Neidio i'r prif gynnwy

Cwtch Mawr yw'r banc bob dim cyntaf yng Nghymru, ac mae'n helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd yn Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r busnesau yn rhoi eitemau sydd ganddynt dros ben i'r banc bob dim, ac mae'r rheini yn eu tro yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim i bobl na allant eu fforddio. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion glanhau, eitemau cartref, nwyddau ymolchi a dodrefn.

Yn ystod y ddau fis cyntaf ers lansio Cwtch Mawr, cefnogwyd dros 15,000 o bobl, ac fe gynhaliwyd digwyddiadau cymunedol, cyrsiau coginio, digwyddiadau galw heibio a digwyddiadau dathlu fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Bellach mae gan Cwtch Mawr rwydwaith cryf o 60 o bartneriaid cofrestredig sy'n casglu eitemau a roddwyd er mwyn eu dosbarthu i'r bobl sydd eu hangen. Gall gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac elusennau gyfeirio pobl i’r banc bob dim i gael cymorth.

Mae Cwtch Mawr yn cael ei redeg gan elusen Faith in Families o Abertawe, gyda chefnogaeth Gordon Brown ac Amazon a sefydlodd y fenter banc bob dim ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £125,000 ar gyfer sefydlu'r prosiect, gyda phartneriaid lleol fel Cyngor Abertawe, Cymdeithas Tai Pobl, Sefydliad Moondance  a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cyfrannu at y prosiect hefyd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths: 

"Mae llawer o bobl yn cael trafferth fforddio eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw, ac mae'n dda gweld sut mae Cwtch Mawr yn gallu helpu pobl drwy ddarparu llawer o hanfodion gwahanol, a hynny o dan un to. 

"Mae hon yn enghraifft wych o wahanol sectorau yn cydweithio i gefnogi pobl yn eu cymunedau. Trwy roi eitemau sydd heb eu gwerthu i'r banc bob dim, gall manwerthwyr gefnogi'r economi gylchol a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, a helpu pobl leol ar yr un pryd."

Dywedodd Prif Weithredwr Faith in Families, Cherrie Bija: 

"Nid argyfwng yw costau byw bellach. Mae wedi dod yn normal ac yn ffordd o fyw i filoedd o bobl yn ein cymunedau. Mae plant nid yn unig yn colli cyfle i gael 'rhywbeth bach neis' nawr ac yn y man, ond hefyd yn mynd heb bethau hanfodol fel dillad, esgidiau, teganau a bwyd iach. Gresyn bod hyn yn digwydd yn Abertawe yn 2024. Mae cymaint yn colli eu plentyndod.

"Mae Faith in Families - Cwtch Mawr yn camu i'r adwy gan ddarparu hanfodion o ansawdd, a hynny ar unwaith, er mwyn helpu teuluoedd i ddygymod â’u sefyllfa a ffynnu gobeithio, a hynny mewn partneriaeth unigryw gydag Amazon. Mae cymaint mwy o waith i'w wneud, ond mae'r cydweithio hwn yn digwydd ar raddfa enfawr ac yn ein galluogi i ddod ynghyd â channoedd o bartneriaid elusennol ar draws y rhanbarth i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i roi – cymorth nid cardod."