Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r wythfed adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar weithredu a chydymffurfio gyda Safonau'r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r safonau'n nodi sut mae'n rhaid i ni ystyried y Gymraeg a darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg i bobl Cymru mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Mae cydymffurfiaeth Gweinidogion Cymru â'r safonau yn un rhan o strategaeth cynllunio ieithyddol ehangach a fydd yn cynorthwyo'r Llywodraeth i gyflawni ei nodau ar gyfer 2050; y nod cyntaf yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn a chynyddu'n sylweddol y defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd tra bod yr ail yn ymwneud ag arferion gwaith mewnol y Llywodraeth wrth i ni anelu at ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.

Gosodwyd hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar Weinidogion Cymru, ac mae’n rhestru'r safonau sy'n berthnasol i'w gweithgareddau.

1. Cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau

1.1 Cyffredinol

Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn nodi sut rydym yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth i bobl Cymru yn Gymraeg. Ein nod bob amser yw sicrhau y gall pobl ymgysylltu â'u llywodraeth yn eu dewis iaith. Rydym eisiau darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel ar bob achlysur.

Er mwyn gwneud hyn rydym yn parhau i weithredu rhwydwaith o gydlynwyr gwasanaeth dwyieithog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad.

Mae'r cydlynwyr yn sicrhau bod eu cydweithwyr yn ymwybodol o faterion sy'n codi mewn dau brif faes:

  • Materion cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, dan arweiniad Tîm Safonau'r Gymraeg, a
  • Materion polisi sy’n ymwneud â strategaeth Cymraeg 2050 a phrif ffrydio iaith, dan arweiniad Is-adran Cymraeg 2050.

1.2 Cwynion

Yn ystod yr wythfed flwyddyn o weithredu'r safonau, derbyniwyd 26 cwyn am wasanaethau Cymraeg Llywodraeth Cymru, sydd yn is na’r 30 a dderbyniwyd llynedd. Mae 14 o'r cwynion hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â Gweinidogion Cymru yn dod yn Weithredwyr Dewis Olaf masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau yn 2020, gwasanaeth sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru ddydd i ddydd.

O'r 22 cwyn a ddaeth i law gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae 17 ymchwiliad wedi’u terfynu, gyda 5 yn parhau.

Derbyniwyd 4 cwyn yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd a chawsant eu datrys ar unwaith o dan Gam 1 Polisi Cwynion Llywodraeth Cymru.

Trafnidiaeth Cymru (Rheilffyrdd)

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio i wella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ers dod yn gyfrifol am y gwasanaethau. Mae'r gweithgareddau diweddar yn cynnwys:

