Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Eir ati yn y ddogfen hon i nodi cwmpas a chynnwys hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion llywodraethwyr.

Rhaid i gadeiryddion cyrff llywodraethu gwblhau'r hyfforddiant i gadeiryddion o fewn 6 mis i'w hethol, a bydd disgwyl iddyn nhw ddilyn yr hyfforddiant a amlinellir yn y ddogfen hon.

Bydd yr hyfforddiant yn helpu i sicrhau bod cadeiryddion:

  • yn meddu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni'r rôl yn effeithiol er mwyn cynorthwyo yn y gwaith o wella'r ysgol, codi safonau perfformiad, sicrhau lles dysgwyr a gwella safon yr addysg a ddarperir
  • yn datblygu a gwella'r ddealltwriaeth sydd ganddyn nhw o rôl cadeirydd effeithiol wrth arwain y corff llywodraethu
  • yn gwella'u hyder, eu sgiliau arwain a'u gallu i ddatblygu perthnasau effeithiol gyda'r pennaeth er mwyn iddyn nhw allu herio a chefnogi'r ysgol
  • yn ymwybodol o faterion addysgol cenedlaethol a lleol a'r effaith y mae'r materion hynny'n ei chael ar gyrff llywodraethu
  • yn llwyr ymwybodol o bwysigrwydd hyfforddiant a'r angen i feithrin eu sgiliau a sgiliau'r corff llywodraethu a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi eraill sydd ar gael iddyn nhw

Bydd yr hyfforddiant yn adlewyrchu'r fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer llywodraethu ysgolion yng Nghymru a bydd yn diffinio'n glir yr hyn sydd i'w ddisgwyl gan gadeirydd wrth iddo ymgymryd â'r rôl:

  • rhoi arweiniad clir wrth drefnu gwaith y corff llywodraethu 
  • canolbwyntio ar y rôl strategol
  • yr amryfal bwerau a dyletswyddau sydd gan gyrff llywodraethu 
  • rôl y corff o ran gwella'r ysgol
  • sut y mae'r corff llywodraethu yn cefnogi ac yn herio gwaith yr ysgol 
  • rôl y corff o ran monitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol
  • bod yn gyfaill beirniadol i'r pennaeth

Yn ogystal, bydd yr hyfforddiant i gadeiryddion yn cynorthwyo llywodraethwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau allweddol. Y rhain fydd y sgiliau a'r rhinweddau y mae eu hangen ar gadeirydd effeithiol a fydd yn ychwanegu at gorff llywodraethu, megis: 

  • arwain tîm
  • hunanhyder
  • gwaith tîm effeithiol
  • datrys problemau
  • rheoli amser 
  • ysgogi
  • sgiliau dirprwyo da
  • cymorth i lywodraethwyr eraill

Bydd yr hyfforddiant yn rhoi trosolwg ar lywodraethu ysgolion a chyfrifoldebau cadeirydd corff llywodraethu.

Rolau a chyfrifoldebau allweddol cyrff llywodraethu

Pwerau a dyletswyddau'r corff llywodraethu

  • Cynnig golwg strategol: pennu’r fframwaith a fydd yn llywio’r ffordd y mae’r pennaeth a’r staff yn mynd ati i redeg yr ysgol, pennu’r nodau a’r amcanion, cytuno ar y polisïau, y targedau a’r blaenoriaethau er mwyn cyrraedd yr amcanion hynny, monitro a gwerthuso.
  • Bod yn gyfaill beirniadol: cefnogi a herio’r pennaeth a’r staff, gan geisio gwybodaeth ac esboniadau.
  • Sicrhau atebolrwydd: esbonio penderfyniadau’r corff llywodraethu, ac unrhyw gamau a gymerir ganddo, wrth unrhyw un sydd â buddiant dilys.

