Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru
Rwy’n llongyfarch Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar ffurfio llywodraeth newydd.
Mae hwn yn gyfle mawr i ailosod ein perthynas a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Llywodraeth y DU weithredu i hybu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach.
Mae mandad Llywodraeth newydd y DU yn sail cadarn ar gyfer y newid hwnnw. Gyda dwy lywodraeth yn cydweithio, gallwn helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol sicr ac uchelgeisiol yng Nghymru.
Rwy’n edrych ymlaen at sefydlu partneriaeth newydd gyda Llywodraeth newydd y DU cyn gynted â phosibl, gyda pharch at ein gilydd ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin.
Gyda ffocws ar dwf economaidd a dull newydd sy’n cefnogi potensial twf gwyrdd Cymru, gallwn ddatgloi cyfleoedd mwy uchelgeisiol ledled Cymru. Mae ymrwymiadau newydd i atgyweirio ac ymestyn datganoli, ar ôl cyfnod parhaus o ymosodiadau, yn cynnig cyfnod newydd i’r Senedd a Llywodraeth Cymru.