Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Richard Owen: Pennaeth Gweithredol, Ysgol Idris Davies, Tredegar

Mae Richard yn Brifathro penderfynol, empathetig ac ysbrydoledig, ac mae gan y disgyblion, ei gydweithwyr, y rhieni a’r gymuned ehangach feddwl mawr ohono.

Mae wedi bod yn llwyddiannus yn cyfuno tair ysgol i greu ysgol gynhwysfawr a blaengar, Ysgol Idris Davies. 

Siaradodd cydweithwyr yn ddiddiwedd am egni ac ymroddiad Richard a’i lefelau uchel o ddeallusrwydd emosiynol a’i arweinyddiaeth gwirioneddol.

Yn angerddol dros gymuned gyfan yr ysgol, mae Richard wedi cael effaith enfawr ar safonau a dyheuadau pob disgybl, beth bynnag fo’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.