Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn cael eu dosbarthu fel ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu wrth i ddata gael eu casglu o ffynhonnell gymharol newydd, gyda materion ansawdd hysbys. Cyhoeddir yr ystadegau hyn gan fod diddordeb eang o du'r cyhoedd ac rydym yn croesawu adborth ar eu defnydd.

Dylai unrhyw ddadansoddiad sy’n newid dros amser gymharu'r un dyddiad ym mhob blwyddyn oherwydd yr amrywiadau tymhorol mewn recriwtio staff. Cyhoeddir amcangyfrifon yn ôl grŵp staff ac ar lefel sefydliad.

Mae'r ystadegau yn cynnwys swyddi gwag ar gyfer staff a fyddai’n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan GIG Cymru yn unig. Nid ydynt yn cynnwys contractwyr gofal sylfaenol megis ymarferwyr meddygol cyffredinol ac ymarferwyr deintyddol y GIG.

Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ar 31 Mawrth 2024:

  • Y nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar draws GIG Cymru oedd 5,288 a'r gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig oedd 5.4%. Roedd y gyfradd swyddi gwag 0.9 pwynt canran yn uwch nag ar yr un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.
  • O gymharu grwpiau staff, roedd y gyfradd swyddi gwag yn amrywio o 2.8% ar gyfer y grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol i 10.3% ar gyfer y grŵp meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion).
  • O gymharu sefydliadau’r GIG, roedd y gyfradd swyddi gwag yn amrywio o -0.2% yng Nghaerdydd a’r Fro i 12.6% yn Iechyd a Gofal a Digidol Cymru.

Amlygir nifer o faterion ansawdd data yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg isod. O ran cydbwysedd, mae'n debygol bod yr ystadegau hyn yn tanamcangyfrif o ryw ychydig nifer y swyddi gwag yn GIG Cymru. 

Cyfradd swyddi gwag yn ôl grŵp staff

Ffigur 1: Cyfradd swyddi gwag yn ôl grŵp staff GIG Cymru, 31 Mawrth 2023 a 2024 [Nodyn 1]

Image

Siart far yn dangos bod y gyfradd swyddi gwag yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau staff, gyda’r gyfradd uchaf yn y grŵp meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion), mwy na thair gwaith yn uwch nag yn y grŵp gyda’r gyfradd isaf, sef y grŵp staff gwyddonol, technegol a therapiwtig. Cynyddodd y gyfradd swyddi gwag ym mhob grŵp staff oni bai am nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig, wrth gymharu â’r un dyddiad y llynedd.

[Nodyn 1] Yn eithrio hyfforddeion meddygol a deintyddol, hyfforddeion cyflogwr arweiniol sengl meddygol a deintyddol, a hyfforddeion cyflogwr arweiniol sengl fferylliaeth.

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, y nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn yn ôl pob grŵp staff oedd: 

523 mewn staff meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion), gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 10.3%; cynnydd o 0.6 pwynt canran o’i gymharu â’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

1,831 mewn staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 6.5%; gostyngiad o 1.9 pwynt canran o’i gymharu â’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

740 mewn staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 5.4%; cynnydd o 1.6 pwynt canran o’i gymharu â’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

485 mewn staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 2.8%; cynnydd o 0.3 pwynt canran o’i gymharu â’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

1,538 mewn staff gweinyddol, ystadau a chyfleusterau, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o 5.0%; cynnydd o 3.4 pwynt canran o’i gymharu â’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

171 mewn staff ambiwlans, gyda chyfradd amcangyfrifedig o swyddi gwag o

5.1%; cynnydd o 1.7 pwynt canran o’i gymharu â’r un dyddiad yn y flwyddyn flaenorol.

Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad y GIG

Ffigur 2: Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad y GIG, 31 Mawrth 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos amrywiaeth mawr yn y gyfradd swyddi gwag ymhlith sefydliadau’r GIG. Roedd y gyfradd isaf yng Nghaerdydd a’r Fro, bron i 13 pwynt canran yn is na’r sefydliad â’r gyfradd uchaf sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 

[Nodyn 1] Yn eithrio hyfforddeion meddygol a deintyddol, hyfforddeion cyflogwr arweiniol sengl meddygol a deintyddol, a hyfforddeion cyflogwr arweiniol sengl fferylliaeth.

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, roedd y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig yn 5.4% ar gyfer holl sefydliadau’r GIG ond roedd yn amrywio o -0.2% yng Nghaerdydd a’r Fro i 12.6% yn Iechyd a Gofal a Digidol Cymru. Roedd y gyfradd swyddi gwag yn negyddol yng Nghaerdydd a’r Fro gan fod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn mewn swydd yn fwy na’r gyllideb staff cyfwerth ag amser llawn.

