Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar y dull gorfodi arfaethedig ar gyfer deddfwriaeth i gyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion bwyd â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen yn ôl lleoliad a phris, ynghyd â thestun y Rheoliadau drafft. 

Rwy’n ymrwymedig i gefnogi pobl yng Nghymru i sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawdd pan fyddant yn siopa bwyd ac yn bwyta allan. 

Mae’r ymgynghoriad yn manylu ar y ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n gysylltiedig â cham cyntaf y camau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd i wella ein hamgylchedd bwyd. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cynhyrchion bwyd nad oes iddynt lawer o werth maeth yn cael eu hyrwyddo mewn modd anghymesur yn fwy na chynhyrchion iachach ar hyn o bryd. Yn anffodus, mae’r hyrwyddiadau hyn yn effeithiol iawn wrth ddylanwadu ar ba fwyd a diod y byddwn yn eu prynu. Rwy’n benderfynol o gefnogi’r diwydiant i weithredu’n gyflymach ac ar raddfa ehangach i gynhyrchu a marchnata cynhyrchion bwyd a diod iachach.

Mae’r Rheoliadau drafft yn amlinellu cyfyngiadau o ran lleoli cynhyrchion sy’n llai iach, a chynnal hyrwyddiadau pris o gynhyrchion o'r fath, yn ogystal â chyfyngiadau ar ail-lenwi diodydd ysgafn llawn siwgr. Er mwyn sicrhau bod y gwaith o gyflawni a gorfodi yn mynd rhagddo mor ddirwystr â phosibl, mae’r dull gweithredu arfaethedig yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi nodi ei chynigion ar gyfer cyflwyno mesurau tebyg.

Ar hyn o bryd, disgwylir i’r Rheoliadau gael eu gosod yn y Senedd cyn diwedd 2024 ac, ar yr amod bod y Senedd yn eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym yn 2025, yn dilyn ffenestr gweithredu o 12 mis ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt a chyrff gorfodi. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam sylweddol tuag at ein huchelgais ar gyfer amgylchedd bwyd iachach, a bydd yn helpu i annog y diwydiant bwyd i gymryd camau tuag at ddarparu cynnig bwyd sy’n fwy cytbwys i bobl a chymunedau yng Nghymru. 

Bydd swyddogion yn gweithio yn agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod canllawiau clir a chynhwysfawr ar gael ar gyfer y diwydiant bwyd erbyn i’r ddeddfwriaeth gael ei gosod.

Yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2022 ar gynnig i gyfyngu ar werthu diodydd egni i blant a phobl ifanc o dan 16 oed, rwyf hefyd yn achub ar y cyfle hwn i gynnal galwad am dystiolaeth ynghylch arferion yfed diodydd egni ymhlith plant. Bydd hyn hefyd o gymorth er mwyn deall rhagor am yr effeithiau cysylltiedig, gan gynnwys yr effaith ar gymdeithas yn ehangach.

Gyda hyn, byddaf yn nodi fy nghynigion ar gyfer cyflwyno mesurau arfaethedig eraill a oedd wedi’u cynnwys yn ein hymgynghoriad ar Amgylchedd Bwyd Iach yn 2022. Rwyf hefyd yn bwriadu datblygu ystod ehangach o ddulliau o gefnogi’r sector i gynhyrchu a hyrwyddo opsiynau bwyd iach, sy’n fforddiadwy, i bawb. 

Mae’r ymgynghoriad i’w gael yn: Cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach