Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Vaughan Gething AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Jayne Bryant AS (o eitem 2)

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • David Hagendyk, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Owain Lloyd, Cyfarwyddwr, Addysg a'r Gymraeg (eitem 4)
  • Martyn Gunter, Pennaeth Cyfoethogi ac Ymgysylltu (eitem 4)
  • Rhian Griffiths, Uned y Cytundeb Cydweithio (eitem 4)
  • Dafydd Trystan, Cynghorydd Arbennig (eitem 4)

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 29 Ebrill.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymweliad ag India

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi teithio i India nos Iau i gwrdd â Rheolwr Gyfarwyddwr ac Uwch Dîm Gweithredol Tata Steel. Fe gyflwynodd y Prif Weinidog yr achos dros barhau i gynhyrchu dur mewn ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ochr yn ochr â buddsoddiad y cwmni yn y Ffwrnais Arc Drydan. Pwysleisiodd hefyd yr angen i osgoi diswyddiadau gorfodol, ac i beidio â gwneud penderfyniadau na ellir eu gwrthdroi oherwydd y posibilrwydd y byddai’r Llywodraeth yn newid.

2.2 Hefyd fe gyflwynodd y Prif Weinidog yr achos dros osgoi diswyddiadau gorfodol ar draws safleoedd eraill yng Nghymru, gan bwysleisio pa mor bwysig yw hi i gynnal gweithrediadau cysylltiedig â Tata a lefelau cynhyrchu yn Nhrostre, Shotton, Llanwern a Chaerffili. Cytunodd y cwmni i rannu gwybodaeth am y rhannau hynny yn y gadwyn gyflenwi y byddai cau'r ffwrneisi chwyth yn effeithio arnynt, gan y byddai hynny'n hanfodol i helpu Llywodraeth Cymru i roi cymorth cyflym i'r  busnesau a'r gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.

2.3 Hefyd, cafwyd trafodaethau ynghylch meysydd pwysig o ddiddordeb a rennir, gan gynnwys buddsoddiad ym Mhort Talbot a chydweithio â phrifysgolion Cymru, yn enwedig Abertawe, mewn perthynas â chynhyrchu dur gwyrdd. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyfleoedd sy'n cael eu creu gan y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn Onllwyn, lle byddai'r cwmni'n trafod memorandwm cyd-ddealltwriaeth y diwrnod canlynol.

2.4 Byddai Cynllun Dyheadau Diswyddo Gwirfoddol ffurfiol ar gyfer gweithwyr ym Mhort Talbot yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher yr wythnos honno. Yn y cyfamser, roedd Community, yr Undeb Llafur mwyaf i weithwyr dur, wedi dweud bod 85% o'r rhai a gymerodd ran yn y bleidlais wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.

2.5 Roedd y Llywodraeth yn parhau i ymgysylltu â'r Bwrdd Pontio, ond nid oedd gwybodaeth wedi dod i law gan Lywodraeth y DU ynghylch telerau a gofynion ei grant o £500m. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg yn ceisio eglurder ar y pecyn cymorth yn nes ymlaen yr wythnos honno, yn ei gyfarfodydd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

2.6 Roedd angen deall goblygiadau'r nifer sylweddol o ddiswyddiadau a ddisgwylir yn nes ymlaen yn y flwyddyn, a'r effaith ar y gadwyn gyflenwi a'r economi ehangach.

2.7 Cytunodd y Cabinet ei bod yn bwysig dod â'r holl gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei gynnig at ei gilydd er budd y rhai y mae hyn yn effeithio arnynt, megis gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant, grantiau sy'n gysylltiedig â thai, a budd-daliadau.

Y Dreth Gyngor

2.8 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod arweinydd Plaid Cymru, ym Mwrdd Goruchwylio'r Cytundeb Cydweithio ar 8 Mai, wedi cwestiynu penderfyniad y Llywodraeth i ohirio gweithredu diwygiadau i'r Dreth Gyngor tan 1 Ebrill 2028.  Eu dewis nhw oedd bwrw ymlaen â diwygiadau cyfunol yn 2025.

2.9 Cadarnhaodd y Cabinet na ddylid edrych eto ar y penderfyniad, o ystyried y materion a godwyd yn ystod y drafodaeth ar 22 Ebrill, gan gynnwys y goblygiadau ariannol.  Nodwyd y byddai Datganiad Ysgrifenedig yn amlinellu'r penderfyniad hwn yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno.

Digwyddiad Seiberddiogelwch

2.10 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y digwyddiad seiberddiogelwch diweddar lle nodwyd gwendid byd-eang yn yr amddiffyniad. Cymerwyd camau ar unwaith, ac nid oedd tystiolaeth bod gwybodaeth wedi cael ei pheryglu. Serch hynny, roedd yn dangos y byddai angen i'r Llywodraeth fod yn ymwybodol o'r perygl cynyddol a ddaw o seiberdroseddwyr.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 5:45pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher. Roedd nifer o Ddatganiadau Llafar pwysig wedi eu trefnu ar gyfer dydd Mawrth, a nodwyd y byddai Datganiad Ysgrifenedig ar Ddyfodol Ffermio yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi cyn y Datganiad Llafar.