Y gyfradd swyddi gwag ar gyfer y saith bwrdd iechyd lleol gyda’i gilydd oedd 5.1%, ychydig yn is na’r gyfradd ar gyfer holl sefydliadau’r GIG. Roedd y cyfraddau swyddi gwag yng Nghaerdydd a’r Fro (-0.2%), Cwm Taf Morgannwg (2.3%), Bae Abertawe (4.7%) ac Aneurin Bevan (4.8%) yn is na’r gyfradd gyfartalog ar gyfer holl sefydliadau’r GIG, tra roedd y cyfraddau ar gyfer Hywel Dda (7.3%), Betsi Cadwaladr (9.3%) a Phowys (10.9%) i gyd yn uwch na'r gyfradd gyfartalog ar gyfer pob sefydliad. 

Cyfradd swyddi gwag yn ôl grŵp staff a sefydliad y GIG

Nid yw sefydliadau sydd â chyllidebau ar gyfer llai na deg o staff cyfwerth ag amser llawn yn y grŵp staff wedi'u cynnwys yn y siartiau ond mae data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y rhain ar dablau StatsCymru.

Nid oes siart wedi'i chynnwys ar gyfer y grŵp staff ambiwlans gan fod y mwyafrif helaeth o staff yn y grŵp hwn yn cael eu cyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a ddangosir yn Ffigur 2.

Gall cyfraddau swyddi gwag negyddol ddigwydd pan fydd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn yn eu swydd yn fwy na nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyllidebwyd ar eu cyfer. Mae rhai rhesymau pam y gallai hyn ddigwydd wedi'u hesbonio yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ffigur 3: Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad, staff meddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion), 31 Mawrth 2024 [Nodyn 1]

Image

Siart far yn dangos amrywiaeth mawr yn y gyfradd swyddi gwag ar gyfer y grŵp staff meddygol a deintyddol ymhlith sefydliadau’r GIG. Roedd y gyfradd isaf (a negyddol) yng Nghaerdydd a’r Fro, mwy na 40 pwynt canran yn is na’r sefydliad â’r gyfradd uchaf, sef Iechyd Cyhoeddus Cymru.

[Nodyn 1] Ni ddangosir Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn y siart gan fod ei gyllideb ar gyfer staff meddygol a deintyddol yn llai na deg cyfwerth ag amser llawn. Nid yw sefydliadau eraill wedi eu dangos gan nad oedd ganddynt gyllideb ar gyfer y grŵp staff hwn.

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff meddygol a deintyddol oedd 523 ar draws holl sefydliadau’r GIG. 

Roedd y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig yn 10.3% ond roedd yn amrywio o -4.9% yng Nghaerdydd a’r Fro i 35.2% yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Ffigur 4: Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad, nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig, 31 Mawrth 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos amrywiaeth mawr yn y gyfradd swyddi gwag ar gyfer y grŵp staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelydd iechyd cofrestredig ymhlith sefydliadau'r GIG. Roedd y gyfradd isaf (0.0%) yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru, 18 pwynt canran yn is na'r sefydliad â’r gyfradd uchaf, sef Powys.

[Nodyn 1] Ni ddangosir Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn y siart gan fod ei chyllideb ar gyfer staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig yn llai na deg cyfwerth ag amser llawn. Nid yw sefydliadau eraill wedi eu dangos gan nad oedd ganddynt gyllideb ar gyfer y grŵp staff hwn. 

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig oedd 1,831 ar draws holl sefydliadau’r GIG. 

Roedd y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig yn 6.5% ond roedd yn amrywio o 0.0% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 18.1% ym Mhowys. 

Ffigur 5: Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad, staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, 31 Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far yn dangos amrywiaeth mawr yn y gyfradd swyddi gwag ar gyfer y grŵp staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth, ac ymwelwyr iechyd ymhlith sefydliadau'r GIG. Roedd y gyfradd isaf yn Felindre, mwy na 17 pwynt canran yn is na'r sefydliad â’r gyfradd uchaf, sef Hywel Dda.

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd oedd 740 ar draws holl sefydliadau’r GIG. 

Roedd y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig yn 5.4% ond roedd yn amrywio o -6.2% yn Felindre i 11.3% yn Hywel Dda. 

