Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Jamie Hallett: Pennaeth Gweithredol, Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod/Ysgol Bro Sannan, Bargod

Mae Jamie yn Brifathro brwdfrydig, angerddol a gweledigaethol.

Mae’r tîm arweinyddol yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod yn ei ddisgrifio fel arweinydd ysbrydoledig sy’n gofalu am bob disgybl a’u teuluoedd, aelodau o’r staff a’r gymuned.

Mae e’n frŵd dros roi’r gallu i’r bobl ifanc sydd dan ei ofal i fod yn ddinasyddion balch, sy’n siarad Cymraeg, ac yn llwyddo ym mha bynnag nod maen nhw’n dewis.

Fe’i disgrifwyd Jamie gan ei gydweithwyr fel unigolyn ymroddedig a hawdd mynd ato, sydd wedi ennyn hyder ynddyn nhw ac wedi cynnig cyfle iddyn nhw i ddatblygu yn eu swyddi.