Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 6 Mawrth, amlinellais y camau cychwynnol rwy'n eu cymryd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyfraith lesddaliad preswyl yng Nghymru. Fel rhan o'r pecyn hwnnw, cyhoeddais fod grŵp gorchwyl a gorffen amlddisgyblaethol ar ddiwygio cyfraith lesddaliad yn cael ei greu er mwyn helpu yn y gwaith hwn.
Heddiw rwy'n ysgrifennu i roi gwybod i Aelodau y bydd cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf. Rwyf hefyd am ddarparu manylion y cyrff hynny yr wyf wedi'u gwahodd i gymryd rhan, a'r prif dasgau rwyf wedi gofyn iddynt eu hystyried. Ac rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar brosiect Comisiwn y Gyfraith i ddiwygio cyfraith lesddaliad.
Fel rydym wedi'i drafod sawl gwaith yn y siambr, mae llawer o faterion cymhleth yn codi mewn perthynas â lesddaliad. Drwy dynnu ynghyd aelodau o amrywiaeth eang o grwpiau perthnasol i roi cyngor i mi, byddaf mewn sefyllfa gref i gymryd camau priodol a chall er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hynny sy'n parhau o fewn y sector.
Anfonwyd gwahoddiadau i'r cyfarfod cyntaf i'r sefydliadau canlynol:
• Y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau
• Y Gymdeithas Asiantau Rheoli Preswyl
• Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
• Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau Cymru
• Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru
• Sefydliad Tai Siartredig Cymru
• Canolfan Cyngor ar Bopeth Cymru
• Shelter Cymru
• Cartrefi Cymunedol Cymru
• Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig Cymru
• Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
• Y Gymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol
• Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru
• Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch Tân
• Y Gymdeithas Benthycwyr Morgeisi
• Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai
• Ffederasiwn y Cymdeithasau Preswylwyr Preifat
• Cymdeithas y Gyfraith (yn cynrychioli cyfreithwyr sy'n delio â materion lesddaliadau)
• Comisiwn y Gyfraith
• Cynrychiolydd academaidd
Gyda'm cytundeb innau, gall y grŵp gyfethol aelodau eraill os ystyrir hynny'n briodol. Caiff y grŵp ei gadeirio gan uwch-swyddog.
Dyma rai o'r pynciau rwyf wedi cytuno y dylai'r grŵp eu hystyried:
• Methiannau o fewn y system lesddaliadau yng Nghymru: sut maent yn effeithio ar lesddeiliaid, ac unrhyw argymhellion i fynd i'r afael â'r rhain
• Rhoi cyngor ar lunio a rhannu deunyddiau codi ymwybyddiaeth, canllawiau a hyfforddiant i'r rheini sy'n ymwneud â phrynu/gwerthu eiddo sydd dan lesddaliadau
• Cynigion ar gyfer cod ymarfer gwirfoddol i asiantau rheoli eiddo/ystadau
• Opsiynau ar gyfer perchnogion eiddo sydd dan rydd-ddaliad ar ystadau preifat i herio ffioedd ystadau.
Bydd y grŵp yn ymgynnull am hyd at ddwy flynedd, er ein bod yn rhagweld y caiff y tasgau cychwynnol eu cwblhau, gan gyflwyno adroddiad i mi, erbyn haf 2019.
Ym mis Ebrill, ysgrifennais i roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phrosiect Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio cyfraith lesddaliad. Rwy'n falch o gael rhoi gwybod i'r Aelodau bod cylch gwaith y prosiect yn cynnwys elfen ychwanegol erbyn hyn hefyd sy'n edrych ar yr Hawl i Reoli.
Mae deddfwriaeth Hawl i Reoli yn caniatáu i lesddeiliaid fflatiau gymryd y gwaith o reoli eu hadeilad oddi ar y rhydd-ddeiliad, drwy drosglwyddo swyddogaethau'r rhydd-ddeiliad i gwmni a sefydlwyd gan y lesddeiliaid. Nid yw'r Hawl i Reoli wedi'i mabwysiadu'n eang, ac mae yna dystiolaeth bod y prosesau yn anodd eu dilyn ac yn caniatáu i rydd-ddeiliaid atal lesddeiliaid sy'n ceisio gweithredu'r hawl.
Bydd Comisiwn y Gyfraith yn cynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth bresennol ar yr Hawl i Reoli gyda'r nod o'i gwella drwy greu proses symlach, gyflymach, fwy hyblyg i lesddeiliaid.
Fel yn achos elfennau eraill prosiect Comisiwn y Gyfraith, caiff adroddiad ei gyhoeddi yn ystod haf 2019 yn manylu ar argymhellion y Comisiwn. Mater i Weinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU wedyn fydd ystyried y camau y maent am eu cymryd mewn ymateb.