Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 ac mae data ar gyfer y cyfnod o fis Hydref i fis Rhagfyr 2023 wedi'u diwygio.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Caiff cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch tymor hwy eu mesur drwy gymryd cyfradd gyfartalog y salwch ar gyfer y 12 mis cyn diwrnod olaf pob mis cyfeirio.

  • Yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch gyfartalog yn 6.1%. Roedd hyn 0.5 pwynt canran yn is na’r un cyfnod 12 mis y llynedd (12 mis i 31 Mawrth 2023), ond 0.6 pwynt canran yn uwch nag yn y 12 mis i 31 Mawrth 2015.
  • Cynyddodd y gyfradd gyfartalog 12 mis yr absenoldeb oherwydd salwch yn ystod y pandemig COVID-19 a chyrhaeddodd uchafbwynt yn y cyfnodau 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf ac Awst 2022. Ers hynny, mae’r gyfradd 12 mis wedi bod ar duedd clir i lawr ac mae ar ei hisaf ers y 12 mis a ddaeth i ben yn Medi 2021.

Tra bod data misol yn cael ei gyhoeddi, gall fod amrywiadau mawr o fis i fis, felly caiff tueddiadau tymor byr mwy sefydlog eu mesur trwy ddefnyddio’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ym mhob chwarter. Mae’r data chwarterol diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024, ac mae’n dangos:

  • y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch oedd 6.3%, yr un peth â chwarter Ionawr i Fawrth y llynedd (2023)
  • roedd y gyfradd yn amrywio o 8.4% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 2.7% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wrth gymharu sefydliadau’r GIG
  • roedd y gyfradd yn amrywio o 9.5% ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill i 2.3% ar gyfer staff meddygol a deintyddol, wrth gymharu grwpiau staff.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Ffigur 1: Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru yn ôl mis, Mawrth 2015 i Fawrth 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch wedi bod ar duedd i lawr ers canol 2022, yn dilyn cyfnod o duedd i fyny yn gyffredinol yn y pum mlynedd flaenorol.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n dymhorol drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf fel arfer. Er mwyn darparu dadansoddiad mwy sefydlog o newidiadau tymor hwy, dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Ffigur 1.

Mae’r cyfartaledd symudol 12 mis wedi cynyddu dros y tymor hir. Roedd y gyfradd yn agos i 5.2% ar gyfer pob cyfnod 12 mis a ddaeth i ben rhwng Rhagfyr 2015 a Mawrth 2019, ond cynyddodd i’r cyfraddau uchaf ar gofnod (7.0%) am y cyfnodau 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf a 31 Awst 2022. Ers hynny, mae’r gyfradd wedi gostwng ym mhob un ond tri chyfnod 12 mis.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Ffigur 2: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad GIG Cymru, Ionawr i Fawrth 2024 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr yn ôl sefydliad y GIG ac yn uwch yn gyffredinol ymhlith yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r byrddau iechyd. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, bu i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ostwng yn saith o’r 13 sefydliad y GIG o’i gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. 

Arhosodd y gyfradd yr un fath yng Nghwm Taf Morgannwg, Betsi Cadwaladr ac ym Mhowys, ond cynyddodd ychydig yn Hywel Dda, Aneurin Bevan a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (8.4%) o holl sefydliadau’r GIG, ond roedd 0.1 pwynt canran yn is na’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. 

Roedd y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.7%), Iechyd a Gofal Digidol Cymru (2.9%) a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (3.5%). Y tri sefydliad hyn oedd â'r cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch isaf yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol hefyd.

Cynyddodd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch 0.5 pwynt canran o’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol yn Hywel Dda ac ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, y newid blynyddol mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch o holl sefydliadau’r GIG.