Ffigur 6: Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad, staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, 31 Mawrth 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos amrywiaeth mawr yn y gyfradd swyddi gwag ar gyfer y grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol ymhlith sefydliadau'r GIG. Roedd y gyfradd isaf ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, bron i 26 pwynt canran yn is na'r sefydliad â'r gyfradd uchaf, sef Powys.

[Nodyn 1] Ni ddangosir Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn y siart gan fod ei gyllideb ar gyfer staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol yn llai na deg cyfwerth ag amser llawn. Nid yw sefydliadau eraill wedi eu dangos gan nad oedd ganddynt gyllideb ar gyfer y grŵp staff hwn.

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol oedd 485 ar draws holl sefydliadau’r GIG. 

Roedd y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig yn 2.8% ond roedd yn amrywio o -9.7% ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i 16.1% ym Mhowys. 

Ffigur 7: Cyfradd swyddi gwag yn ôl sefydliad, staff gweinyddu, ystadau a chyfleusterau, 31 Mawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos amrywiaeth mawr yn y gyfradd swyddi gwag ar gyfer y grŵp staff gweinyddu, ystadau a chyfleusterau ymhlith sefydliadau'r GIG. Roedd y gyfradd isaf yng Nghwm Taf Morgannwg, bron i 14 pwynt canran yn is na'r sefydliad â’r gyfradd uchaf, sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Ffynhonnell: Casgliad data swyddi gwag y GIG, Llywodraeth Cymru 

Swyddi gwag y GIG yn ôl sefydliad, grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

Ar 31 Mawrth 2024, nifer amcangyfrifedig o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y grŵp staff gweinyddu, ystadau a chyfleusterau oedd 1,538 ar draws holl sefydliadau’r GIG . 

Roedd y gyfradd swyddi gwag amcangyfrifedig yn 5.0% ond roedd yn amrywio o -1.0% yng Nghwm Taf Morgannwg i 12.6% yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

At ddibenion y datganiad ystadegol hwn, diffinnir ‘swydd wag’ fel y gwahaniaeth rhwng nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) a ariennir fel y'i cofnodir yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid, a nifer y staff FTE sydd yn eu swydd fel y'i cofnodir ar Gofnod Staff Electronig y GIG (ESR) ar bwynt mewn amser. Y gyfradd swyddi gwag yw nifer y swyddi gwag wedi'u rhannu â nifer y swyddi FTE a ariennir sydd wedi'u cofnodi yn y cyfriflyfr cyffredinol.

Mae un FTE yn cyfateb i berson sy'n gweithio'r oriau safonol ar gyfer eu gradd. I'r rhan fwyaf o staff a gyflogir yn uniongyrchol, wythnos waith safonol yw 37.5 awr os yw'n amser llawn. Ceir diffiniad pellach o FTE yn yr Adroddiad Ansawdd Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG.

Mae grwpiau staff yn cael eu pennu gan y cod goddrychol sy'n eitem ddata yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid a'r ESR. Mae ganddo'r un rhestr ddiffiniedig o werthoedd y dylid eu cymhwyso'n gyson rhwng y ddwy ffynhonnell.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau i bwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Ansawdd Data

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (a elwid gynt yn 'ystadegau arbrofol'). Mae hyn yn golygu eu bod yn y cyfnod profi ac nad ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto.

Nodwyd nifer o faterion ansawdd data sydd wedi'u hamlygu isod, a byddwn yn gweithio arnynt yn ystod y misoedd nesaf.

  1. Mae'r fethodoleg wedi'i chymhwyso'n gyson ar draws y mwyafrif o sefydliadau'r GIG. Nid yw un bwrdd iechyd lleol (Aneurin Bevan) wedi gallu darparu nifer y swyddi FTE a ariennir drwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid hyd yma. Ar gyfer y data a ddarparwyd sy'n cyfeirio at 31 March 2024, mae data ar gyfer y grŵp staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig a’r grŵp staff cymorth nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd wedi'u cyflenwi yn seiliedig ar 'reolaeth sefydliad' trwy'r ESR. Mae'r dull hwn yn debyg i gael swyddi FTE a ariennir drwy'r cyfriflyfr cyffredinol ac mae'n debygol o fod yn gymharol debyg i'r dull a ddefnyddir mewn sefydliadau GIG eraill. Darparwyd data ar gyfer swyddi a ariennir ar gyfer pob grŵp staff arall trwy ofyn i'r adrannau yn uniongyrchol, sy'n annhebygol o fod yn gyson â'r dull a ddefnyddir ym mhob sefydliad GIG arall. 
  2. Mewn dau fwrdd iechyd arall (Cwm Taf Morgannwg a Caerdydd a’r Fro) cafodd y dull casglu data y cytunwyd arno ei weithredu ond mae wedi arwain at y ddau sefydliad yn adrodd nifer isel iawn (neu nifer negyddol) o swyddi gwag ar draws rhai grwpiau staff. Mae’n bosibl bod nifer y swyddi gwag a adroddwyd yn y ddau fwrdd iechyd hyn yn cael eu tanamcangyfrif. 
  3. Nid yw unrhyw staff a gofnodir fel meddygon o dan hyfforddiant, deintyddion o dan hyfforddiant, neu fferyllwyr cyn-cofrestru, wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn. Mae cymhlethdodau wrth gyfrif ‘swyddi gwag’ o'r math hwn gan fod gan y byrddau iechyd lleol gyllideb i'r staff hyn ond bydd y mwyafrif yn cael eu cyflogi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru drwy'r cynllun Cyflogwr Arweiniol Sengl. Gall byrddau iechyd hefyd gyflogi staff sydd wedi'u codio fel hyfforddeion yn uniongyrchol, heb iddynt fod yn hyfforddeion ffurfiol drwy'r Cyflogwr Arweiniol Sengl. Mae dull o fesur ‘swyddi gwag’ ar gyfer hyfforddeion yn cael ei archwilio ar hyn o bryd a bydd diweddariadau yn cael eu darparu mewn datganiadau ystadegol yn y dyfodol. 
  4. Gall fod nifer negyddol o swyddi gwag neu gyfradd swyddi gwag os yw'r nifer o staff mewn swydd ar ESR yn fwy na'r nifer a gyllidebwyd o staff trwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys. Sefydliad GIG yn gor-recriwtio staff yn fwriadol, er enghraifft pan fyddant yn disgwyl trosiant uchel o staff. Nid yw rhywfaint o gyllid untro, tymor byr/dros dro, neu gyfalaf ar gyfer swyddi wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer swyddi ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Mae cyllidebau staff yn cael eu dyrannu i grŵp staff ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid, ond yn ymarferol defnyddir y gyllideb i ariannu staff mewn sawl grŵp staff; mae nyrsys a recriwtiwyd yn rhyngwladol yn cael eu cofnodi dros dro fel staff cymorth nes eu bod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  5. Fel arfer, nid yw staff FTE mewn swydd ar ESR yn cynnwys staff banc, asiantaeth, contractwyr neu staff eraill nad ydynt ar y gyflogres. Gall hyn arwain at oramcangyfrif bach o nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag gan y gallai staff fod yn darparu gwasanaethau ond heb gael eu cofnodi ar ESR ar y dyddiad cyfeirio. 
  6. Efallai y bydd nifer y swyddi gwag yn y grŵp staff meddygol a deintyddol yn cael ei oramcangyfrif oherwydd gwahaniaethau o ran sut mae FTEs yn cael eu cyfrif rhwng y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ESR. Gall aelod llawn amser o'r grŵp staff hwn gyfrif fel 1 FTE ar ESR trwy eu contract a ddiffinnir fel 10 sesiwn yr wythnos. Er hynny, yn ymarferol gall rhai staff weithio 12 sesiwn yr wythnos a gellir eu cofnodi fel 1.2 FTE ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Byddai hyn yn creu ‘swydd wag’ o 0.2 drwy'r broses hon o gasglu data, ond yn ymarferol nid oes swydd wag gan fod yr aelod o staff yn gweithio'n hirach na'u horiau wedi'u contractio.
  7. Nid yw'r data ar gyfer 31 Mawrth 2024 yn cynnwys Gweithrediaeth GIG Cymru (a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru), lle'r oedd tua 180 o staff FTE yn cael eu cyflogi. Bwriedir i'r unedau hyn cael eu cynnwys mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol hwn yn y dyfodol. 
  8. Wrth i staff symud swyddi, gall diweddariadau i FTEs fesul cod goddrychol fod yn fwy amserol ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid nag ydynt i niferoedd y staff mewn swydd trwy ESR. Felly, efallai y bydd anghysondeb bach yn nifer y swyddi gwag yr adroddir amdanynt a nifer gwirioneddol y swyddi gwag ar y dyddiad cyfeirio. 
  9. Nid yw pob gwasanaeth o fewn byrddau iechyd lleol yn anelu at recriwtio'r nifer llawn o staff FTE sydd wedi'u cyllidebu. Gall rhai gwasanaethau ddewis defnyddio cyllideb eu staff yn hyblyg i gyflawni eu blaenoriaethau a/neu gallant ddewis defnyddio eu cronfa o staff dros dro (banc nyrsys, staff locwm, asiantaeth) yn hyblyg drwy gydol y flwyddyn wrth i'r galw ar y gwasanaeth newid. Felly, mae nifer bach o'r ‘swyddi gwag’ yr adroddwyd arnynt wedi'u cynllunio mewn rhai amgylchiadau. 
  10. Mae dyrannu staff i god goddrychol yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ar ESR yn cynnwys prosesau llaw a gall arwain at gamgymhariad o godau goddrychol rhwng y ddwy ffynhonnell. 
  11. Mae'n debygol y bydd effeithiau tymhorol ar nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag, sy'n effeithio'n benodol ar grwpiau staff ‘meddygol a deintyddol’ a ‘nyrsys, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig’ wrth i staff sydd newydd gymhwyso raddio (a dod ar gael i'w recriwtio) ar adegau penodol o'r flwyddyn. 
  12. Mae ystadegau ar swyddi gwag y GIG yn cael eu cyhoeddi gan wledydd eraill y DU: Ystadegau swyddi gwag GIG Lloegr; Ystadegau gweithlu GIG yr Alban; ac ystadegau swyddi gwag Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Mae pedair gwlad y DU yn defnyddio dulliau casglu data gwahanol i gynhyrchu'r ystadegau hyn, gan adlewyrchu'r her gymhleth o gynhyrchu ystadegau swyddi gwag, ac felly nid oes modd eu cymharu'n uniongyrchol. Mae GIG Lloegr yn cynhyrchu pedwar dull gwahanol i gyfrifo swyddi gwag a gwybodaeth recriwtio gysylltiedig ar gyfer y GIG yn Lloegr. O'r holl ddulliau a ddefnyddir yn nhair gwlad arall y DU, dull GIG Lloegr (NHSE) yw’r mwyaf tebyg i'r ffordd y casglwyd y data yng Nghymru ac mae mwy o waith wedi'i gynllunio i asesu'r gymhariaeth rhwng y ddau ddull hyn.

Mae data am Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ac Absenoldeb oherwydd Salwch yn y GIG yn cael eu cyhoeddi bob chwarter hefyd. Sylwch fod gwahaniaethau yn y ffordd y mae grwpiau staff yn cael eu diffinio rhwng y datganiadau hyn. 

‌Nid yw data'r gweithlu ar gyfer ymarferwyr meddygol cyffredinol (meddygon teulu) (StatsCymru) ac ymarferwyr deintyddol y GIG (StatsCymru) yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol. 

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Cyflwynir gwybodaeth chwarterol sy’n rhoi manylion am nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn a ariennir fel y'i cofnodir yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid a nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sydd yn eu swydd fel y'i cofnodir ar ESR ar ddiwrnod olaf y chwarter, yn ôl grŵp staff, yn uniongyrchol gan sefydliadau’r GIG ar daenlenni Excel.

Lluniwyd y ffigurau a gyhoeddwyd gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Cyfyngir mynediad at y data wrth brosesu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Cyfyngir mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau i dderbynwyr cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel ac fe’u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu, ac mae ymholiadau'n cael eu cyfeirio at sefydliadau’r GIG lle bo angen. Mae grwpiau staff yn cael eu pennu gan y cod goddrychol sy'n eitem ddata yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid a'r ESR. Mae ganddo'r un rhestr ddiffiniedig o werthoedd y dylid eu cymhwyso'n gyson rhwng y ddwy ffynhonnell.

Mae’r datganiad ystadegol yn cael ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr cyn ei gyhoeddi. Cyhoeddir data yn unol â datganiad ar gyfrinachedd a mynediad data bob chwarter. Mae holl faterion ansawdd data hysbys yn cael eu hesbonio yn adran ansawdd a methodoleg y datganiad hwn.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn yw rhoi gwybod i ddefnyddwyr am swyddi gwag ar gyfer staff a fyddai’n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan GIG Cymru. Cyhoeddir y wybodaeth hon ochr yn ochr â data am staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru ac absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG i roi darlun mwy cyflawn o weithlu’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru.

Cyhoeddir ystadegau yn chwarterol gydag oedi o dri mis rhwng cyfnod cyfeirio'r ystadegau diweddaraf a chyhoeddi. Cyhoeddir yr ystadegau gyda dadansoddiad a sylwebaeth fer, yn ogystal â thablau fformat data agored a gyhoeddir ar StatsCymru.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Eu hamcan yw sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (‘dangosyddion cenedlaethol’) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â'u hasesiadau a chynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 58/2024