Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
  • Joanne Sims (JS)
  • Lowri Jones (LJ)
  • Marco Gil-Cervantes (MG) 
  • Shahinoor Alom (SA)
  • Simon Stewart (SS)
  • Deb Austin (DA)
  • Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
  • Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
  • Gethin Jones, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (GJ)
  • Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
  • Kirsty Harrington, Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (KH)
  • Victoria Allen, Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (VA)
  • Sarah Jarrold, Rheolwr Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (SJ) 
  • Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr, Llywodraeth Cymru (TK)

Ymddiheuriadau

  • David Williams (DW)
  • Sian Elen Tomos (ST)

Gwrthdaro buddiannau

Dim wedi eu datgan.

Cofnodion a chamau gweithredu cyfarfod blaenorol y Bwrdd

Cymeradwyodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2024.

Nododd y Cadeirydd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo ymestyn cyfnod tymor aelodau'r Bwrdd hyd at fis Medi 2025.

Rhaglen cyfathrebu ac ymgysylltu 2024 i 2025 (Trosolwg)

Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r gweithgareddau a wnaed yn y rhaglen gyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod 2023 i 2024, gan gynnwys gweithgareddau allweddol, llwyddiannau a heriau. Hefyd, rhannwyd trosolwg o'r rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer 2024 i 2025 gydag aelodau'r Bwrdd. Mae swyddogion yn dal i weithio gyda CWVYS, sy'n cyflwyno'r rhaglen draws-sector hon ar ran Llywodraeth Cymru, ar rai manylion y rhaglen lawn - bydd hyn yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd maes o law. 

Tynnodd swyddogion sylw at un gweithgaredd penodol – digwyddiad a gynlluniwyd yn Nhŷ Hywel yn y cyfnod cyn Wythnos Gwaith Ieuenctid, gan roi cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac ymgysylltu ag aelodau'r Senedd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion yn 'Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru'.

Cam Gweithredu: Gwahoddwyd aelodau'r Bwrdd i roi adborth ar y cynnig amlinellol ar gyfer digwyddiad Tŷ Hywel gyda KH.

Adolygiad o ariannu gwaith ieuenctid (diweddariad)

Darparodd swyddogion ddiweddariad ar ail gam yr Adolygiad Cyllido Gwaith Ieuenctid. Roedd y gwaith ar yr adroddiad ar gyfer y cam hwn o'r adolygiad wedi'i gwblhau'n ddiweddar, ac roedd disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi'n fuan. Mae swyddogion wedi gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru i gynhyrchu fersiwn 'hawdd ei ddarllen' o'r adroddiad. Ar ôl cyhoeddi, bydd swyddogion yn troi at ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad. 

Mapio a dadansoddi'r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru (trafodaeth)

Cafodd traethawd ymchwil Elizabeth Bacon - ‘Mapping and analysing the voluntary youth work sector in Wales’ - ei rannu gyda'r Bwrdd cyn y cyfarfod. Mae'r papur yn archwilio cwmpas, cyfansoddiad a natur y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru ac mae'n cynnwys argymhellion ar gyfer ymchwil a phrosiectau pellach.

Unrhyw fater arall

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Yn ddiweddar, cynhaliwyd proses gaffael i ddyfarnu contract ar gyfer cyflawni a rheoli'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Cadarnhaodd swyddogion fod y contract hwn, am gyfnod o flwyddyn i ddechrau gyda'r opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd arall, wedi'i ddyfarnu i'r CGA. 

Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd y Marc Ansawdd a'i gysylltiadau â fframwaith arolygu newydd Estyn.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am waith i gyfrannu at ddiweddaru Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Trafododd y Bwrdd gysylltiadau penodol â gwaith Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Datblygu'r Gweithlu wrth greu amgylchedd cynhwysol i bob person ifanc mewn gwaith ieuenctid.

Cytunwyd y dylai cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol gynnwys trafodaeth ar argymhelliad y Bwrdd Dros Dro ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Cam gweithredu: KH i gynnwys trafodaeth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.

Sesiwn Breswyl i Bobl Ifanc

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan swyddogion ar gynlluniau ar gyfer sesiwn breswyl gyda phobl ifanc yn haf 2024. Cynhaliwyd proses gaffael agored yn ddiweddar i benodi contractiwr i arwain ar y gwaith o lunio a chyflwyno'r sesiwn hon ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd disgwyl i'r gwerthusiad o geisiadau ddigwydd yn fuan, gyda'r nod o gyfarfod â'r sefydliad llwyddiannus erbyn diwedd mis Mai. Bydd gofyn i'r sefydliad llwyddiannus weithio'n agos gyda'r Grŵp Cyfranogi Gweithredu 'Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu' wrth lunio'r sesiwn.

Mynegodd aelodau'r Bwrdd awydd i ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod y sesiwn hon. 

Tasglu Deddfwriaeth

Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai 2024, sefydlwyd tasglu gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae'r grŵp, sydd â'r dasg o gynghori ar faterion penodol i lywio'r gwaith o ddatblygu cynigion i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, wedi cyfarfod ddwywaith, a bydd yn parhau i gwrdd bob pythefnos hyd at ganol mis Mehefin. Mae'r gwaith hwn yn rhedeg ochr yn ochr ag ymgysylltu ehangach â'r sector a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys trwy ail gymal o sesiynau 'Awr Grymuso', a fydd yn rhedeg o ganol mis Mai i ddechrau mis Mehefin. 

Sesiwn i holl aelodau’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu 

Wrth ymateb i adborth gan aelodau'r Bwrdd, gan adeiladu ar y sesiwn 'Grŵp Cyfranogiad ar Weithredu Pob Aelod' a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024, cynigiodd DE y dylid cynnal sesiwn debyg ddechrau'r hydref i ddod â'r sector ynghyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yma ac archwilio materion penodol. Roedd aelodau'r Bwrdd yn gefnogol i'r cynnig hwn. Bydd swyddogion yn datblygu cynnig ar gyfer thema a strwythur posibl ar gyfer y sesiwn hon.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: Dydd Iau 18 Gorffennaf