Cyfrifoldebau craidd

  • Safonau: sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyflawniad addysgol, ac o ran presenoldeb ac ymddygiad, gan gynnwys mynd ati i adolygu’n drwyadl unrhyw ddata a gyhoeddwyd am berfformiad a chynllun datblygu'r ysgol, a hunanwerthuso'n drylwyr.
  • Targedau: gosod targedau i’w defnyddio wrth fesur cynnydd o ran cyflawniad a deilliannau dysgwyr.
  • Cwricwlwm i Gymru: sicrhau bod pob dysgwr yn cael manteisio ar gwricwlwm eang a chytbwys sy'n bodloni'r gofynion statudol, yn ogystal â'u cefnogi a'u herio i symud ymlaen yn eu dysgu.
  • Penderfynu ar nodau, polisïau a blaenoriaethau'r ysgol, ac adnewyddu a chymeradwyo polisïau statudol, dogfennau a chrynodebau'r cwricwlwm.
  • Cyllid: penderfynu sut i ddefnyddio cyllideb yr ysgol yn effeithiol, a monitro hynny.
  • Staffio: sy’n ymdrin (lle y bo hynny’n briodol) â’r gwahaniaethau rhwng cyfrifoldebau’r corff llywodraethu am staff, a chyfrifoldebau’r awdurdod lleol fel cyflogwr wrth benderfynu ar nifer y staff a'r polisi cyflogau, a gwneud penderfyniadau am gyflogau’r staff, penodi staff, atal staff dros dro, materion disgyblu a diswyddo, cwynion, rheoli perfformiad a materion yn ymwneud â sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar gyfer y pennaeth a’r staff, ac ymdrin â’r holl faterion hyn gan roi’r sylw dyledus i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.
  • Cefnogi ymdrechion ymgysylltu cymunedol er budd dysgwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
  • Sicrhau bod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn elwa ar y ddarpariaeth addysg, ac yn cyflawni ac yn arddangos cynnydd priodol.
  • Sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. 
  • Rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am yr ysgol, er enghraifft drwy’r adroddiad blynyddol i rieni, y crynodebau o'r cwricwlwm, a’r cyfarfodydd y mae’n statudol ofynnol eu cynnal â’r rhieni a gofalwyr.
  • Paratoi ar gyfer arolygiadau a chymryd y camau dilynol, gan gynnwys paratoi cynllun gweithredu a monitro cynnydd ar ôl arolygiad gan Estyn.
  • Sicrhau lles dysgwyr a staff drwy weithredu ar lefel ysgol gyfan.
  • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn unol â chanllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, ac i fonitro i ba raddau y cydymffurfir â’r rhain.
  • Cymryd camau i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach, gan gynnwys gwybodaeth am y camau a gymerir yn yr adroddiad blynyddol.
  • Sicrhau bod pob dysgwr sydd â hawl i gael cinio ysgol am ddim a llaeth ysgol am ddim yn eu cael, gan gymryd camau rhesymol i ofalu nad oes modd gwybod pwy yw'r dysgwyr sy'n cael cinio ysgol am ddim.
  • Hyrwyddo amgylchedd ysgol cwbl gynhwysol, gan ofalu na oddefir bwlio na gwahaniaethu o unrhyw fath, a chan ganolbwyntio'n benodol ar frwydro yn erbyn hiliaeth.
  • Ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau’r llywodraethwyr wrth ymdrin â materion yn ymwneud â chydraddoldeb, a lle i gael cyngor yn hyn o beth.
  • Mynd ati, yn ôl y gofyn, i werthuso perfformiad y corff llywodraethu.

Mae nifer o bwyllgorau statudol gan y corff llywodraethu, gan gynnwys:

  • pwyllgor disgyblu a diswyddo staff
  • pwyllgor apêl disgyblu a diswyddo staf
  • pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion
  • pwyllgor derbyniadau (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ac unrhyw ysgol lle mae’r awdurdod lleol wedi dirprwyo awdurdod dros dderbyniadau i gyrff llywodraethu)

Rhaid i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefnau statudol ar gyfer y canlynol:

  • panel dethol pennaeth a dirprwy bennaeth
  • arfarnwyr rheoli perfformiad ar gyfer y pennaeth ac arfarnwyr apelau
  • adolygu cyflogau ac apelau’n ymwneud ag adolygu cyflogau
  • cwynion ac apelau’n ymwneud â chwynion 
  • gallu ac apelau’n ymwneud â gallu
  • cwynion

Dylai cyrff llywodraethu hefyd ystyried sefydlu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer y canlynol:

  • chwythu'r chwiban
  • toiledau ysgol
  • datblygu cynaliadwy

Rhaid i lywodraethwyr: 

