Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil hwn yw mapio’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, yn cynnwys dadansoddiad o gyfansoddiad gweithlu’r sector yn awr ac yn y dyfodol.

Mae adroddiad Cam 2 yn adeiladu ar Gam 1 drwy gyflwyno canfyddiadau o waith maes gydag ymarferwyr a rheolwyr yn y sector, dadansoddiad o ddata o’r Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), a chanfyddiadau o fodelu'r gweithlu.

Amcangyfrifir bod dros 16,000 o weithwyr yn y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Yn seiliedig ar ragdybiaethau modelu craidd, bydd ehangu’r elfen gofal plant y rhaglen Dechrau’n Deg i bob plentyn 2 oed yn gofyn am ehangu yn y nifer o staff o tua 24% o’i gymharu â lefelau llinell sylfaen (cyfwerth â thua 4,000 o staff) erbyn 2027/28.

Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn awgrymu heriau posibl o ran bodloni’r galw cynyddol am weithwyr gofal plant a chwarae.

Mae’r dadansoddiad hefyd yn awgrymu y bydd angen cynnydd sylweddol yn swm y ddarpariaeth gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg er mwyn i awdurdodau lleol barhau ar y trywydd iawn gyda’u targedau darpariaeth cyfrwng Cymraeg (fel y nodir yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg).

Adroddiadau

Mapio’r gweithlu gofal plant a chwarae yng Ngyhmru: adroddiad cam 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Abigail Ryan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.