Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan ac, wrth ei gwraidd, rydym am weld rhagor o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau a bod llawer llai angen mynd i ofal. Rydym hefyd am sicrhau bod y cyfnod y mae pobl ifanc yn ei dreulio mewn gofal mor fyr â phosibl.

Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ailgynllunio’r ffordd yr ydym yn gofalu am blant a phobl ifanc er mwyn gallu gwneud y gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau yn lleol, sydd hefyd wedi’u cynllunio’n lleol ac sy'n atebol yn lleol yw ein gweledigaeth.

Mae ein cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar y gofal preswyl i blant sy’n cael ei ddarparu’n breifat, ochr yn ochr â gofal maeth a llety diogel y sector annibynnol.

Mae bwrdd rhaglen amlasiantaeth wedi’i sefydlu i fwrw ati â’r gwaith technegol a datblygu angenrheidiol i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, ffurfio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol a sefydlogi’r farchnad.

Crynodeb o drafodaeth y bwrdd rhaglen, 24 Mai 2024

Cynnydd

Roedd y Prif Weinidog newydd a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol wedi cael eu penodi ym mis Mawrth, a’r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn gwbl glir ei fod yn cefnogi holl ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu o fewn cylch gwaith gwasanaethau cymdeithasol plant.

Byddai’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, ill dau, yn llofnodi’r datganiad profiad o fod mewn gofal.

Roedd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol wedi cynnal ymweliadau ag amrywiol wasanaethau ac wedi cyfarfod â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn Voices from Care Cymru yr wythnos flaenorol.

O safbwynt rhianta corfforaethol, roedd 40 o rieni corfforaethol wedi cofrestru, ac roedd tua hanner yr awdurdodau lleol wedi cofrestru.

Cafodd Pythefnos Gofal Maeth ei ddathlu yng Nghymru, ac aeth y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i sawl digwyddiad ar gyfer gofalwyr maeth a phlant maeth sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Roedd gwaith wedi bod yn parhau ar y fframwaith ymarfer cenedlaethol.

Roedd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2024 wedi cael ei gyflwyno ar 20 Mai a rhoddwyd diweddariad i’r aelodau ar yr elfennau allweddol o’r bil:

  • mae’r bil yn nodi’r newidiadau deddfwriaethol y bydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r ymrwymiad i ddileu elw.
  • mae’n gosod gofyniad ar ddarparwyr cofrestredig y gwasanaethau hyn (ac eithrio awdurdod lleol) i fod yn “endid nid-er-elw”. Bydd endid nid-er-elw yn cael ei ddiffinio fel:
    • cwmni elusennol cyfyngedig trwy warant heb gyfalaf cyfranddaliadau
    • sefydliad corfforedig elusennol
    • cymdeithas gofrestredig elusennol
    • cwmni buddiannau cymunedol cyfyngedig trwy warant heb gyfalaf cyfranddaliadau

Bydd hefyd yn ofynnol i endid nid-er-elw feddu ar amcanion neu ddibenion sy’n ymwneud yn bennaf â lles plant neu unrhyw fudd cyhoeddus arall fel y pennir gan Weinidogion Cymru.

Gall Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw daliadau afresymol neu amhriodol a wneir gan endid nid-er-elw wrth benderfynu a yw darparwr yn berson addas a phriodol i gael ei gofrestru.

Bydd y trefniadau trosiannol hyn yn caniatáu i ddarparwr cofrestredig er elw sy’n darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad (darparwr etifeddol) barhau i weithredu ar ôl i’r darpariaethau ddod i rym, yn ddarostyngedig i amodau a osodir gan reoliadau. Bydd gan Weinidogion Cymru bŵer, a arferir drwy reoliadau, i ddod â chofrestriad darparwyr etifeddol i ben ar adeg briodol.

Bydd y bil hefyd yn gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i gymryd camau i sicrhau bod digon o lety yn cael ei ddarparu gan endidau nid-er-elw naill ai yn eu hardal neu’n agos iddi.

Bydd hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynllun digonolrwydd blynyddol sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod yn cymryd camau tuag at leihau neu ddileu’r ddibyniaeth ar ddarparwyr er elw. Bydd y cynllun hwn yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru a rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Bydd y bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol leoli plentyn mewn llety a ddarperir gan endid nid-er-elw oni bai eu bod o’r farn bod hynny yn anghydnaws â lles y plentyn. Os felly, gall yr awdurdod lleol leoli’r plentyn mewn lleoliad “atodol” (er elw). Fodd bynnag, bydd yn ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i wneud hyn.

Bydd gofynion cymeradwyaeth tebyg yn gymwys i leoliadau â darparwyr yn Lloegr (ac eithrio lleoliadau â chyfleusterau sy’n cael eu rhedeg gan awdurdod lleol).

Bwriedir i ddarpariaethau perthnasol y bil gael effaith fel bod rhaid i ddarparwyr newydd sy’n cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru gael statws nid-er-elw o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Bydd darparwyr er elw presennol yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol o 1 Ebrill 2027 ymlaen.

Roedd y bil wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ystyried yr egwyddorion cyffredinol, ac adrodd arnynt, ac roedd cyfres o sesiynau craffu llafar wedi’i chynllunio, a’r cyntaf o’r rhain i fod i gael ei chynnal ar 6 Mehefin.

Bydd y bil hefyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyllid.

Cyfathrebu

Roedd dogfen briffio gyffredinol wedi’i chylchredeg i’r aelodau cyn y cyfarfod ar gyfer gwelliannau a sylwadau. Nid oes unrhyw sylwadau wedi dod i law hyd yma.

Mae’r negeseuon hyn yn cynnwys llawer o fanylion ynghylch effeithiau’r bil. Roedd yr wybodaeth ar ffurf set gyffredinol o bwyntiau allweddol, a byddai deunydd cyfathrebu wedi’i dargedu’n benodol at wahanol grwpiau rhanddeiliaid i gyd-fynd â hi yn y dyfodol.

Gofynnwyd, pan fyddai’r ddogfen yn derfynol ac yn cael ei chylchredeg i’r aelodau, ei bod yn cael ei chylchredeg mor eang â phosibl. Byddai’r ddogfen hefyd yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen bwrpasol ynglŷn â dileu elw ar y wefan.

Ffrydiau gwaith cam 2

Nid oedd y ffrydiau gwaith wedi cyfarfod yn ddiweddar wrth iddynt aros am fanylion terfynol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Byddai rôl a rhaglen waith y ffrydiau gwaith yn y dyfodol yn cael eu hystyried yng ngoleuni darpariaethau’r bil.

Y gofrestr risg

Roedd y gofrestr risg ar gyfer y bwrdd rhaglen wedi cael ei hadolygu a gwnaed rhai diweddariadau.

Ers cyhoeddi’r bil, roedd gwaith ar y gweill i fireinio ac adolygu ymhellach.