  • gael hyfforddiant o ran rôl data ysgolion wrth hunanwerthuso a gwella
  • deall nodweddion ysgol effeithiol, drwy gymryd rhan mewn trafodaethau am gynllun datblygu'r ysgol a phroses hunanwerthuso'r ysgol, o leiaf bob tymor
  • ymweld â’r ysgol, er mwyn dod yn gyfarwydd â’r ysgol a dysgu amdani, gan barchu'r protocol ar gyfer ymweliadau ac amlinellu diben yr ymweliad
  • dilyn hyfforddiant a chyfleoedd datblygu yn barhaus; dylid adolygu'r hyfforddiant yn rheolaidd, a dylai'r corff llywodraethu cyfan ddadansoddi'r sgiliau a'r profiadau

Rôl a sgiliau'r cadeirydd

Dylai’r disgrifyddion ar gyfer rôl y cadeirydd gynnwys:

  • rhoi arweiniad wrth drefnu gwaith y corff llywodraethu. Dylai fod ganddyn nhw weledigaeth glir o'r blaenoriaethau ar gyfer gwella a datblygu ymdeimlad o ddiben a chyfeiriad
  • sicrhau bod pob llywodraethwr yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol a’u bod yn cymryd rhan lawn yn y cyfarfodydd
  • sicrhau bod y corff llywodraethu’n gweithio fel tîm
  • gwneud defnydd da o sgiliau ac arbenigedd aelodau ac annog aelodau i wneud y mwyaf o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu
  • trefnu bod llywodraethwyr newydd yn cael eu mentora a'u sefydlu.
  • rheoli cyfarfodydd yn effeithiol
  • cynnal perthynas effeithiol â’r pennaeth
  • cynnal perthynas waith dda â'r clerc a'r awdurdod lleol a'r awdurdod esgobaethol, lle bo'n briodol
  • bod yn llefarydd ar ran y corff llywodraethu pan fo hynny'n briodol
  • datblygu gwybodaeth dda am yr ysgol, gan gynnwys data am berfformiad yr ysgol a chynnydd dysgwyr, gwerthoedd a gweledigaeth yr ysgol
  • cysylltu ag asiantaethau eraill i gefnogi'r gwaith o wella'r ysgol
  • cyflawni swyddogaethau a ddirprwyir i'r cadeirydd mewn achos brys 
  • gwybod y diweddaraf am fentrau megis cydweithio a ffedereiddio, a hyrwyddo ymwybyddiaeth ohonyn nhw (fel y bo'n briodol)
  • gwybod beth yw hyd a lled cyfrifoldebau'r cadeirydd a'r corff llywodraethu

Mae'r dirprwy gadeirydd yn cefnogi'r cadeirydd i gynnal cyfarfodydd ac yn dirprwyo yn ei le pan fo angen.

Cydberthnasoedd pwysig

Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar berthynas y cadeirydd â'r pennaeth, y clerc, yr awdurdod lleol (a'r awdurdod esgobaethol, lle bo'n briodol) a'r corff llywodraethu. Mae’n hanfodol meithrin perthynas effeithiol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch pawb at rôl y llall.

Gweithio gyda'r pennaeth

Mae'r pennaeth yn gyfrifol am drefniadaeth fewnol yr ysgol, am reoli’r ysgol ac arfer rheolaeth arni, cynghori am fframwaith strategol y corff llywodraethu a pholisïau, a’u rhoi ar waith.

Mae perthynas y cadeirydd â'r pennaeth yn hanfodol i lwyddiant yr ysgol. Mae cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd yn hanfodol fel y nodir isod:

  • mae pryd a pha mor aml y dylai'r cadeirydd gwrdd â'r pennaeth yn dibynnu ar sawl ffactor, megis: 
    • cyn cyfarfodydd llawn y corff llywodraethu 
    • cyfarfodydd pwyllgorau 
    • cyfarfodydd i drafod gwaith yr ysgol 
    • gosod agendâu
    • adroddiad blynyddol i rieni
    • materion brys
  • pennu’r mathau o faterion i'w trafod, megis materion sy'n wynebu'r ysgol, paratoi ar gyfer arolygiad
  • cynllunio a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd
  • cefnogi a herio’r pennaeth mewn modd strategol
  • pennu eitemau cyfrinachol, megis syniadau ar gam cynnar yn eu datblygiad 
  • ystyried cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y pennaeth
  • rhannu gwybodaeth gyda'r corff llywodraethu

