] Mae cyfwerth â pherson llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.

[10] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.

[11] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg’.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gareth Thomas
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 60/2024