Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r amcangyfrifon canol-blwyddyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio ac maent yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wedi cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol 2023 ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan. Mae'r bwletin hwn yn cyfeirio'n benodol at amcangyfrifon ar gyfer Cymru.

Mae amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 wedi cael eu diwygio gan y SYG i gyfrif am amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo rhyngwladol i Gymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu bod poblogaeth Cymru yng nghanol 2022 bellach wedi'i hamcangyfrif yn oddeutu 1,000 o bobl yn uwch na'r ffigur a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 23 Tachwedd 2023.

Prif bwyntiau

  • Ar 30 Mehefin 2023, amcangyfrifwyd bod tua 3,164,000 o bobl yn byw yng Nghymru, sef cynnydd o 1.0% ers canol 2022, neu tua 32,000 yn fwy o bobl. 
  • Dyma'r un cynnydd canrannol ag a welwyd yn Lloegr rhwng canol 2022 a chanol 2023.
  • Mae'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng canol 2022 a chanol 2023 wedi cael ei sbarduno gan gynnydd mewn mudo rhyngwladol a mewnol net.
  • Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig yn fwy nag un rhan o bump (21.6%, neu 682,000 o bobl) o gyfanswm poblogaeth Cymru yng nghanol 2023.
  • Yr awdurdod lleol yng Nghymru oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf yn y boblogaeth rhwng canol 2022 a chanol 2023 oedd Caerdydd, sef cynnydd o 3.4%. Hwn oedd y cynnydd mwyaf ond un o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr rhwng canol 2022 a chanol 2023.

Ffigur 1: Amcangyfrifon poblogaeth yng Nghymru, 1991 i 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 1: Mae'r siart linell hon yn dangos bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu, ers y flwyddyn hyd at ganol 1991, o 2.87 miliwn i 3.16 miliwn erbyn canol 2023.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG

[Nodyn 1] Mae'r ffigurau ar gyfer canol 2022 wedi'u diwygio.

[Nodyn 2] Nid yw'r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Cydrannau newid poblogaeth

Cydrannau newid poblogaeth yw'r ffactorau sy'n cyfrannu at newid yn y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau (y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel newid naturiol) a mudo net. Mae mudo wedi'i wahanu'n ddwy ran sef mudo mewnol (symudiadau rhwng awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig (DU)) a mudo rhyngwladol (symudiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y byd y tu allan i'r DU).

Ffigur 2: Mudo mewnol a rhyngwladol net yng Nghymru, canol 2002 i ganol 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 2: Mae'r siart llinell hon yn dangos bod mudo rhyngwladol net yn y blynyddoedd diwethaf tua phedair gwaith yn uwch na'r cyfartaledd dros y ddau ddegawd blaenorol. Mae mudo mewnol net oddeutu dwywaith a hanner yn uwch na’r cyfartaledd dros y ddau ddegawd blaenorol. 

Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer canol 2022 wedi’u diwygio.

Yn y flwyddyn hyd at ganol 2023, amcangyfrifir bod mudo rhyngwladol net i Gymru tua 23,600, sy'n debyg i ganol 2022. Yn y cyfnod rhwng canol 2011 a chanol 2021, roedd mudo rhyngwladol net blynyddol yn rhyw 5,200 ar gyfartaledd. 

Roedd mudo mewnol net i Gymru (o wledydd eraill y DU) tua 17,600 yng nghanol 2023. Roedd hyn yn uwch na’r ffigur cyfatebol yng nghanol 2022, sef 10,700.

Ffigur 3: Genedigaethau a marwolaethau yng Nghymru, canol 2002 i ganol 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 3: Mae'r siart llinell hon yn dangos bod nifer y genedigaethau wedi gostwng yn raddol ers canol 2011 tra bod nifer y marwolaethau wedi cynyddu.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG

[Nodyn 1] Nid yw'r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Yn y flwyddyn hyd at ganol 2023, roedd mwy o farwolaethau nag o enedigaethau yng Nghymru o hyd. Roedd tua 37,100 o farwolaethau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at ganol 2023, bron 1,500 yn fwy o farwolaethau nag yn y flwyddyn hyd at ganol 2022. Roedd hyn yn uwch na nifer y marwolaethau yng Nghymru am y flwyddyn hyd at ganol 2020 (36,400), a oedd yn cwmpasu ton gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19). 