  • Gwella gwybodaeth ddwyieithog i gwsmeriaid, yn glywedol a gweledol, ar yr holl fflydoedd trenau newydd – mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r Dosbarth 197 newydd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd ynghyd â'r Class 231 yn y Cymoedd, sy'n darparu cyhoeddiadau a gwybodaeth ddwyieithog.
  • Mae cyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd yn cael eu huwchraddio, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn wedi'i gwblhau.
  • Mae braille dwyieithog wedi'i gyflwyno i rannau o'r rhwydwaith ac ar drenau.
  • Mae'r holl arwyddion ar lein y Cambrian (gan gynnwys y rhai sydd mewn lle ers cyn cyflwyno Safonau'r Gymraeg yn 2016) bellach yn cydymffurfio â Phecyn Cymorth Gorsafoedd TrC sy'n nodi union ofynion y Safonau mewn perthynas ag arwyddion - mae arwyddion ar draws y rhwydwaith cyfan yn cael eu hadnewyddu yn unol â Safonau'r Gymraeg.
  • Rhoddwyd rhaglen ddigidol arloesol yn ei le i gyflwyno swyddogaeth gyfieithu ar gyfer gwybodaeth byw a ddangosir ar wefan TrC – mae’r rhaglen wedi bod yn fyw ers Mehefin 2023 ac yn cyfieithu llif byw a ddaw yn Saesneg yn unig gan National Rail Enquiries.
  • Datblygwyd strategaeth i uno llwyfannau technolegol, er mwyn sicrhau cysondeb a gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr.
  • Defnyddiwyd totemau gwybodaeth yng Nghaerdydd, sy'n dangos gwybodaeth am deithiau yn ddwyieithog.
  • Recriwtiwyd 3 aelod o staff sydd â sgiliau dwyieithog i sicrhau ymatebion Cymraeg cyson ar y cyfryngau cymdeithasol i gwsmeriaid.
  • Cyflwynwyd mwy o Gymraeg achlysurol yn ein deunyddiau ysgrifenedig a fideos Saesneg.
  • Mae ymgyrchoedd marchnata dros y ffin wedi cael eu datblygu'n ddwyieithog eleni gydag ymateb cadarnhaol - mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd ar y cyd gyda Visit Chester, Visit Shropshire a Sŵ Caer.
  • Cefnogwyd digwyddiadau diwylliannol ar draws Cymru, gan gynnwys Tafwyl, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl y Gelli.
  • Cyflwynwyd mwy o sesiynau hyfforddi cynefino ac ymwybyddiaeth iaith i staff, gydag anogaeth i bawb i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt.
  • Ail-lansiwyd gwersi Cymraeg i staff.
CyfeirnodNatur y gwynCategori’r safonCanlyniad
1Diffyg gwasanaeth yn Gymraeg mewn derbynfa (yn un o safleoedd Cadw).Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
2Cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsaf drenau yn wallus (cyhoeddiadau electroneg). (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
3Darparwyd ymateb awtomatig yn Saesneg yn unig gan drydydd parti mewn ymateb i e-bost Cymraeg.Cyflenwi GwasanaethYmateb wedi’i ddarparu yn uniongyrchol i’r achwynydd yn amlinellu’r camau sydd wedi eu cymryd i sicrhau y bydd yr ymatebion yn ddwyieithog i’r dyfodol.
4Diffyg safon testun Cymraeg ar dudalennau gwefan (camsillafu a chamgymeriadau gramadegol).Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
5Testun gwallus Cymraeg ar dudalennau gwefan, a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol ar arwyddion traffig, gan drydydd parti.Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
6Diffyg togl uniongyrchol pan yn defnyddio ap wedi’i ddarparu gan Trafnidiaeth Cymru. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi Gwasanaeth

Dyfarniad o ddiffyg cydymffurfiaeth gan y Comisiynydd. Camau gweithredu wedi’u gosod i ddatrys y mater.

Cynllun gweithredu / Strategaeth digidol Trafnidiaeth Cymru wedi'i rannu gyda Swyddfa'r Comisiynydd.

7Darparwyd ymateb Saesneg mewn ymateb i ymholiad Cymraeg.Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
8Darparwyd ymateb Saesneg mewn ymateb i ymholiad Cymraeg ac nid oedd darpariaeth cyfieithu ar y pryd mewn digwyddiad cyhoeddus.Cyflenwi GwasanaethDyfarnodd y Comisiynydd nad oedd y Gweinidogion wedi cydymffurfio gyda’u polisi cwynion wrth ddelio gyda’r achos hwn a gosodwyd camau gorfodi – i dynnu sylw at ganllawiau perthnasol a chynnal hyfforddiant i staff.
9Diffyg gwasanaeth yn Gymraeg yn ymwneud â gwasanaethau derbynfa.Cyflenwi Gwasanaeth

Dyfarniad o ddiffyg cydymffurfiaeth.

Camau gweithredu wedi’u gosod i osgoi ailadrodd y mater.

