Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Emma Evans: Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr, Rhaeadr

Mae Emma yn ymarferydd creadigol sydd wedi addysgu popeth ym mhobman yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr.

Enwebwyd Emma gan y plant yn ei dosbarth. Dywedon nhw wrth y beirniaid ei bod yn “gefnogol, yn garedig, ac yn frwdfrydig ym mhopeth y mae’n ei wneud!”

Mae Emma yn mynd allan o’i ffordd i alluogi pob plentyn i ffynnu a dod yn unigolion hyderus, ac mae hyn yn cynnwys ei chlybiau chwaraeon niferus, amser mewn ysgolion coedwig ac ennyn brwdfrydedd ei Harweinwyr Llyfrgell.

Mae pob plentyn yn ei dosbarth yn gwneud cynnydd mawr ac mae pawb yn cytuno fod Emma, yn hwylusydd dysgu yn ei ystyr ehangaf.