Neidio i'r prif gynnwy

Gan ddatgan gweledigaeth ar gyfer Cymru'n benodol, am economi sy'n hyrwyddo gwaith teg a chydraddoldeb - gwnaeth y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Sarah Murphy ei phrif araith gyntaf heddiw ers iddi gael ei phenodi i'r Cabinet.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Gweinidog wrth ddirprwyaeth yng Nghaerdydd oedd yn cynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, undebau llafur a chynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, fod y 'Ffordd Gymreig': “… wedi'i seilio ar berthnasoedd sy'n deillio o ymddiriedaeth a pharch. Ac yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol mae'n bwysicach nawr nag erioed o'r blaen."

Dywedodd y Gweinidog:

Yng Nghymru mae gennym lasbrint hirsefydlog a llwyddiannus ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan ddod â phartneriaid ynghyd o bob rhan o'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur i gydweithio a chyd-ganfod atebion i broblemau a rannwn.

Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers amser maith. Mae'n ffordd o weithio sydd wedi hen ymwreiddio yng Nghymru. Dyma'r 'Ffordd Gymreig'.

Rwy'n credu y dylai rhannu problemau ac ymrwymiad i ddarganfod atebion ar y cyd fod yn nodweddion sy'n diffinio'r 'ffordd Gymreig'. Mae'n fodel sy'n goresgyn rhwystrau.

Mae'n rhoi cyfle i ni adeiladu economi sy'n hyrwyddo gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Un lle mae gan bawb ohonom lais.

Ers i Lywodraeth Cymru osod partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi cael ei sefydlu ac mae'n ofyniad cyfreithiol i gyrff cyhoeddus nid yn unig ymgynghori ond i fynd ati i geisio cyrraedd consensws neu gyfaddawdu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig.

Mae enghreifftiau o bartneriaeth gymdeithasol ar waith yn cynnwys rhoi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ymdrechion cyflogwyr, undebau a'r llywodraeth fel ei gilydd. Sefydlwyd y Fforwm Manwerthu ar gyfer aelodau'r sector manwerthu ynghyd â'r llywodraeth ac undebau llafur i fynd i'r afael ar y cyd â phroblemau allweddol sy'n wynebu'r sector.

Wrth ystyried yr enghreifftiau hyn, tynnodd y Gweinidog at y terfyn drwy ddweud:

Mae'n fodel sydd wedi'i brofi. Mae'n gweithio.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau, ein heconomi a'n gwlad - gan sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed.

Mae'n dod ag arbenigedd partneriaid cymdeithasol at ei gilydd i arwain at well ganlyniadau i bobl ledled Cymru ac at newid bywydau.

Yn ogystal â goruchwylio partneriaethau cymdeithasol, mae cyfrifoldebau gweinidogol Sarah Murphy hefyd yn cynnwys cyflog byw, gwaith teg, twristiaeth, y sectorau lletygarwch a manwerthu, y sector creadigol a chaffael cyhoeddus ledled Cymru.