10Arwydd uniaith Saesneg gan Trafnidiaeth Cymru yn ymddangos mewn sawl lleoliad. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
11Diffyg gwasanaethau Cymraeg (gwasanaeth derbynfa, cyhoeddiadau, arwyddion electroneg) ar drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg.
12Diffyg gwasanaeth yn Gymraeg gan gard ar drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg.
13Diffyg gwasanaethau Cymraeg (gwasanaeth derbynfa, cyhoeddiadau, arwyddion electroneg) ar drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg.
14Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsaf drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
15Diffyg darpariaeth Cymraeg mewn cyfarfod neu ddigwyddiad lle oedd cynulleidfa wedi’i gwahodd ac a drefnwyd gan drydydd parti, a darparwyd ymateb yn Saesneg gan y trydydd parti mewn ymateb i ymholiad Cymraeg mewn perthynas â’r digwyddiad.Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
16Diffyg darpariaeth Cymraeg wrth gyhoeddi podlediad Trafnidiaeth Cymru a thestun anghyflawn ar dudalennau Cymraeg gwefan. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
17Arwydd uniaith Saesneg ar drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad - y Comisiynydd yn fodlon camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
18Gohebiaeth Saesneg yn unig wedi’i anfon gan drydydd parti dan gontract i Drafnidiaeth Cymru. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
19Ymateb annigonol gan drydydd parti mewn ymateb i gais am wasanaeth Cymraeg.Cyflenwi GwasanaethYmateb wedi’i ddarparu yn uniongyrchol i’r achwynydd yn ymddiheuro am y camgymeriad. Camau wedi’u cymryd i osgoi’r mater i’r dyfodol, gan gynnwys hyfforddiant i staff Llywodraeth Cymru a staff y contractiwr dan sylw ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd.
20Safon testun Cymraeg ar dudalennau gwefan Trafnidiaeth Cymru yn israddol (camgymeriad gramadegol). (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
21Defnydd o enw Saesneg tref yn ogystal ag enw Cymraeg ar arwydd ffordd newydd.Cyflenwi Gwasanaeth

Ymateb wedi’i ddarparu yn uniongyrchol i’r achwynydd.

Nid oedd hwn yn dor Safon fel y cyfryw, ond mae’r holl arwyddion a godwyd fel rhan o’r gwelliannau ffordd wedi eu diwygio neu ddisodli i gynnwys enw Cymraeg y dref yn unig erbyn hyn.

22Diffyg gwasanaethau Cymraeg ar drên (cyhoeddiadau). (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg.
23Gohebiaeth frys am system ddigidol ddiffygiol wedi’i rannu yn Saesneg gyda nifer o randdeiliaid.Cyflenwi GwasanaethYmateb wedi’i ddarparu yn uniongyrchol i’r achwynydd a chamau wedi eu cymryd i osgoi ail adrodd y mater, gan gynnwys rhoi hyfforddiant ar ofynion y safonau wrth ymwneud â rhanddeiliaid i Gyfarwyddiaeth o staff yn Llywodraeth Cymru.
24Trydydd parti wedi gohebu’n Saesneg gyda rhywun y tu hwnt i Gymru oedd wedi datgan mai Cymraeg oedd ei ddewis iaith.Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad.

Cyngor o dan Adran 4 o’r Mesur wedi ei ddarparu gan y Comisiynydd i Weinidogion Cymru.

25

Arwydd uniaith Saesneg ar drên.

Testun Cymraeg gwallus ar dudalennau gwefan. (Trafnidiaeth Cymru)

Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad - y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
26Gwybodaeth wahanol ar dudalennau Cymraeg gwefan o’i gymharu â’r Saesneg – defnyddir y cymal 'gwasanaeth bws amgen' am 'rail replacement service'. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethY Comisiynydd yn ystyried ymateb Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd sydd yn nodi fod y geiriad yn gwbl glir i ddefnyddwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg.

2. Cydymffurfio â'r safonau llunio polisi

2.1 Cyffredinol

'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso defnydd o'r Gymraeg. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ymrwymiad yn strategaeth Cymraeg 2050 yn dangos bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Mae'r safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:

  • ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
  • ystyried sut i gynyddu effeithiau positif, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
  • gofyn am farn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.

Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith asesu effaith integredig ar waith. Pwrpas y fframwaith yw rhoi cyngor i staff ar ystyried ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Mae'r fframwaith yn tywys staff drwy'r broses o ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'r asesiad effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion eu cwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau a deddfwriaeth.

