Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Hannah Jones: Ysgol Tŷ Ffynnon, Shotton

Mae Hannah yn athrawes angerddol a brwdfrydig.

Mae ganddi ddawn naturiol i arloesi ac mae hi wedi bod yn sbardun tu cefn i siwrnai Cwricwlwm i Gymru Ysgol Tŷ Ffynnon.

Mae Hannah wedi llunio ac yn arwain gwahanol ffyrdd o ddysgu - rhai y mae hi’n eu defnyddio yn ei dosbarth - ac maent wedi eu mabwysiadu’n llwyddiannus gan yr ysgol.

Mae Hannah hefyd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd allgyrsiol a phrofiadau newydd i’w dysgwyr, wrth arwain timau dawns a cheerleading yr ysgol i ennill nifer o gystadlaethau!

Mae disgyblion yn caru bod yn ei dosbarth ac yn ffynnu gyda’i harloesedd, gan ddweud wrth y beirniaid: “Mae popeth ry’n ni’n dysgu yn hwyl”.