Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Grŵp Atebolrwydd Allanol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Cefndir

Mae’r Cynllun Cymru Wrth-hiliol yn nodi gweledigaeth, diben a gwerthoedd a gafodd eu cyd-gynllunio ac y cytunwyd arnynt, a fydd yn sail i waith y Grŵp Atebolrwydd.

Gweledigaeth

Cymru sy’n wrth-hiliol.

Diben

Cydweithio i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru.

Gwerthoedd

Bod yn agored ac yn dryloyw, rhoi profiad bywyd wrth wraidd popeth a wneir a bod yn seiliedig ar hawliau.

Tynnodd y cynllun datblygu sylw at broblem a welir ym mhob sector, sef diffyg ymddiriedaeth yn y gwaith o gefnogi neu alluogi camau gweithredu ynghylch cydraddoldeb hil. Mae ‘bwlch gweithredu’ hefyd, lle mae gwaith a chynlluniau a wnaed gyda bwriadau da yn methu â chyflawni yn erbyn yr amcanion a nodwyd.

Er mwyn i’r cynllun Cymru Wrth-hiliol wireddu’r weledigaeth a’r diben a nodwyd ganddo, bydd angen gwneud gwaith cyson i ennyn a chynnal ymddiriedaeth unigolion, grwpiau a chymunedau ethnig lleiafrifol a sicrhau bod gwaith yn canolbwyntio’n barhaus ar weithredu.

Bydd Grŵp Atebolrwydd y Cynllun Cymru Wrth-hiliol (y Grŵp) yn gweithio’n rhagweithiol, ac ar y cyd â Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Llywodraeth Cymru a’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil, yn ogystal â fforymau rhanbarthol ar gyfer hil a grwpiau gwarchodedig eraill. Bydd yn sicrhau bod y gwaith a wneir ganddo yn gyson â meysydd a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chydraddoldeb, ac yn cyd-fynd â nhw. Mae Atodiad 7 yn dangos rôl a chylch gwaith Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Llywodraeth Cymru.

Diben

Diben cyffredinol y Grŵp Atebolrwydd hwn fydd sicrhau cynnydd tuag at ddiben y cynllun drwy ddwyn y bobl hynny sy’n gyfrifol am y gwaith i gyfrif am yr hyn y maent yn ei gyflawni, neu’n methu â’i gyflawni. Mae’r cyfrifoldeb dros sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith yn aros gyda’r arweinwyr polisi a’r sectorau ehangach sy’n gyfrifol am y camau gweithredu hynny.

Bydd y Grŵp hefyd yn gweithredu fel man canolog ar gyfer llywodraethu unrhyw waith sy’n ymwneud â hil yn Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau bod gwaith yn gydlynol pan gaiff ei ddatblygu a phan gaiff ei gyflawni. Bydd hefyd yn craffu ar gydymffurfiaeth â deddfwriaeth Cydraddoldebau. Bydd y Grŵp hefyd yn asesu i ba raddau y mae cynnydd yn cael ei wneud tuag ag at wireddu’r weledigaeth, yn ogystal â herio, cefnogi (gan gynnwys cyd-gynllunio) a chynghori ar unrhyw agweddau ar faes gwrth-hiliaeth y dylid ymchwilio iddynt ym marn y Grŵp, ar sail heriau a llwyddiannau newydd wrth iddynt ddod i’r amlwg.

Bydd cylch gwaith y Grŵp yn cynnwys y canlynol:

  • gosod blaenoriaethau ar gyfer y Nodau a’r Camau Gweithredu sy’n bwysig ac y mae angen eu rhoi ar waith ar frys yn eu barn nhw
  • cael adroddiadau gan Grŵp Cefnogi a Herio Mewnol Llywodraeth Cymru a chraffu arnynt
  • gofyn i Weinidogion fod yn bresennol ar gyfer eitemau penodol ar yr agenda
  • asesu, herio ac adrodd ar gynnydd o ran gwireddu’r weledigaeth drwy roi’r nodau a’r camau gweithredu yn y cynllun ar waith, gan sicrhau bod y cynnydd hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad bywyd pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru
  • nodi’r polisïau allweddol newydd sydd eu hangen a helpu i gyd-gynllunio unrhyw bolisïau o’r fath
  • nodi a gwneud argymhellion mewn perthynas â themâu a chamau gweithredu newydd sy’n dod i’r amlwg er mwyn gwneud cynnydd tuag at y weledigaeth a hyrwyddo arferion da
  • chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu rhaglen waith yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a dylanwadu arno, fel y bydd modd i’r grŵp ymateb i bryderon ynghylch patrymau hiliaeth, neu pan na fydd y newid a ddymunir yn digwydd
  • ar ôl rhoi camau gweithredu ar waith. Mae hyn yn cynnwys awgrymu gwaith casglu data meintiol neu ansoddol neu waith dadansoddi er mwyn llenwi unrhyw fylchau yn y sail dystiolaeth. Gallai’r Uned ymgymryd â’r prosiectau seiliedig ar dystiolaeth hyn neu eu comisiynu (e.e. gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru) er mwyn bodloni’r rhan hono’r cylch gwaith
  • gwahodd sefydliadau, gan gynnwys Comisiynwyr, rheoleiddwyr a chyrff arolygu ac archwilio i drafod materion sy’n rhan o’u meysydd dylanwad
  • gwneud argymhellion ar gyfer defnyddio dulliau ysgogi presennol o fewn y Llywodraeth mewn modd sy’n sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, a cheisio atgyfnerthu unrhyw ddulliau ysgogi o fewn y Llywodraeth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud cynnydd mewn perthynas â gwrth-hiliaeth
  • cynnal Grwpiau Gorchwyl a Gorffen fel sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru neu fel y nodwyd gan y Grŵp ei hun ac mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru
  • gwahodd, ar sail ad hoc, unrhyw arbenigwr a fydd yn ychwanegu gwerth ym marn y Grŵp er mwyn rhoi cymorth, tystiolaeth neu gyfeiriad ar fater penodol
  • sicrhau dull croestoriadol o ymgymryd â’r holl waith polisi
  • cyhoeddi datganiadau cynnydd cyhoeddus bob blwyddyn

