Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Alex Davies: Black Lane Primary School, Wrecsam

Mae angerdd Alex dros yr iaith Gymraegyn heintus.

Wedi iddo gwblhau blwyddyn sabothol, dychwelodd Alex yn benderfynol i helpu cymuned Black Lane Primary School I siarad Cymraeg yn hyderus.

Mae’n sicrhau fod sgiliau iaith Cymraeg yn cael eu datblygu mewn modd hwyliog ac ymgysylltiol, drwy gefnogi cydweithwyr, disgyblion a rhieni i ddysgu.

Mae cyffro a brwdfrydedd heintus Alex yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae e wedi ysbrdoli ei gymuned, gan sefydlu Wythnos Trochi yn y Gymraeg ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, drwy ddarparu gwersi Cymraeg i gydweithwyr a gwahodd rhieni i ymuno â dosbarthiadau ar ddiwedd y tymor.