Rydym wedi diwygio ein templed ymgynghori safonol Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn derbyn sylwadau ymatebwyr ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Yn ogystal â cheisio barn ymatebwyr drwy'r cwestiynau safonol a geir yn ein templed ymgynghori, mae’n rhaid i ni hefyd ddangos sut rydym wedi ystyried yr iaith yn naratif y ddogfen ymgynghori ei hun. Mae dyfarniad diweddar Tribiwnlys y Gymraeg (TYG/WLT/22/01) ar y safonau llunio polisi wedi llywio ein dealltwriaeth o sut mae Comisiynydd y Gymraeg a'r Tribiwnlys yn dehongli gofynion y safonau llunio polisi: rhaid i ni ddangos bod "ymdrech gydwybodol" wedi'i gwneud i ystyried effeithiau posibl ein polisi ar y Gymraeg.

Er mwyn helpu i ystyried pa effeithiau y gallai ein polisïau eu cael ar y Gymraeg, rydym yn cynghori staff i ddefnyddio'r fformat isod a'u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori i helpu i restru effeithiau posibl. Rydym yn gofyn i swyddogion polisi i ystyried effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar bobl, gan ofyn iddynt dynnu sylw arbennig i’r effeithiau posibl ar:

  1. Nifer y siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol, neu mewn ardal ddaearyddol benodol, sector neu grŵp penodol o siaradwyr Cymraeg.
  2. Trosglwyddo iaith o fewn teuluoedd.
  3. Y Gymraeg yn y gweithle.
  4. Defnyddio gwasanaethau Cymraeg.
  5. Defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg.
  6. Gwelededd y Gymraeg.
  7. Bywiogrwydd cymunedau Cymraeg.

2.2 Cwynion

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ynghylch gweithredu’r Safonau Llunio Polisi yn 2022-2023 gan swyddfa’r Comisiynydd nac ychwaith gan aelodau’r cyhoedd yn uniongyrchol.

3. Cydymffurfio â'r safonau gweithredol

3.1 Datblygu polisi ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg

Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweld prif ffrydio’r Gymraeg o fewn y sefydliad, a gweld rhagor o gyfleoedd i’n staff ei defnyddio yw ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd’. Lansiwyd y strategaeth yn Ebrill 2020, a’r themâu sy’n sail i weithredu’r strategaeth yn ystod ei phum mlynedd cyntaf yw: arweinyddiaeth; recriwtio; hyfforddiant a thechnoleg. Gwnaed cynnydd o ran gweithredu amcanion y 10 cam gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y strategaeth yn ystod y cyfnod adrodd.

Mae rhai meysydd o gynnydd yn cynnwys cam gweithredu 7, sef cyflwyno lefel ‘cwrteisi’ sylfaenol ar gyfer sgiliau Cymraeg. Caiff lefel ‘cwrteisi’ yn y Gymraeg ei ddiffinio fel y gallu i wneud y canlynol:

  • ynganu geiriau, enwau, enwau lleoedd a thermau Cymraeg
  • ateb y ffôn yn ddwyieithog, cyfarch pobl neu gyflwyno pobl yn ddwyieithog
  • mynd ati’n rhagweithiol i ddeall a defnyddio ymadroddion bob dydd a geiriau allweddol syml yn ymwneud â’r gweithle
  • darllen a deall testunau byr sy’n cynnwys gwybodaeth sylfaenol, er enghraifft mewn gohebiaeth, neu ddehongli cynnwys trwy ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael
  • dangos ymwybyddiaeth ieithyddol – sy’n cynnwys y gallu i werthfawrogi pwysigrwydd yr iaith o fewn y gymdeithas ac ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n ofynnol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cwsmer.

I ddechrau mynd i’r afael â'r cam gweithredu hyn cynhaliwyd cwrs peilot. Gan fod y Ganolfan Dysgu Cymraeg wedi datblygu cyrsiau Croeso i’r Gymraeg ar-lein ar gyfer nifer o sectorau a gweithleoedd gwahanol, yn ogystal â chwrs Cymraeg lefel cwrteisi cyffredinol, penderfynwyd defnyddio adnoddau’r Ganolfan i ddatblygu cwrs wedi’i deilwra i Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn ffordd effeithlon ac amserol o weithredu'r peilot.