Gweithio gyda'r clerc

Mae'r clerc yn gyfrifol am:

  • alw cyfarfodydd y cyrff llywodraethu
  • dosbarthu papurau
  • cymryd a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd y cyrff llywodraethu
  • cynnal cofrestrau aelodaeth (gan gynnwys offerynnau llywodraethu) a chofrestrau presenoldeb
  • cynnig cyngor ac arweiniad ar weithdrefnau yn ystod cyfarfodydd a rhwng cyfarfodydd
  • sicrhau bod unrhyw gamau dilynol wedi’u cymryd

Mae sefydlu perthynas waith dda gyda'r Clerc yn hollbwysig er mwyn sicrhau:

  • bod gan y corff llywodraethu'r holl wybodaeth y mae ei hangen arno
  • bod y corff llywodraethu'n cael digon o rybudd am gyfarfodydd
  • bod papurau'n cael eu hanfon o flaen llaw
  • y cytunir ar gylch blynyddol o gyfarfodydd y corff llywodraethu
  • bod y clerc yn cael ei gefnogi a'i annog i ddilyn yr hyfforddiant perthnasol
  • y caiff rôl y Clerc ei monitro a'i gwerthuso

Dylai'r cadeirydd weithio gyda'r pennaeth a'r clerc i sicrhau:

  • bod agendâu'r corff llywodraethu yn canolbwyntio ar wella'r ysgol
  • bod y rôl strategol, y rôl o sicrhau atebolrwydd a'r rôl o fod yn gyfaill beiriniadol sydd gan y corff llywodraethu yn cael eu parchu gan bob parti
  • bod trafodaeth ddigonol ar gynlluniau datblygu'r ysgol, targedau y cytunir arnyn nhw a hunanwerthusiad yr ysgol
  • bod cadeiryddion pwyllgorau yn dilyn yr un gweithdrefnau ac yn cynnal yr un safonau â'r corff llywodraethu cyfan

Dylai'r cadeirydd weithio gyda'r dirprwy gadeirydd er mwyn:

  • egluro perthynas y cadeirydd â'r pennaeth a'r clerc, a'u rolau a'u cyfrifoldebau unigol
  • cynnwys y dirprwy gadeirydd yn y cyfarfodydd â'r pennaeth lle bo hynny'n briodol i drafod materion cyffredinol
  • cael cyfarfodydd ar wahân gyda’r dirprwy gadeirydd, lle bo'n briodol, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am faterion sy’n ymwneud â’r corff llywodraethu

Gweithio gyda'r corff llywodraethu

Dylai'r cadeirydd gefnogi'r corff llywodraethu a sicrhau bod pob llywodraethwr yn cael y cyfle i gyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau.

Gweithio gyda'r awdurdod lleol (a'r awdurdod esgobaethol, lle bo'n briodol)

Mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am yr ysgol. Yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgolion, sy'n golygu bod ganddo fuddiant mewn sicrhau eu bod yn cael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda a bod ysgolion yn ardal yr awdurdod, ar y cyfan, yn cynnig darpariaeth effeithiol ac effeithlon. 

Dylai'r cadeirydd weithio gyda'r pennaeth i feithrin perthynas effeithiol â'r awdurdod lleol i sicrhau ei fod yn cefnogi'r corff llywodraethu yn ei ymdrechion i wella'r ysgol drwy gyngor, adnoddau a her.

Gweithio gyda rhanddeiliaid

Dylai'r cadeirydd sicrhau bod y corff llywodraethu yn cynnal llinellau cyfathrebu da â rhanddeiliaid (er enghraifft rhieni, gofalwyr, dysgwyr, staff, yr awdurdod lleol neu’r gymuned) ac yn rhoi sylw i rôl a chyfrifoldebau'r awdurdod lleol (a'r awdurdod esgobaethol, lle bo'n briodol).

