Neidio i'r prif gynnwy

Mae deddfwriaeth newydd yn dod i rym heddiw [10 Gorffennaf] sy'n helpu i sicrhau bod pysgodfeydd cocos yng Nghymru yn parhau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 yn symleiddio'r rheoliadau ac yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru i reoli pob pysgodfa gocos mewn modd hyblyg, gan ymateb i dystiolaeth am iechyd y stoc a'r amgylchedd.

Mae hanes hir o gasglu cocos yng Nghymru sydd wedi cael ei gofnodi'n dda. Yn y cyfnod modern mae ei bwysigrwydd economaidd wedi cynyddu, ac erbyn hyn cydnabyddir ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig at ddiwydiant pysgota Cymru. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi cyflwyniad y ddeddfwriaeth newydd hon. Bydd yn helpu i sicrhau bod pysgodfeydd cocos yng Nghymru yn parhau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw yn y dyfodol.

Mae casglwyr a chymunedau lleol yn falch o'u treftadaeth, a bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn hyrwyddo casglu cocos fel gwaith dilys a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant, gan  gefnogi twf economaidd drwy barhau i weithredu pysgodfeydd hirsefydlog a hanesyddol bwysig.

Bydd gwiriadau newydd ar geisiadau am drwyddedau'n sicrhau mai'r bobl sydd â'r wybodaeth am sut i weithio'n ddiogel mewn amgylcheddau rhynglanwol sy'n casglu cocos.

Bydd tystiolaeth wyddonol gadarn a dulliau rheoli hyblyg yn sicrhau bod cocos yn cael eu casglu mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir, ac nad yw'n effeithio ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau rhynglanwol pwysig sy'n byw gerllaw.