Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

Gweithredu.

Categori:

Y gweithlu.

Teitl:

Cyhoeddi llwybr meddyginiaeth rheoli pwysau.

Dyddiad dod i ben / adolygu:

1 Gorffennaf 2025.

I’w weithredu gan:

Byrddau iechyd lleol.

Angen gweithredu erbyn:

Ar unwaith.

Anfonwr:

Judith Paget Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE), Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Anwen Jones,
y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol,
Gwella Iechyd, Atal, ac Anghydraddoldebau,
yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd.

Dogfennau amgaeedig:

Dogfen PDF - Llwybr Meddyginiaeth Rheoli Pwysau.

Cyhoeddi llwybr meddyginiaeth rheoli pwysau

Annwyl Gydweithwyr,

Rwy'n ysgrifennu atoch i'ch hysbysu bod y ddogfen Llwybr Meddyginiaeth Rheoli Pwysau wedi'i chyhoeddi. Mae copi o'r ddogfen ynghlwm wrth y cylchlythyr iechyd Cymru hwn ac mae ar gael drwy wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddogfen hon yn atodiad i’r 'Llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan' ac fe'i cynhyrchwyd mewn ymateb i gymeradwyaeth Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) o feddyginiaethau newydd ar gyfer rheoli pwysau. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â’r ddogfen 'Llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan' a chanllawiau perthnasol NICE ar gyfer meddyginiaeth.

Yn gywir,

Judith Paget.