Ym mis Ebrill 2023 cynigiwyd y cyfle i 1,000 o aelodau staff a nododd eu sgiliau Cymraeg ar lefel 0 (siarad) i gofrestru ar gyfer y cwrs peilot. Diffinnir Lefel 0 siarad ar fatrics sgiliau'r Llywodraeth Cymru fel rhywun nad oes ganddo unrhyw sgiliau siarad Cymraeg. Ymatebodd bron i 200 aelod o staff yn gadarnhaol i'r cynnig. Cafodd pob gwirfoddolwr gyfnod dros haf 2023 i gwblhau'r cwrs. Mae 38 aelod o staff wedi cwblhau y cwrs yn ei gyfanrwydd, sef rhan 1 a 2, ac mae 64 wedi cwblhau rhan 1 yn unig.

Gwerthuswyd y peilot yn drylwyr, a derbyniwyd adborth cadarnhaol. Y bwriad felly yw adeiladu ar y momentwm hwn a chymhwyso Cymraeg lefel cwrteisi yn raddol ar draws y sefydliad i bawb ar y lefel yma, rhywbeth a fydd yn dechrau gyda recriwtiaid newydd i'r sefydliad ac aelodau o'r Uwch Wasanaeth Sifil.

3.2 Cwynion

Derbyniwyd 1 cwyn gan Swyddfa’r Comisiynydd yn ymwneud â'r safonau gweithredol yn ystod y cyfnod adrodd. Ni chynhaliwyd ymchwiliad, oherwydd roedd y Comisiynydd wedi’i bodloni bod camau priodol ac amserol wedi’u cymryd i addasu prosesau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau.

CyfeirnodNatur y gwynCategori’r safonCanlyniad
1Honiad fod hysbyseb swydd a phroses asesu sgiliau yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.GweithredolNi chynhaliwyd ymchwiliad - y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.

4. Data sgiliau Cymraeg

31 Mawrth 2024

 DarllenSiaradDeallYsgrifennu
02030 (33.1%)2546 (41.5%)2220 (36.2%)2902 (47.3%)
11589 (25.9%)1396 (22.8%)1332 (21.7%)1178 (19.2%)
2499 (8.1%)309 (5.0%)597 (9.7%)324 (5.3%)
3364 (5.9%)203 (3.3%)228 (3.7%)340 (5.5%)
4320 (5.2%)294 (4.8%)329 (5.4%)332 (5.4%)
5756 (12.3%)813 (13.2%)857 (14.0%)471 (7.7%)
X*578 (9.4%)575 (9.4%)573 (9.3%)589 (9.6%)

* Wrth symud i system o gofnodi manylion Adnoddau Dynol Newydd yn ystod 2023-24, mae dirywiad bach wedi bod yn lefel y data sydd gyda ni am sgiliau’r Gymraeg. Rydym yn mynd i’r afael â’r mater er mwyn lleihau’r nifer/canran o staff lle nad oes cofnod o’u sgiliau Cymraeg.

31 Mawrth 2023

 DarllenSiaradDeallYsgrifennu
02129 (35%)2666 (43.8%)2327 (38.2%)3043 (50%)
11642 (27%)1444 (23.7%)1376 (22.6%)1203 (19.8%)
2517 (8.5%)316 (5.2%)616 (10.1%)339 (5.6%)
3374 (6.1%)215 (3.5%)237 (3.9%)349 (5.7%)
4328 (5.4%)297 (4.9%)337 (5.5%)337 (5.5%)
5783 (12.9%)840 (13.8%)884 (14.5%)493 (8.1%)
X315 (5.2%)310 (5.1%)311 (5.1%)324 (5.3%)

Arolwg Pobl

Mae'r Arolwg Pobl yn arolwg sydd yn cael ei gynnal ar draws y Gwasanaeth Sifil a gofynnir i bob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gwblhau'n flynyddol drwy gyfrwng arolwg electroneg dienw. Mae’r arolwg yn cael ei addasu at ddibenion Llywodraeth Cymru gyda chwestiynau penodol sy'n ymwneud â gweithio i'r sefydliad, gan gynnwys cwestiynau ynghylch sgiliau’r Gymraeg a defnydd iaith yn y gweithle.

Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi wedi darparu canlyniadau ar gyfer sgiliau Cymraeg ar sail canlyniadau Arolwg Pobl 2023 ar ffurf tablau.

Sgiliau Cymraeg: Arolwg Pobl 2023

Mae data sgiliau yn yr Arolwg Pobl yn seiliedig ar y cwestiwn canlynol:

Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau eich gallu mewn Cymraeg llafar?

  • Dwi'n rhugl yn y Gymraeg
  • Dw i'n gallu siarad tipyn o Gymraeg
  • Dim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siarad
  • Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg yn unig
  • Dw i'n methu siarad Cymraeg
Lefel Sgiliau Iaith GymraegCanran y staff
Rwy’n rhugl yn y Gymraeg17%
Dwi’n gallu siarad tipyn o Gymraeg9%
Dim ond ychydig o Gymraeg dwi’n siarad20%
Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg35%
Methu siarad Cymraeg19%
Cyfanswm100%

Image

Gweld yn y fformat tabl

Lefel Sgiliau CymraegCanran y staff
Sgiliau uwch26%
Sgiliau sylfaenol55%
Dim sgiliau Cymraeg19%
Cyfanswm100%

Image

Gweld yn y fformat tabl

5. Data rhaglen ddysgu’r Gymraeg 2023-2024

Cyrsiau / Nifer y dysgwyr:

  • Dosbarth wythnosol (dechrau Medi 2023): 179
  • Dysgu 1:1: 26
  • Hunan-Astudio Ar-lein: 68
  • Gloywi: 14
  • Cwrs bloc dwys: 51
  • Kick Off Cymraeg: 11
  • Cyrsiau Preswyl: 2
  • Cwrs Dwys Rhithiol: 1
  • Ynganu Cymraeg: 24
  • Clwb Cymraeg: 132
  • Cymraeg Lefel Cwrteisi: 102
  • Gwasanaeth Gofal Cwsmer Dwyieithog: 17
  • Cyfanswm: 627

Mae hyn yn gynnydd o 14 ers llynedd.

Gellir dod o hyd i ddadansoddiad o’r data uchod yn y tabl isod.

Noder nad yw’r cynnydd gystal ag y byddem wedi gobeithio yn ystod y cyfnod adrodd. Mae hyn o ganlyniad i golli aelod craidd o staff y tîm Dysgu a Datblygu am gyfnod yn ystod 2023-2024, ac yna cyfnod o recriwtio ac ymsefydlu a olygai nad oedd gennym dîm Cymraeg cyfan am gyfnod. Mae hyn wedi ein rhoi tua chwe mis y tu ôl i'r disgwyl.

Data gwersi wythnosol

Mae ein dosbarthiadau wythnosol yn seiliedig ar gwricwlwm Dysgu Cymraeg gyda chyrsiau ar gael ledled Cymru. Mae ceisiadau'n agor ym mis Ebrill gyda chyrsiau yn dechrau ym mis Medi ac yn rhedeg i'r mis Mai canlynol, mae hyn yn cyfrif am oddeutu pedair awr yr wythnos o ddysgu dros 30 wythnos. Mae dosbarthiadau ar gael o lefel dechreuwyr i lefel uwch. Mae’n braf gweld cynifer yn dysgu ar y lefel Uwch, a gweld sgiliau staff gall weithio’n ddwyieithog yn datblygu.