Eitem 4: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol

4.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y papur, a oedd yn rhoi crynodeb o gasgliadau'r ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol, a gofynnodd i'r Cabinet gytuno i barhau i edrych ar yr opsiynau fel y nodir o dan Opsiwn 2, yn amodol ar ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid. Hefyd, gofynnwyd i'r Cabinet gytuno y dylai'r penderfyniad ar yr amseriad gweithredu gael ei ohirio tan y Senedd nesaf.

4.2 Roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i archwilio'r posibiliadau ar gyfer diwygio'r flwyddyn ysgol, o fewn y Rhaglen Lywodraethu ac fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.  Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar 21 Tachwedd, a daeth i ben ar 12 Chwefror, ar ôl cael dros 16,000 o ymatebion sy'n ei wneud yn un o ymgynghoriadau mwyaf pellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru.  

4.3 Roedd casgliadau'r ymgynghoriad yn amhendant ac yn anghyson. Er bod cefnogaeth i'r syniad o wneud newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol, nid oedd mwyafrif sylweddol o blaid unrhyw un o'r opsiynau a gynigwyd. Rhannwyd yr ymatebion i'r rhan fwyaf o gwestiynau 50:50 yn fras, ac er eu bod yn dangos cefnogaeth i'r syniad o gyflwyno newid, fe wnaethant hefyd dynnu sylw at bryderon ynghylch agweddau ar bob un o'r opsiynau.

4.4 Un pryder mawr oedd y pwysau presennol ar ysgolion. Roedd rhaglen diwygio a gwella eang ei chwmpas eisoes yn cael ei gweithredu mewn ysgolion ledled Cymru, gan gynnwys cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a system newydd ar gyfer cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd y gwaith o weithredu hyn yn parhau i ddod â chyfleoedd a heriau, ac roedd yr adborth a gafwyd yn ystod cyfarfodydd bord gron â phenaethiaid yn awgrymu nad oedd diwygio’r flwyddyn ysgol ymysg blaenoriaethau pennaf ysgolion ar hyn o bryd. Byddai'r diwygiadau hyn, ynghyd â'r meysydd gwaith hanfodol eraill, i gyd yn cyfrannu at y flaenoriaeth gyffredinol o sicrhau bod cyrhaeddiad addysgol yn gwella'n barhaus.

4.5 Er bod rhywfaint o dystiolaeth y gallai diwygio'r flwyddyn ysgol wella cyrhaeddiad a darparu buddion i'r dysgwyr mwyaf difreintiedig, roedd hon yn dirwedd sy'n esblygu o hyd ac roedd y dystiolaeth yn dangos darlun cymysg o ran yr effeithiau.

4.6 Roedd y Cabinet eisoes wedi cydnabod y manteision posibl a allai ddod o ddiwygio'r flwyddyn ysgol, ac roedd wedi nodi y byddai'n well gan yr aelodau fwrw ymlaen â'r gwaith diwygio yn 2025/2026.

4.7 Fodd bynnag, yn dilyn yr ymgynghoriad, cynigiwyd na ddylid gweithredu'r diwygiadau yn ystod y Senedd bresennol ac yn hytrach y dylid gohirio'r penderfyniad ar amseru tan y Senedd nesaf, fel penderfyniad i'w wneud gan y Llywodraeth nesaf. Dylid parhau i archwilio'r cynigion yn Opsiwn 2 yr ymgynghoriad, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y llinell amser ar gyfer diwygio.

4.8 Roedd y dull gweithredu hwn yn cydnabod yr ymateb anghyson i'r ymgynghoriad, ac yn caniatáu mwy o amser i ystyried y sail dystiolaeth ar gyfer manteision posibl y diwygiadau.

4.9 Cytunodd y Cabinet â'r egwyddor o newid y flwyddyn ysgol fel yr amlinellir yn Opsiwn 2 yr ymgynghoriad. Roedd hynny oherwydd, yn anad dim, y byddai'n gallu helpu i liniaru'r effaith ar y teuluoedd a'r myfyrwyr hynny a oedd yn wynebu'r anfanteision a oedd yn gysylltiedig â gwyliau haf hir. Hefyd roedd effaith ar ddysgwyr Cymraeg sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg.

4.10 Fodd bynnag, cytunwyd hefyd mai'r ffocws ar y cam hwn fydd y rhaglen radical ac eang o ddiwygiadau a gwelliannau sydd ar droed mewn ysgolion ledled Cymru i wella canlyniadau dysgwyr.

4.11 Yn y cyfamser, dylid parhau â'r gwaith o archwilio'r cynigion yn Opsiwn 2 gyda rhanddeiliaid ar y ddealltwriaeth y byddai gweithredu yn fater i'r weinyddiaeth nesaf.

4.12 Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad yn y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mai 2024