Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Tîm Tirlunio ac Eco-Adeiladu: Coleg Gŵyr, Abertawe

Mae’n amhosib mesur dylanwad y Tîm Tirlunio ac Eco-Adeiladu ar fywydau dysgwyr.

Mae'r tîm yn darparu rhaglenni addysg i ddysgwyr sydd wedi ymddieithrio o addysg yn yr ystafell ddosbarth yn y gorffennol, er mwyn iddynt fod yn un â natur a chymryd rhan mewn prosiectau adeiladu a thirlunio.

Mae eu hymdrechion wedi gwella presenoldeb dysgwyr yn y coleg yn sylweddol.

Mae tîm yng Ngholeg Gŵyr yn rhoi o’u gorau i’w dysgwyr, er gwaethaf heriau fel ymddygiad a phresenoldeb.

O ganlyniad i’r hyn y bu iddynt adeiladu yn y gymuned, mae'r tîm yn gwella hunan-werth ac yn helpu'r dysgwyr i ymfalchïo yn eu gwaith.