Roedd nifer y genedigaethau yn y flwyddyn hyd at ganol 2023 tua 27,600, sef gostyngiad o 1,500 o'i gymharu â'r flwyddyn hyd at ganol 2022.

Poblogaeth yn ôl oedran

Ffigur 4: Poblogaeth yng Nghymru yn ôl grŵp oedran bras, canol 1991 i ganol 2023

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 4: Mae'r siart bar bentwr hon yn dangos, ers y flwyddyn hyd at ganol 1991, fod canran y boblogaeth 65 oed neu hŷn wedi cynyddu, tra bo canran y bobl rhwng 0 a 15 oed wedi gostwng ychydig. Mae canran y bobl rhwng 16 a 64 oed wedi aros yn debyg dros y cyfnod rhwng canol 1991 a chanol 2023.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer canol 2022 wedi’u diwygio.

Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig yn fwy nag un rhan o bump (21.6%, neu 682,000 o bobl) o gyfanswm poblogaeth Cymru yng nghanol 2023. Mae hyn wedi cynyddu 13.9% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ers canol 2013. Mae nifer y bobl 75 oed neu hŷn wedi cynyddu 22.5% yn ystod yr un cyfnod, o tua 270,000 o bobl yng nghanol 2013 i tua 331,000 o bobl yng nghanol 2023.

Roedd 61.1% o'r boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yng nghanol 2023 (tua 1,934,000 o bobl). Mae hyn wedi cynyddu 0.8% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ers canol 2013.

Roedd plant a phobl ifanc 0 i 15 oed yn cyfrif am y 17.3% arall o'r boblogaeth yng nghanol 2023 (tua 549,000 o blant a phobl ifanc). Mae hyn wedi gostwng 0.9% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ers canol 2013.

Poblogaeth yn ôl awdurdod lleol

Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi cynyddu ym mhob un ond un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol 2022 a chanol 2023, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd (cynnydd o 3.4%), Abertawe (cynnydd o 1.9%) a Cheredigion (cynnydd o 1.6%). 

Y cynnydd yn y boblogaeth yng Nghaerdydd oedd cynnydd mwyaf ond un mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr rhwng canol 2022 a chanol 2023.

Merthyr Tudful yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru yr amcangyfrifir bod ei boblogaeth wedi gostwng rhwng canol 2022 a chanol 2023, gan ostwng 0.5%, neu tua 300 o bobl. 

Yng Nghymru, gwelodd pob awdurdod lleol fudo rhyngwladol net positif yn y flwyddyn hyd at 2023, a gwelodd 20 allan o 22 awdurdod lleol fudo mewnol net positif. Gwelodd Merthyr Tudful a Chasnewydd fudo mewnol net negyddol yn y flwyddyn hyd at 2023.

Caerdydd a Chasnewydd oedd yr unig awdurdodau lleol a welodd fwy o enedigaethau na marwolaethau yng nghanol 2023.

Ffigur 5: Newid canrannol yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng canol 2022 a chanol 2023, fesul awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o'r Ffigur 5: Mae'r map hwn yn dangos, rhwng canol 2022 a chanol 2023, mai Caerdydd sydd wedi gweld y newid canrannol mwyaf yn ei phoblogaeth. Merthyr Tudful oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru i weld gostyngiad canrannol yn y boblogaeth.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG

Amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol

Mae amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPEs) yn cael eu cynhyrchu gan ONS ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) (OSR)) yw'r rhain tra bo’r SYG yn mireinio ei dulliau a'r ffynonellau data sy'n cael eu defnyddio. Nid ydynt yn disodli'r amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn swyddogol ac ni ddylid eu defnyddio i wneud penderfyniadau. Ni ddylid atgynhyrchu'r allbynnau hyn heb y rhybudd hwn.

