Neidio i'r prif gynnwy

Aelodaeth y grŵp.

Cadeirydd:

Yr Athro Glyn Hewinson 

Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol (CBTB) yng Nghymru, Prifysgol Aberystwyth, sydd â bron i 30 mlynedd o brofiad o weithio ar dwbercwlosis buchol. 

Aelodau:

Keith Cutler 

Milfeddyg gwartheg sydd â diddordeb arbennig mewn diagnosteg a rheolaeth clefydau heintus ar lefel anifail unigol a buches. Ar ôl sawl blwyddyn ar fwrdd CHeCS a chyfrannu at Grŵp Technegol CHeCS, mae bellach yn cadeirio'r Grŵp Technegol.

Gareth Edwards 

Milfeddyg o'r Gogledd. Mae ei yrfa wedi cynnwys gweithio mewn practisau milfeddygol gwledig yn y Gogledd, ymchwil, y diwydiant fferyllol a'r Llywodraeth.

Gareth Enticott 

Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd. Am y 25 mlynedd diwethaf, mae ei waith wedi archwilio dimensiynau cymdeithasol rheoli clefydau anifeiliaid, gan ganolbwyntio ar dwbercwlosis buchol yng Nghymru, Lloegr a Seland Newydd.

David Grove-White 

Cyn-bennaeth y Department of Livestock Health and Welfare ym Mhrifysgol Lerpwl tan iddo ymddeol yn 2019.  Cymhwysodd fel milfeddyg o Lerpwl ym 1975 a threuliodd ei fywyd gwaith gyda gwartheg bîff a llaeth yn y DU a thramor yn y Dwyrain Canol ac Affrica. 

Ifan Lloyd 

Milfeddyg sydd â thros 35 mlynedd o brofiad yn gweithio fel milfeddyg clinigol ac 17 mlynedd fel Partner mewn practis milfeddygol cymysg yn Abertawe. Cyfarwyddwr Iechyd Da (gwledig), y partner cyflenwi milfeddygol yn y De.

Gwenllian Rees 

Darlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Rheolwr Datblygu Milfeddygol gyda Menter a Busnes a Llywydd Cangen Cymru Cymdeithas Filfeddygol Prydain.

Robert Smith 

Gwyddonydd Clinigol ac epidemiolegydd clefydau heintus iechyd cyhoeddus sydd â thros 30 mlynedd o brofiad mewn milheintiau, heintiau parasitig a heintiau gastroberfeddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i ragflaenwyr. 

Sarah Tomlinson 

Milfeddyg fferm sydd â thros 22 mlynedd o brofiad mewn ymarfer clinigol. Hi yw Cyfarwyddwr Technegol y Gwasanaeth Cynghori ar TB (TBAS), prosiect a ariennir gan Defra sy'n darparu cyngor bioddiogelwch TB pwrpasol i geidwaid da byw ledled Lloegr, drwy filfeddygon preifat.

Sarah Woollatt 

Milfeddyg sydd â thros 6 blynedd o brofiad mewn ymarfer anifeiliaid fferm yn bennaf ochr yn ochr ag addysg myfyrwyr milfeddygol a chleientiaid fferm.