Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), a gyflwynwyd gyntaf i'r Senedd ym mis Hydref 2023, wedi cael ei basio heddiw (09 Gorffennaf 2024) gan Senedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Bil yn dileu rhwystrau i ymgysylltu democrataidd ac yn creu system o weinyddu etholiadol sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, drwy:

  • gyflwyno cynlluniau peilot newydd sy'n arwain at gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru - gyda 400,000 o bobl o bosibl yn cael eu hychwanegu at y gofrestr;
  • sefydlu corff newydd i Gymru gyfan sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru yn effeithiol;
  • Creu llwyfan gwybodaeth ar-lein newydd i bleidleiswyr;
  • cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.

Disgwylir iddo gael y Cydsyniad Brenhinol yn yr haf, ac mae'r Bil hefyd yn cynnwys ymrwymiadau i ehangu rôl a chylch gwaith Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Mae'r cynigion yn cydategu'r diwygiadau diweddar i'r Senedd a'i system etholiadol a wnaed drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw:

Mae hon yn flwyddyn fawr ar gyfer etholiadau, gyda'r Etholiad Cyffredinol yr wythnos diwethaf yn ein hatgoffa bod pleidlais pawb yn cyfrif, ac y gallwn benderfynu pwy sy'n rhedeg ein llywodraethau drwy bleidleisio.  Mae'n bwysig bod pob dinesydd yn cael cyfle i bleidleisio ac mae hynny'n golygu bod ar y gofrestr etholiadol. Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, mae tua 400,000 o bobl ar goll o'r rhestr. Mae hyn yn ddrwg i ddemocratiaeth. Bydd ein Bil yn ceisio cofrestru pob dinesydd sydd â hawl i bleidleisio yn awtomatig.

Heddiw, mae aelodau o'r Senedd wedi pleidleisio dros ddod â'n system etholiadol i mewn i'r 21ain ganrif a'i gwneud yn fwy atebol a hygyrch i bobl Cymru.