Mae'r SYG yn anelu i'r ABPEs ddod yn amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol yn 2025. Byddant yn ymgysylltu yn ystod tymor yr hydref 2024 i gasglu adborth ar y dull newydd, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol fel y gallant ddefnyddio arbenigedd lleol wrth iddynt wella'r amcangyfrifon. Bydd yr adborth hwn gan ddefnyddwyr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r meini prawf i gefnogi'r penderfyniad ynghylch pryd y daw'r ABPEs yn amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol. Maent hefyd wedi gofyn am asesiad o’r ABPEs (OSR) ac yn gweithio i fodloni’r safonau a ddisgwylir o ystadegau swyddogol achrededig (OSR) erbyn haf 2025.

Mae'r ABPEs yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio dulliau sy'n adeiladu ar y dull cydrannau ar gyfer carfan (fel yr eglurir yng nghanllaw dulliau amcangyfrifon poblogaeth SYG), a ddefnyddiwyd i gynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth swyddogol achrededig SYG ers blynyddoedd lawer. 

Mae gwahaniaethau rhwng y dulliau a'r ffynonellau data sydd wedi'u defnyddio yn golygu na ddisgwylir y bydd ABPEs yn cyfateb i'r amcangyfrifon poblogaeth swyddogol achrededig yn union. Mae'r ABPEs yn defnyddio dulliau newydd arloesol ac ystod ehangach o ffynonellau data gan ystyried cyfyngiadau ansawdd yn y data. Mae stociau poblogaeth yn cael eu cynhyrchu'n annibynnol ar gyfer pob blwyddyn, felly mae unrhyw gamgymeriad mewn blwyddyn yn llai tebygol o gael ei gyflwyno i'r nesaf. Gall stociau ddefnyddio ffynonellau data gweinyddol fel nad yw dulliau yn dibynnu ar ddata'r cyfrifiad. Mae'r SYG yn bwriadu cyhoeddi astudiaethau achos yn yr hydref i ddangos eu hyder yn y dull newydd.

Mae ABPEs canol 2023 wedi'u diweddaru yn cynnwys data ychwanegol sydd wedi dod ar gael ers i SYG gyhoeddi ei ABPEs dros dro ar gyfer canol 2023 (SYG) ym mis Rhagfyr 2023. Mae amcangyfrifon dros dro yn defnyddio data mewnwelediad cynnar, ochr yn ochr â rhai rhagdybiaethau am fudo. 

Mae rhagor o wybodaeth am ABPEs ar gael yn erthygl y SYG ynghylch deall ABPEs ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae erthygl gydymaith (SYG) yn nodi manylion y datblygiadau mewn ffynonellau data. 

Mae manylion pellach am sicrhau ansawdd, eu defnyddio'n briodol, eu cryfderau a'u cyfyngiadau, ar gael yn yr Amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Cymru a Lloegr (QMI) (SYG).

Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU

Amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig y DU, rhwng canol 2012 a chanol 2022

Mae’r SYG wedi rhyddhau cyfres ddiwygiedig lawn y DU ar gyfer amcangyfrifon poblogaeth, yn awr bod yr Alban wedi gwneud gwaith ailsylfaenu yn dilyn ei chyfrifiad yn 2022. Mae'r amcangyfrifon diwygiedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gyfres amser a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Amcangyfrifon poblogaeth y DU, canol 2023

Nod y SYG yw rhyddhau set lawn o amcangyfrifon poblogaeth y DU ar gyfer canol 2023 yn yr hydref 2024. Bydd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchir gan Cofnodion Cenedlaethol yr Alban.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Statws ystadegau swyddogol

Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.  

Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain, a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Tachwedd 2020. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.

Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn dangos y safonau a disgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. 

I gael gwybodaeth am sut y mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn, a gyhoeddir gan SYG, yn dangos y safonau a ddisgwylir ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, gweler adroddiad ansawdd a methodoleg SYG ar amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Y rhain yw creu Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth ac iach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf, rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae'r Ddeddf yn datgan bod rhaid gosod cerrig milltir “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y byddwn yn gwybod bod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae angen ei chyflawni. 

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol ond, yn hytrach, maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru. 

Mae rhai o'r dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir cenedlaethol yn defnyddio amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth fel enwadurion, i gyfrifo cyfraddau, er enghraifft. 

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dan Boon a Steph Harries
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 25/2024

Image