Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Yn ddiweddar roeddwn ar ymweliad â Tsieina a Hong Kong i gefnogi taith fasnach aml-sector ac i hyrwyddo Cymru fel partner busnes byd-eang. Roeddwn hefyd yn falch o fod mewn perfformiad arbennig gan Opera Cenedlaethol Cymru yn Hong Kong, a'r lle dan ei sang - enghraifft wych o ddiwylliant Cymru ar y lefel uchaf.
Yn Shanghai cynhelais dderbyniad busnes i hyrwyddo partneriaethau gyda'r 24 aelod o'r daith fasnach o Gymru. Anerchais seminar ar gyfer cwmnïau Shanghai sydd â diddordeb cynnal busnes yng Nghymru. Bu imi hefyd gyfarfod ac amrywiol fusnesau eraill sydd â diddordeb posibl mewn buddsoddi.
Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys elfen ddiwylliannol gref oedd yn hyrwyddo cyfoeth yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig. Roeddwn yn arbennig o falch o fod yn dyst i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Shanghai, sy'n gosod sylfaen ar gyfer cydweithredu fydd o fudd i'r ddau sefydliad.
Yn Hong Kong cynhelais dderbyniad busnes arall, gyda pherfformiad gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, i hyrwyddo'r cysylltiadau rhwng ein taith fasnach a Chymru fel partner busnes yn fwy cyffredinol. Defnyddais fy ymweliad i greu cysylltiadau rhwng cymuned fusnes Hong Kong a'r llywodraeth, yn ogystal â sefydliadau ym Mhrydain allai ein helpu - Prif Gonswl Prydain, yr Adran Masnach Ryngwladol, y Cyngor Prydeinig a'r Siambr Fasnach.
Mae'n galonogol iawn gweld nifer o gwmnïau gwych o Gymru sydd â'r uchelgais a'r awydd i ddatblygu marchnadoedd allforio newydd neu eu cynyddu. Mae'r economi yn Tsieina yn ddeinamig ac yn parhau i ddatblygu. Mae Cymru yn agored i fusnes ledled y Byd a byddwn yn parhau i fynd ati i ddarparu amgylchedd agored a chefnogol i fuddsoddwyr. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau i gefnogi uchelgeisiau allforio newydd a chyfredol yn Tsieina ac mewn mannau eraill. Ni fu erioed yn bwysicach i fusnesau a llywodraeth gydweithio i ehangu ein gorwelion a chreu mwy o gyfoeth.
Noder: ymunodd y cwmnïau canlynol daith fasnach Tsieina / Hong Kong:
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

- 4Pi Productions UK
- Abartech
- Air Covers
- Ballet Cymru
- Bombastic
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Christine Bird-Jones
- Coleg y Cymoedd
- Cradocs Savoury Biscuits
- Yr Ymddiriedolaeth FAW
- GTW Developments Group
- Julia Brooker Paintings
- Cwmni Dŵr
- Manutech Europe
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- NPTC Group of Colleges
- Adeiladu Busnesau
- Ruth Lee
- Silverlining Furniture
- Teddington Engineered Solutions
- Ty Nant Spring Water
- Volcano Theatre Company
- Wagtail UK
- Opera Cenedlaethol Cymru