Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi penodiad Rhian Bowen-Davies fel Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rhian yn cael ei chydnabod fel cadeirydd arbenigol Adolygiadau Lladdiadau Domestig sy'n cynnwys pobl hŷn a hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd hi'n dechrau ar ei swydd ym mis Medi, pan ddaw cyfnod Heléna Herklots fel Comisiynydd i ben.

Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn.

Mae’r rôl yn cynnwys:

  • Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn
  • hyrwyddo arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin
  • adolygu deddfwriaeth sy'n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn

Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething:

“Ein gweledigaeth gyffredin yw Cymru sy'n galluogi pobl i fyw a heneiddio'n dda, lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl yn eu blynyddoedd diweddarach.

“Rwy'n falch o benodi Rhian i'r rôl. Bydd hi'n dod â phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl hŷn.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Heléna Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o'r bobl sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.”

Dywedodd Rhian Bowen-Davies:

“Braint ac anrhydedd yw cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

“Gan weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, rwy'n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb.

“Gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad oed-gyfeillgar.”