Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr Mehefin, 2024.

Dechrau tawel i’r flwyddyn

  • Mae oddeutu un o bob chwech (16%) busnes wedi cael mwy o gwsmeriaid hyd yma eleni o’i gymharu â’r llynedd, ac mae oddeutu hanner (48%) wedi cael yr un lefel. Fodd bynnag, mae 36% wedi cael llai o gwsmeriaid.
  • Atyniadau yw’r sector sy’n perfformio orau, gyda 25% wedi cael mwy o gwsmeriaid hyd yma eleni na’r llynedd a 23% yn cael llai. Ar ochr arall y raddfa, mae darparwyr llety hunanddarpar wedi cael blwyddyn heriol hyd yn hyn, gyda 12% wedi cael mwy o gwsmeriaid na’r llynedd ond 48% wedi cael llai.

Lefelau deiliadaeth y Gwanwyn

  • Roedd deiliadaeth ystafelloedd net yn y sector llety â gwasanaeth yn 61% ym mis Mawrth, 64% ym mis Ebrill a 68% ym mis Mai. Roedd deiliadaeth unedau net yn y sector hunanddarpar yn 59% ym mis Mawrth, 65% ym mis Ebrill a 68% ym mis Mai.

Lefelau deiliadaeth yr Haf – disgwyliadau cryf am archebion funud olaf

  • Roedd lefelau deiliadaeth ar adeg y cyfweliadau ar gyfer mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst rhwng 70 a 75% ar gyfer pob un o’r prif sectorau llety (llety â gwasanaeth, hunanddarpar a meysydd carafanau a gwersylla). Roedd nifer o weithredwyr (59%) yn nodi y byddent yn hoffi gweld mwy o archebion ond roeddent yn disgwyl y byddai’r tuedd ar gyfer archebu munud olaf (wedi’i arwain gan dywydd anrhagweladwy, ac i ryw raddau, cwsmeriaid gyda llai o incwm gwario) yn golygu y byddant yn brysurach nag yr oedd lefelau archebion presennol yn ei awgrymu.

Cwsmeriaid yn dychwelyd yn cefnogi nifer o fusnesau

  • Yr ateb positif mwyaf cyffredin i’r cwestiwn, ‘A oes unrhyw resymau penodol i fod yn bositif am y busnes eleni?’ yw ‘lefel uchel o gwsmeriaid yn dychwelyd’ (26%). Fodd bynnag, mae 32% wedi ateb, ‘does dim byd i deimlo’n bositif yn ei gylch’.

Tywydd gwael ar frig y rhestr o bryderon

  • ‘Gallai’r tywydd fod yn wael’ (30% yn ddigymell) yw’r pryder a nodwyd amlaf eleni.
  • Rhai o’r pryderon eraill a ddaeth i’r amlwg oedd ‘Costau gweithredu uchel’ (24% yn ddigymell), ‘diffyg incwm gwario gan bobl’ (23%) a ‘pholisïau Llywodraeth Cymru’ (22%).

Hyder i fod yn broffidiol

  • Mae 19% o weithredwyr yn ‘hyderus iawn’ am redeg y busnes yn broffidiol eleni ac mae 37% yn ‘eithaf hyderus’. Ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’r lefel hyder yn gymharol isel gan fod gweithredwyr twristiaeth yn aml yn teimlo ar eu mwyaf gobeithiol wrth i dymor yr haf agosáu.

Cynnig twristiaeth Cymru o’i gymharu â rhanbarthau eraill sy’n cystadlu

  • Mae’r rhan fwyaf (74%) o weithredwyr yn dweud, yn ôl adborth cwsmeriaid, bod eu rhanbarth o Gymru’n gwneud yn well na chyrchfannau gwyliau eraill yn y DU o ran ‘croeso cynnes gan y bobl leol’. Dim ond 5% sy’n dweud bod cyrchfannau eraill yn y DU yn gwneud yn well o ran hyn.
  • Yn yr un modd, ceir canfyddiad bod Cymru’n gwneud yn llawer gwell na chyrchfannau gwyliau eraill yn y DU o ran ‘amrywiaeth o lety o ansawdd uchel’, ‘dewis eang o leoedd da i fwyta,’ ‘profiad unigryw mewn ardaloedd anghysbell’ ac ‘ystod eang o atyniadau ymwelwyr’ .
  • Y ddwy brif agwedd lle canfyddir bod cyrchfannau’r DU yn gwneud yn well na Chymru yw ‘rhwyddineb teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus’ (roedd 16% yn dweud bod Cymru’n well ond roedd 59% yn dweud bod cyrchfannau eraill yn well), a ‘digon o amwynderau o ansawdd uchel mewn mannau twristiaeth poblogaidd’ (roedd 22% yn dweud bod Cymru’n well ond roedd 51% yn dweud bod cyrchfannau eraill yn well).
  • Ond ar y cyfan, mae gweithredwyr yn teimlo bod cynnig Cymru’n gryf, wedi’i arwain gan ei harddwch naturiol.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr Mehefin, 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.