Mesurau gofal llygaid ar gyfer cleifion allanol y GIG: Mai 2024
Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Mai 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad yn dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).
Ar ddiwedd Mai 2024
- 157,343 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 157,289 ohonynt.
- Roedd 49.2% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.
Yn ystod mis Mai 2024
- Cafodd 22,668 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 19,583 ohonynt.
- Roedd 61.7% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099