Sut i fod yn gadeirydd llywodraethwyr effeithiol

Mae cadeirydd effeithiol yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio ei sgiliau cyfathrebu gwych, ei hyder, ei frwdfrydedd, ei sgiliau gwrando a'i ddeallusrwydd emosiynol i gadeirio cyfarfodydd corff llywodraethu 
  • arwain y corff llywodraethu wrth gefnogi'r ysgol i gyflawni'r targedau y cytunwyd arnyn nhw drwy ganolbwyntio ar strategaethau ar gyfer gwella'r ysgol
  • sicrhau bod y corff llywodraethu a'r pwyllgorau'n gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar gyfeiriad strategol ar gyfer yr ysgol
  • sicrhau bod y corff llywodraethu yn cefnogi ac yn herio fel cyfaill beirniadol a sicrhau atebolrwydd o ran y safonau a gyrhaeddir a'r addysg a ddarperir
  • gweithio gyda'r pennaeth a'r clerc i sicrhau cysylltiad rhwng cyfarfodydd a phwyllgorau'r corff llywodraethu a chynllunio strategol, monitro a gwerthuso perfformiad yr ysgol drwy ddefnyddio cynllun datblygu'r ysgol, hunanwerthuso, data perfformiad ac adroddiad y pennaeth
  • o leiaf unwaith y tymor, cynnwys y corff llywodraethu mewn trafodaethau am gynllun datblygu’r ysgol a hunanwerthusiad yr ysgol
  • nodi eitemau ar gyfer yr agenda (gan gynnwys yr eitemau arferol) a'u blaenoriaethu
  • sicrhau ei fod yn ymwybodol o fentrau'r ysgol, mentrau lleol a mentrau cenedlaethol y mae angen i'r corff llywodraethu eu hystyried
  • sicrhau bod y gofynion a'r protocolau o ran cworwm mewn cyfarfodydd yn cael eu parchu wrth bleidleisio
  • rheoli trafodaethau gyda pharch a thegwch mewn cyfarfodydd
  • dirprwyo rolau, lle bo'n briodol
  • sicrhau didueddrwydd
  • sicrhau bod cwestiynau heriol yn cael eu holi mewn ffordd broffesiynol a chyda pharch
  • delio ag achosion o wrthdaro buddiannau yn ystod cyfarfodydd
  • sicrhau cyfrifoldeb corfforaethol am benderfyniadau a chamau a gymerir
  • sicrhau cyfrinachedd, lle bo'n ofynnol
  • adnabod y ffiniau rhwng llywodraethu a rheoli
  • annog pob llywodraethwr i rannu eu safbwyntiau ac ystyried safbwyntiau pobl eraill, drwy gynnal awyrgylch proffesiynol sy'n arddangos parch
  • crynhoi prif bwyntiau'r trafodaethau, y penderfyniadau a'r camau gweithredu
  • sicrhau cofnod cywir o bob trafodaeth a phenderfyniad
  • llofnodi cofnodion cyfarfodydd ar ôl iddyn nhw gael eu cymeradwyo
  • cefnogi ac annog hyfforddiant a datblygiad i lywodraethwyr
  • sicrhau cynlluniau olyniaeth a chyfleoedd mentora ar gyfer cadeiryddion posibl y dyfodol

Dyletswyddau eraill y cadeirydd

Yn achos mater brys lle byddai oedi'n niweidiol i les yr ysgol, unrhyw ddysgwr yn yr ysgol, ei rieni neu ofalwyr neu berson sy'n gweithio yn yr ysgol, caiff cadeirydd arfer unrhyw swyddogaeth a fyddai fel rheol yn rhan o gyfrifoldeb y corff llywodraethu.

Mae'r cadeirydd hefyd yn gyfrifol am:

  • fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cwynion am y pennaeth (yn unol â'r gweithdrefnau)
  • bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer honiadau o gamymddwyn yn erbyn y pennaeth (yn unol â'r gweithdrefnau)
  • perfformiad y pennaeth
  • rheoli perfformiad y pennaeth
  • paratoi ar gyfer arolygiadau'r ysgol, a chamau dilynol
  • materion eraill yn ymwneud ag Adnoddau Dynol
  • cynrychioli'r corff llywodraethu gydag ystod o randdeiliaid ac asiantaethau lleol a chenedlaethol eraill

Gwybodaeth gefndirol a dolenni perthnasol