Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Prif Weinidog Adolygiad Cyflym o bolisïau cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru.
Cam 1
Cwblhawyd Cam Cyntaf yr Adolygiad gan Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a chyflwynwyd adroddiad ym mis Gorffennaf a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru.
Casgliad yr adroddiad oedd bod llawer wedi’i gyflawni yng Nghymru, ond bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn parhau serch hynny. Mae’r adroddiad yn gosod y sail ar gyfer newid yn seiliedig ar dair prif thema:
• Gweledigaeth ac Arweinyddiaeth
• Rhoi Polisi ar Waith; a
• Chraffu Allanol ac Atebolrwydd
Cam 2
Mae Ail Gam yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol ar waith ar hyn o bryd, a dylai gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2019. Bydd yn creu cynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor, ledled Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd gwaith yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol yn cael effaith gadarnhaol ar feysydd cydraddoldeb eraill, a bydd yn rhoi sylw penodol i nodweddion cysylltiedig sy’n achosi rhwystrau lluosog i fenywod.
Chwarae Teg sy’n gyfrifol am Ail Gam yr adolygiad. Bydd hyn yn sicrhau bod yr argymhellion a’r cyngor a gaiff Llywodraeth Cymru yn annibynnol ac yn cynrychioli safbwyntiau rhanddeiliaid, gan ddatblygu’r gwaith a gwblhawyd gan Chwarae Teg yng Ngham 1. Fel rhan o’r gwaith hwn, ymgynghorwyd yn eang â rhanddeiliaid ynglŷn â Gweledigaeth, Iaith a Dangosyddion Cydraddoldeb Rhywiol yng Nghymru.
Rwyf wedi sefydlu Grŵp Llywio i oruchwylio’r broses o gwblhau Cam 2, ac fe cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp ar 8 Hydref 2016. Mae aelodau’r Grŵp yn cynnwys Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Chwarae Teg, academydd blaenllaw yn y maes hwn a Chynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r aelodau am eu harbenigedd a’u cyfraniadau hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw wrth i’r Adolygiad ddatblygu.
Er mwyn cefnogi gwaith y Grŵp Llywio, mae Chwarae Teg wedi sefydlu Grŵp Cynghori Arbenigol sy’n cynnwys sefydliadau sy’n cynrychioli grwpiau cydraddoldeb a gwasanaethau arbenigol. Mae’r Grŵp yn cael ei gadeirio gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 16 Hydref. Prif amcanion y Grŵp Cynghori Arbenigol yw darparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer Grŵp Llywio’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol, cefnogi gwaith tîm y prosiect a rhoi Ail Gam yr adolygiad ar waith. Bydd y Grŵp yn darparu cyngor a chymorth er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn adlewyrchu’n ddigonol anghenion a phrofiad yr amrywiaeth o fenywod sy’n byw ledled Cymru. Bydd yn mynd ati i weithio ar draws meysydd cydraddoldeb gwahanol, gan geisio sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys. Rydym yn cydnabod bod menywod a merched sy’n dioddef mathau o wahaniaethu lluosog a chysylltiedig yn cael eu rhwystro rhag datblygu yn aml. Bydd y Grŵp yn cefnogi Cam 2 trwy fanteisio ar ei brofiad o ddarparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer menywod ledled Cymru.
Dros yr haf, bu swyddogion ledled Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion Cam 1. Gellir derbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion yn llawn neu’n rhannol, ac rydym yn gweithio gyda’r Grŵp Llywio i ddatblygu’r dull gorau o’u cyflwyno. Rydym yn cydnabod bod angen ystyried nifer o’r argymhellion yn fanylach yn ystod Cam 2, ac unwaith eto rydym yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Llywio i’w deall yn fanylach. Mae nifer fach o’r argymhellion y tu allan i bwerau Llywodraeth Cymru, a byddwn yn ystyried unrhyw gamau y gallem eu rhoi ar waith er mwyn cael dylanwad ar lefel y DU.
Byddaf yn cynnal cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gyda’m cydweithwyr yn y Cabinet er mwyn trafod y cysylltiad rhwng yr Adolygiad a meysydd gwaith eu portffolios. Mae lefel yr ymrwymiad i’r argymhellion ac i gefnogi gwaith Cam 2 ledled y Llywodraeth yn galondid mawr i mi.
Un o argymhellion adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd yn yr haf oedd yr angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o brofiadau gwledydd sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf tuag at gau bylchau cydraddoldeb rhywiol. Rwyf wedi gofyn i’r Ganolfan sefydlu Cyfnewidfa Cydraddoldeb Llychlynnaidd fel bod modd i ni ddysgu gan wledydd Llychlyn fel Sweden, Gwlad yr Iâ, Norwy, y Ffindir a Denmarc, sy’n perfformio’n dda mewn mynegeion sy’n mesur cynnydd. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod polisïau o bob math yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol. Cynhelir y digwyddiad tua dechrau 2019.
Ar ôl cwblhau’r gwaith ar Gam 2 a sefydlu cynllun clir ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, rhagwelir y bydd gwaith yr adolygiad o gydraddoldeb rhywiol yn parhau ar ôl i’r prosiect ddod i ben yn ffurfiol. Bydd hyn yn sicrhau bod y camau priodol yn cael eu rhoi ar waith i gyflawni cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru ac arwain y DU fel y Llywodraeth Ffeministaidd gyntaf.