Roedd rhywfaint o amrywiaeth ymhlith y byrddau iechyd lleol, gyda chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch ym Mae Abertawe (7.1%) a’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.2%).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Ffigur 3: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff GIG Cymru, Ionawr i Fawrth 2024 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol grwpiau staff. Roedd y cyfraddau ar gyfer staff ambiwlans, a chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill fwy na phedwar gwaith yn fwy nag ar gyfer staff meddygol a deintyddol.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn is neu’r un fath yn nhri o’r chwe grŵp staff o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd cynnydd bach (0.2 pwynt canran) yn y gyfradd ar gyfer staff ambiwlans, staff gweinyddiaeth ac ystadau, a staff meddygol a deintyddol.

Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill oedd â’r gyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (9.5%), mymryn yn uwch na’r gyfradd ar gyfer staff ambiwlans (9.4%). 

Staff meddygol a deintyddol oedd â chyfradd isaf yr absenoldeb oherwydd salwch (2.3%) fel sydd wedi bod yn wir ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn 2009.

Roedd y newid mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn y grŵp staff cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill, a ostyngodd 0.4 pwynt canran o’i gymharu ag Ionawr i Fawrth 2023.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau i bwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Caiff data ar nifer y Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (a elwir hefyd yn ddata’r cyfrifiad ar staff y GIG) eu cyhoeddi bob chwarter. Noder bod mân wahaniaethau yn y ffordd y caiff grwpiau staff eu diffinio yn y ddau ddatganiad. Mae manylion am y gwahaniaethau hyn i’w gweld yn yr adroddiad ansawdd. Mae ystadegau cyflenwol ar nifer y swyddi gwag yn GIG Cymru hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Caiff detholiad ei lawrlwytho’n fisol o Warws Data y Cofnod Staff Electronig (ESR) sy'n rhoi manylion nifer y diwrnodau calendr cyfwerth ag amser llawn sydd ar gael a nifer y diwrnodau calendr cyfwerth ag amser llawn o absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff y GIG yng Nghymru ar yr ESR yn ôl grŵp staff a sefydliad. Cyflwynir data gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar daenlenni Excel drwy Objective Connect, offeryn ar y we i rannu a derbyn ffeiliau yn ddiogel.

Lluniwyd y ffigurau a gyhoeddwyd gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Cyfyngir mynediad at y data wrth brosesu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Cyfyngir mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau i dderbynwyr cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (OSR).

Ansawdd

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel ac fe’u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu, ac mae ymholiadau'n cael eu cyfeirio at AaGIC a sefydliadau GIG eraill lle bo angen. Mae data fesul grŵp staff yn seiliedig ar fapio codau galwedigaethau ar gyfer staff unigol. Mae gwybodaeth am grwpiau staff ar gael yn Llawlyfr Codau Galwedigaethol y GIG.

Mae’r datganiad ystadegol yn cael ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr cyn ei gyhoeddi. Cyhoeddir data yn unol â datganiad ar gyfrinachedd a mynediad data bob chwarter.

Mae pob rhifyn o'r datganiad yn cyflwyno data ar gyfer y chwarter diweddaraf a data diwygiedig ar gyfer y chwarter blaenorol. Gan fod ESR yn system fyw a bod rhannau o ddata'n cael eu cymryd ohono, gellir diwygio’r data a gyflwynir mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol yn y dyfodol.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn yw rhoi gwybod i ddefnyddwyr am lefelau absenoldeb oherwydd salwch yng NGIG Cymru. Cyhoeddir y wybodaeth hon ochr yn ochr â data am staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymruswyddi gwag yng NGIG Cymru i roi darlun mwy cyflawn o weithlu’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru.

Cyhoeddir ystadegau yn chwarterol gydag oedi o dri mis rhwng cyfnod cyfeirio'r ystadegau diweddaraf a chyhoeddi. Cyhoeddir yr ystadegau gyda dadansoddiad a sylwebaeth fer, yn ogystal â thablau fformat data agored a gyhoeddir ar StatsCymru: absenoldeb oherwydd salwch

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 57/2024