Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Rhian Thomas: Catwg Primary School, Castell-nedd

Mae lles dysgwyr Catwg Primary School wrth galon popeth mae Rhian yn eiwneud. 

Mae Rhian yn athrawes llawn dychymyg ac ysbrydoledig, ac mae ei hangerdd dros ddysgu yn yr awyr agored wedi tanio sbarc yng nghymuned yr ysgol gyfan.

Mae hi’n creu profiadau dysgu bendigedig yn Ysgol Goedwig Catwg Primary School, o redeg cylchoedd chwarae cyn-ysgol, i sesiynau dysgu ary penwythnos ar gyfer y gymuned leol.

Mae Rhian yn angerddol dros sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol ac mae’n fedrus iawn wrth chwalu unrhyw rwystrau a allai atal hyn.