Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu atoch gyda'r diweddaraf am fy nhrafodaethau â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth am fater sy'n gysylltiedig â threfniadau ariannol gwasanaethau'r rheilffyrdd.

Mae'n dda gen i ddweud bod yr Ysgrifennydd Gwladol a finne wedi dod i gytundeb ar ôl trafod cadarnhaol a manwl ers Medi 2017. Mae'r cytundeb yn diogelu sefyllfa gyllidol y ddwy lywodraeth mewn ffordd deg a chydradd gan briodoli rhwymedigaethau'n gywir ac yn bwysicach, mewn ffordd a ddaw â budd i deithwyr yng Nghymru a Lloegr. O gofio bod rhai o'n gwasanaethau trenau'n rhychwantu'r ffin, mae'r cytundeb yn cynnwys cymal ynghylch gwasanaethau yn Lloegr yn unig.

O ran addasu'r tâl mynediad, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn cadw'r risg a'r cyfle a ddaw yn sgil adolygu'r rheoliadau  i newid taliadau mynediad yn y dyfodol ar Network Rail.  Mae hynny'n golygu y caiff contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ei drin yn un ffordd ag unrhyw fasnachfraint arall ac na fydd effaith negyddol ar brisiau tocynnau na lefelau gwasanaeth.

Caiff ein cytundeb ei gyhoeddi maes o law.

I esbonio'r sefyllfa'n glir ichi, ar ôl ystyried mater addasu'r tâl mynediad yn fanwl, bydd ein cytundeb yn dod â thaliad addasu'r tâl mynediad rhwng Trenau Arriva Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i ben. Yn 2017/18. £69.85 miliwn oedd y taliad addasu hwnnw, a rhagwelwyd y byddai'n codi gyda chwyddiant. Bydd Gweinidogion yn cofio y bu sôn llynedd bod Llywodraeth Cymru wedi talu dros £1 biliwn i Lywodraeth y DU dros 15 mlynedd contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Gyda'r taliad addasu hwnnw wedi dod i ben, rydym wedi cytuno ar drefniant newydd, tebyg i'r trefniant rhwng gweithredwyr y masnachfreintiau a'r Adran Drafnidiaeth yn Lloegr, ond a fydd hefyd yn ystyried y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu. Trwy'r cytundeb hwn, pennir taliadau addasu rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth neu rhwng yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol trwy gymharu'r gwir daliadau mynediad a dalwyd i Network Rail â'r taliadau a ragdybiwyd yn ein contract gwasanaethau rheilffyrdd. Os bydd y gwir daliad mynediad yn cyfateb i'r swm rhagdybiedig, ni fydd angen taliad addasu. Oherwydd natur gymhleth y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu am ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd, bydd cyfnod pontio i roi ystyriaeth i ragdybiaeth Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant (2017-2020) y Trysorlys.  Yn ôl y rhagdybiaeth honno, bydd y taliadau addasu'n parhau ar y lefel a ragwelir. Ar sail hynny, bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud dau daliad i'r Adran Drafnidiaeth - £24.8 miliwn yn 2018/19 a £71.8 miliwn yn 2019/20. Mae'r cytundeb yn caniatáu inni hefyd allu ailystyried y trefniadau indemnedd pe bai newidiadau'n cael eu gwneud i strwythur y taliadau mynediad, y taliadau i'r rheini sydd â'r fasnachfraint, y Cyfnodau Rheoli neu strwythur diwydiant rheilffyrdd ehangach Prydain.

O ran ariannu Metro'r De, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi cadarnhau eto ei ymrwymiad i dalu £125m (prisiau 2014) tuag at y gost.  Caiff hwnnw ei dynnu i lawr yn unol â gwariant. Mae'r cytundeb yn cynnwys mecanwaith hefyd ar gyfer ailgyfrif yr addasiad yn sgil trosglwyddo seilwaith Leiniau'r Cymoedd.