Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru yn cael hwb gan gefnogaeth bellach i athrawon ac ysgolion er mwyn sicrhau darpariaeth gyson ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn ymweliadau â lleoliadau addysgol a chlywed yn uniongyrchol gan athrawon am eu profiadau, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cymorth symlach sy'n hawdd ei gyrchu i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm, darparu ar gyfer dysgwyr a sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Bydd y gefnogaeth a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys cydweithio cenedlaethol i ddatblygu dulliau cyffredin ar draws y proffesiwn, symleiddio'r broses o gynllunio a gwerthuso'r cwricwlwm, offer a thempledi i gynllunio dysgu, disgwyliadau cliriach ar gyfer addysgu a dysgu a rhannu enghreifftiau o gynllunio'r cwricwlwm ac arferion gorau.  Bydd hefyd yn rhoi Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd Digidol diwygiedig ar sail statudol i ddarparu disgwyliadau clir ar gyfer y sgiliau allweddol hyn.

Mae gwelliant parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn ganolog i godi safonau a darparu addysg eang a chytbwys fel y gall pob dysgwr gyrraedd ei lawn botensial.

Mae ysgolion eisoes yn gwneud cynnydd ac mae'r Cwricwlwm i CGymru bellach yn cael ei addysgu ym mhob ysgol a lleoliad hyd at a chan gynnwys blwyddyn 8, gyda blwyddyn 9 yn dilyn o fis Medi eleni. Bydd pob grŵp blwyddyn yn dysgu drwy'r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi ymweld ag ysgolion ac wedi cyfarfod â'r gweithlu addysg i weld y Cwricwlwm i Gymru ar waith. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol pa mor effeithiol y mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei ddarparu mewn rhai ysgolion. Ond, er bod yr effaith a'r cynnydd yn glir, roedd yn amlwg bod angen mwy o gefnogaeth. 

Rwyf wedi gwrando ar y pryderon hyn a heddiw rwyf wedi amlinellu pa gymorth pellach fydd ar gael i helpu i gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus ledled Cymru.  Bydd y gefnogaeth hon yn glir, yn syml ac wedi'i llywio gan y proffesiwn.  Bydd yn rhoi mwy o gysondeb i ysgolion ac yn canolbwyntio ar y materion a godwyd gan y gweithlu addysgu.  Mae hyn yn ymwneud â sicrhau sylfaen gyffredin i bob ysgol, heb gyfyngu ar eu creadigrwydd na'u harloesedd, fel y gall pob dysgwr ffynnu.