Adnoddau ar gyfer y Grŵp

Dyrennir swm penodol o adnoddau ariannol i’r Grŵp Atebolrwydd bob blwyddyn er mwyn comisiynu adroddiadau, ymchwil ac eitemau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

Ffyrdd o weithio

Bydd gwerthoedd y cynllun yn gweithredu fel egwyddor arweiniol ar gyfer y ffyrdd o weithio a fabwysiadir gan y Grŵp. Bydd hyn yn golygu cyflwyno heriau gyda lefel uchel o gymorth, gan sicrhau bod profiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol yn llywio cynnydd bob amser, bod y Grŵp yn gweithio mewn modd tryloyw ac agored bob amser, a bod y dull a ddefnyddir yn seiliedig ar hawliau yn lle ffafr ac felly ei fod yn wrth-hiliol.

Un o’r negeseuon cryf a ddaeth i’r amlwg wrth ddatblygu’r cynllun oedd y dylai’r trefniadau llywodraethu a ddefnyddir i oruchwylio’r gwaith o’i weithredu gymell pobl i gymryd camau. Felly bydd y Grŵp yn gwneud argymhellion ynghylch y dulliau ysgogi a’r offerynnau y dylid eu defnyddio er mwyn ysgogi newid a chyfeirio sylw ac adnoddau. Mae modd i’r Grŵp Atebolrwydd reoli rhai dulliau ysgogi, megis tystiolaeth, ond mae dulliau ysgogi eraill lle mai dim ond y rheini sy’n gyfrifol sy’n gallu eu rhoi ar waith, e.e. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am lythyrau cylch gwaith, amodau grantiau ac ati. Wrth i’r gwaith o weithredu’r cynllun fynd rhagddo, cynhelir trafodaeth â Gweinidogion Cymru am yr angen am ddulliau ysgogi pellach, at ddefnydd y llywodraeth neu’r Grŵp Atebolrwydd.

Er mwyn gallu parhau i gynnal trafodaethau lefel uchel â grwpiau ehangach o randdeiliaid ethnig lleiafrifol a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru, bydd y Grŵp yn mynd ati i gynnal trafodaethau â’r fforymau rhanbarthol ar gyfer Hil a grwpiau gwarchodedig eraill.

Caiff y Grŵp ei gefnogi gan yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil a, lle mae croestoriadedd yn bwysig, yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ehangach i ddarparu data meintiol ac ansoddol. Bydd y data ansoddol hyn yn sicrhau ac yn cynnwys profiadau bywyd.

Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gynnydd.

Aelodaeth

Cyd-gadeiryddion: Yr Athro Ogbonna, Prifysgol Caerdydd ac Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol.

8 Cynrychiolydd Amrywiaeth

Bydd cynrychiolwyr amrywiaeth yn cael eu penodi mewn modd agored a thryloyw. Gwahoddir cynrychiolwyr i fynegi diddordeb i lenwi rolau:

  • 8 Cynrychiolydd Amrywiaeth ar gyfer grwpiau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a fydd yn cynrychioli gwahanol rannau o Gymru ac yn cynnwys:
    • menywod
    • cenedlaethau’r Dyfodol
    • pobl LHDTC+
    • pobl anabl
    • pobl ifanc
    • pobl hŷn
    • ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
    • cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Rydym yn cynnig y dylai’r Cynrychiolwyr Amrywiaeth fod:

  • yn byw ac yn gweithio (ac eithrio pobl ifanc a phobl hŷn) yng Nghymru
  • â phrofiad personol/uniongyrchol o hiliaeth
  • yn gallu darparu cynrychiolaeth croestoriadol
  • â phrofiad o – neu fod yn barod i – gymryd rhan mewn proses o helpu i wella polisïau a gwasanaethau a darparu her adeiladol

Nid oes angen iddynt fod yn aelodau o sefydliadau sy’n gweithio ar faterion sy’n ymwneud â hil (er y gallant fod, ac os felly, byddai angen inni sicrhau cydbwysedd rhwng y sefydliadau a gynrychiolir), ond dylent fod â rhywfaint o allu/cwmpas/ffordd o leoli eu cynrychiolaeth o fewn cymunedau ehangach yng Nghymru (e.e. ni ddylent fod yn unigolion heb gysylltiadau).

