Grant i roi cymorth i'r bobl sydd angen cyngor fwyaf ynghylch materion lles cymdeithasol.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae cyllid o £12 miliwn y flwyddyn ar gael rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2028.
Gwybodaeth am y grant
Nod y Gronfa Gynghori Sengl yw rhoi help i ymateb i'r cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau cynghori ar faterion lles cymdeithasol fel:
- dyled
- gwahaniaethu
- addysg
- cyflogaeth
- llety
- mewnfudo
- budd-daliadau lles
Pwy all wneud cais am y grant?
Gall darparwr unigol neu grŵp o ddarparwyr ar y cyd gyflwyno cais am y cyllid.
Y meini prawf gofynnol
Dylai'r model darparu gwasanaeth:
- gyflawni nod ac amcanion y Gronfa Gynghori Sengl
- ennyn hyder mewn gwasanaeth o ansawdd uchel
- cynnig gwerth am arian
Ceir manylion llawn yng nghanllawiau'r grant.
Sut mae gwneud cais
Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais.
Cwblhewch eich ffurflen gais a'i hanfon drwy e-bost at RhwydweithiauCynghori@llyw.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Hydref 2024 am 5pm.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yng nghanllawiau'r grant a'r ffurflen gais.
Asesu’r cynigion
Bydd y broses asesu yn cynnwys system sgorio wedi'i phwysoli. Mae'r system sgorio wedi'i nodi yn y ffurflen gais.