Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn darparu ystadegau cryno ar staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ac yn canolbwyntio ar nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir ar ddiwrnod olaf y chwarter diweddaraf sydd ar gael. Mae'r datganiad yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl grwp staff ar lefel Cymru. Cyhoeddir data sydd wedi’u categoreiddio fesul cod galwedigaethol a sefydliadau’r GIG ar StatsCymru

Daw’r ystadegau o Gofnod Staff Electronig y GIG, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae niferoedd staffio yn cael eu mesur orau drwy ddefnyddio data cyfwerth ag amser llawn (FTE) gan fod FTE yn cyfrif am weithio'n rhan-amser. Mae un FTE yn gyfwerth â pherson yn gweithio'r oriau safonol ar gyfer eu gradd (fel arfer 37.5 awr yr wythnos) a ceir mwy o fanylion yn yr adroddiad ansawdd. Mae cyfanswm niferoedd y staff (‘cyfrif pennau’) hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru ac fe’u defnyddir ar gyfer dadansoddi nodweddion staff (StatsCymru) yn y datganid ystadegol blynyddol.

Nid yw data'r gweithlu ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol fel ymarferwyr meddygol cyffredinol (StatsCymru) ac ymarferwyr deintyddol y GIG (StatsCymru) wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ac fe'u cyhoeddir ar wahân gan eu bod yn gontractwyr GIG annibynnol.

Prif bwyntiau

Rhwng 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn:

  • Cynyddodd cyfanswm nifer y staff 2,844 (3.0%) i 97,061.
  • Cynyddodd nifer y staff meddygol a deintyddol 336 (4.3%) i 8,250.
  • Cynyddodd nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd 1,597 (4.3%) i 38,820.
  • Cynyddodd nifer y staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol 531 (3.2%) i 17,033.
  • Cynyddodd nifer y staff gweinyddiaeth ac ystadau 536 (2.3%) i 24,029.
  • Gostyngodd nifer y staff ambiwlans 44 (1.5%) i 2,986.
  • Gostyngodd nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill 114 (1.9%) i 5,825. 
  • Cynyddodd nifer y staff eraill 2 (1.4%) i 118.

Cynyddodd cyfanswm nifer y staff 3,183 (2.9%) i 112,105.

Crynodeb o staff a gyflogir yn uniongyrchol

Ffigur 1: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 31 Mawrth, 2019 i 2024 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod nifer y staff cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2019.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

Mae cyfanswm y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG wedi cynyddu dros y tymor hir gyda 21.2% yn fwy o staff ym mis Mawrth 2024 nag oedd ym mis Mawrth 2019.

Ffigur 2: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru ar 31 Mawrth 2023 a 2024, yn ôl grŵp staff 

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy’n dangos bod y grŵp nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yn parhau i fod y grŵp staff mwyaf gyda 40% o gyfanswm y gweithlu ym mis Mawrth 2024. Mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn ar gyfer pob grŵp, ac eithrio'r grwpiau staff ambiwlans a chynorthwywyr gofal iechyd a staff cefnogol eraill, wedi cynyddu ers 31 Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Crynodeb o staff y GIG yn ôl grŵp staff a blwyddyn ar StatsCymru

Y cynnydd blynyddol mewn staff cyfwerth ag amser llawn rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mawrth 2024 oedd 3.0%. Roedd y newid yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn yn amrywio o gynnydd o 4.3% yn nifer y staff meddygol, a staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, i ostyngiad o 1.9% yn nifer y cynorthwywyr gofal iechyd a staff cefnogol eraill.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell y data yw Cofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae gan nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG rai patrymau tymhorol, sy’n gysylltiedig ag amseroedd penodol yn y flwyddyn pan fydd modd recriwtio staff newydd gymhwyso i rolau parhaol. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i'r 0.1 agosaf. Mae newidiadau pwynt canran yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar y niferoedd heb eu talgrynnu.

Mae data am Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG a swyddi gwag yng NGIG Cymru yn cael eu cyhoeddi bob chwarter. Sylwch fod mân wahaniaethau yn y ffordd y mae grwpiau staff yn cael eu diffinio rhwng datganiadau. Manylir ar y rhain yn yr adroddiad ansawdd.

Ceir manylion llawn o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf yn yr adroddiad ansawdd.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Caiff detholiad ei lawrlwytho’n chwarterol o Warws Data y Cofnod Staff Electronig (ESR) sy'n rhoi manylion ar gyfer pob aelod o staff y GIG yng Nghymru ar yr ESR ar ddiwrnod olaf y chwarter. Cyflwynir data gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar daenlenni Excel drwy Objective Connect, offeryn ar y we i rannu a derbyn ffeiliau yn ddiogel.

Lluniwyd y ffigurau a gyhoeddwyd gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Cyfyngir mynediad at y data wrth brosesu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Cyfyngir mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau i dderbynwyr cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel ac fe’u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu, ac mae ymholiadau'n cael eu cyfeirio at AaGIC a sefydliadau GIG eraill lle bo angen. Mae staff wedi'u grwpio yn seiliedig ar god galwedigaeth o fewn ESR, ac mae data a gyhoeddir yn cyd-fynd â'r prif grwpiau y cyfeirir atynt yn y Llawlyfr Codau Galwedigaethau’r GIG.

Mae’r datganiad ystadegol yn cael ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr cyn ei gyhoeddi. Cyhoeddir data yn unol â datganiad ar gyfrinachedd a mynediad data bob chwarter.

Gan fod ESR yn system fyw a bod rhannau o ddata'n cael eu cymryd ohono, gellir diwygio’r data a gyflwynir mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol yn y dyfodol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o broblemau wedi'u canfod gydag ansawdd y data. Mae rhai problemau wedi cael eu datrys. Er mwyn helpu defnyddwyr i ddehongli'r data hynny a deall ble allai cyfyngiadau fodoli, mae disgrifiad mwy clir yn yr adroddiad ansawdd.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn yw rhoi gwybod i ddefnyddwyr am lefelau staffio yng NGIG Cymru. Cyhoeddir y wybodaeth hon ochr yn ochr â data am absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG a swyddi gwag yng NGIG Cymru i roi darlun mwy cyflawn o weithlu’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru.

Cyhoeddir ystadegau yn chwarterol gydag oedi o dri mis rhwng cyfnod cyfeirio'r ystadegau diweddaraf a chyhoeddi. Cyhoeddir yr ystadegau gyda dadansoddiad a sylwebaeth fer, yn ogystal â thablau fformat data agored a gyhoeddir ar StatsCymru. Cyhoeddir datganiad ystadegol manylach ar gyfer data fel ar 30 Medi bob blwyddyn.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 56/2023