Fel grŵp, bydd y Cynrychiolwyr Amrywiaeth:

  • o gefndiroedd amrywiol ac â phrofiadau amrywiol
  • o sefydliadau amrywiol, os ydynt yn gweithio i sefydliad, er mwyn sicrhau bod ystod eang yn cael eu cynrychioli

Gall Llywodraeth Cymru ystyried talu am eu gwasanaethau cyn belled ag y cânt eu penodi drwy broses dryloyw.

Recriwtio 7 arbenigwr ar sail profiad ac arbenigedd ar wrth-hiliaeth

Caiff saith arbenigwr eu recriwtio mewn modd agored a thryloyw ar sail profiad bywyd, gydag arbenigedd ym maes gweithredu polisïau gwrth-hiliol, sy’n gysylltiedig â meysydd ffocws y cynllun ar gyfer gweithredu.

Bydd yr arbenigwyr hyn yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd.

Byddant yn wahanol i’r Cynrychiolwyr Amrywiaeth o ran:

  • efallai y byddant yn byw neu’n gweithio y tu allan i Gymru (er nad ydym am i bob un ohonynt fod felly)
  • y bydd ganddynt brofiad o ymarfer gwrth-hiliaeth mewn gwahanol gyd-destunau sy’n berthnasol i’r gwaith o roi’r cynllun ar waith
  • fel grŵp, dylid cynnig amrywiaeth o ran profiad a chefndir, a rhywfaint o groestoriadedd

Eto, byddai Llywodraeth Cymru yn chwilio am y ffordd orau o sicrhau y byddai’r unigolion hyn yn cael eu talu ac eto, byddai’n eu recriwtio mewn modd agored a thryloyw.

Cynrychiolwyr (dros dro nes y bydd eu gwaith wedi’i gwblhau) o’r gwaith presennol ar wrth-hiliaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru:

  • Yr Athro Charlotte Williams
  • Gaynor Legall

Gwahoddir cynrychiolwyr ar ran y canlynol:

  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • TUC Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Rhwydwaith Staff Ethnig Lleiafrifol (MESN) Llywodraeth Cymru

Cyd‑gynllunydd/cynghorwyr polisi

  • Pennaeth Tîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
  • Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi.
  • Uwch-arweinydd Polisi ar gyfer Cydraddoldebau yn Llywodraeth Cymru (aelod o’r Bwrdd).
  • Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

Arweinwyr polisi sy’n gyfrifol am roi’r cynllun ar waith

Dylai arweinwyr polisi fod yn bresennol i arsylwi ond gallant gymryd rhan pan fo’r drafodaeth yn ymwneud â’u meysydd polisi.

Caiff Gweinidogion Cymru eu gwahodd i’r Grŵp Atebolrwydd ar sail ad hoc er mwyn darparu cyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a chynlluniau o fewn eu cylchoedd gwaith i sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Caiff y Prif Weinidog (neu’r Gweinidog sy’n dirprwyo yn y mater hwn) ei wahodd ddwywaith y flwyddyn i glywed y diweddaraf ar gynnydd, llwyddiant a meysydd y mae angen canolbwyntio arnynt ymhellach ym marn y Grŵp Atebolrwydd.

Caiff Comisiynwyr, Rheoleiddwyr a Chyrff Archwilio ac Arolygu Perthnasol eu gwahodd i fod yn bresennol o leiaf unwaith.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Bydd uwch-aelod o Dîm Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn ymgysylltu â’r Cyd-gadeiryddion yn rheolaidd. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth, ond yr aelodau a’r Cyd-gadeiryddion fydd yn pennu eitemau agendâu ac yn arwain arnynt.

Amserlen cyfarfodydd

Bydd y Grŵp yn cyfarfod bob dau fis.

Adrodd ac uwchgyfeirio

Bydd y Grŵp yn cytuno ar Adroddiad Cynnydd Blynyddol, ac yn cytuno ar amserlen yr adroddiad yn ystod y cyfarfod cyntaf.

Bydd y Cadeirydd Allanol hefyd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddwywaith y flwyddyn er mwyn codi unrhyw drafodaethau y bydd y Prif Weinidog neu’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ystyried eu bod yn briodol.