Dosbarthiadau wythnosol o Fedi 2023
 CyfanswmMynediadSylfaenCanolraddUwch
Ceisiadau288101655666
Cofrestru22878494655
Yn dal i ddysgu ym Mawrth 202417966303647
Tynnu’n ôl ers cofrestru491219108
Tynnu’n ôl cyn cofrestru6023161011

Tiwtora 1:1

Mae gennym raglen diwtora 1:1 ar gael i’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu Cymraeg ac mae’r sesiynau yma’n darparu dysgu wedi’i deilwra yn seiliedig ar anghenion a gofynion dysgu yr unigolyn. Mae hyfforddiant 1:1 hefyd ar gael i’r Uwch Wasanaeth Sifil na all fynychu dosbarthiadau oherwydd gofynion amser.

  • Uwch Wasanaeth Sifil: 19
  • Pob aelod o staff: 7
  • Cyfanswm: 26

Hunan-Astudio ar-lein

Mae’r cwrs yma yn dilyn yr un cwricwlwm â’r dosbarthiadau wythnosol ond mae’n caniatáu i ddysgwyr gwblhau’r dysgu yn eu hamser eu hunain ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r cwrs ar gael i’r holl staff yn y sefydliad ac mae ceisiadau’n agor bob yn ail fis. Mae’r cwrs hunan-astudio ar-lein hwn yn addas ar gyfer y rhai ar lefel mynediad a/neu sylfaen. Erbyn hyn mae 13 carfan o staff wedi dechrau’r cwrs hunan-astudio ar-lein.

Nifer y dysgwyr:

  • Carfan 8 (Ebrill 23): 12
  • Carfan 9 (Awst 23): 9
  • Carfan 10 (Medi 23):11
  • Carfan 11 (Tachwedd 23): 10
  • Carfan 12 (Ionawr 24): 17
  • Carfan 13 (Mawrth 24): 9
  • Cyfanswm: 68

Gloywi

Fel rhan o'n cynnig hyfforddiant Cymraeg corfforaethol, cynigir sesiynau gloywi iaith wedi'u hanelu at gydweithwyr medrus sy'n siarad Cymraeg ac sy'n awyddus i wella eu sgiliau iaith. Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor arbenigol sy'n datblygu'r rhaglen yn seiliedig ar y pynciau a ddewisir gan gyfranogwyr. Mae’r cwrs yma wedi cael ei redeg yn ôl y galw yn 2023-2024 ac, yn dilyn cyhoeddusrwydd yn y prosbectws, mae gofyn i gydweithwyr gofrestru diddordeb mewn mynychu. Yn anffodus, nid yw’r dull hwn wedi bod yn gwbl lwyddiannus, gan nad oes llawer wedi mynegi diddordeb yn y cwrs. Felly yn 2024-2025 byddwn yn trefnu rhaglen o gyrsiau ac yn trefnu cyhoeddusrwydd ar eu cyfer ar y pryd. Mae’r cyntaf o’r rhain wedi ei drefnu ar gyfer Ebrill 2024.

Cwrs/nifer y staff a gwblhaodd y cwrs rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024:

  • Gloywi 4 - 14
  • Cyfanswm - 14

Cwrs bloc

Rydym wedi llunio cwrs Cymraeg dwys newydd. Gan fod y cwrs hwn yn newydd, fe’i cynhaliwyd ar ffurf peilot yn y lle cyntaf cyn ei ychwanegu at ein cynnig hyfforddiant parhaol yn 2024-2025. Cynhelir dosbarthiadau yn seiliedig ar bedair lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch.

Mae’r cwrs yn dilyn yr un cwricwlwm â’n cynnig dosbarth wythnosol uchod ond mae wedi cael ei gyddwyso i 10 diwrnod llawn o hyfforddiant dros bythefnos. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro rhwng 9:00 y bore a 3:00 yn y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener dros bythefnos (nad sy’n olynol) a bydd yn gyfwerth â chwblhau hanner lefel. Fel rhan o’r gwerthusiad o’r peilot, gwelwyd bod angen ymrwymo i’r ail wythnos yn ogystal â’r wythnos gyntaf cyn mynychu’r wythnos gyntaf. Felly yn 2024-2025 byddwn yn gofyn am ymrwymiad i’r bythefnos cyn dechrau’r wythnos gyntaf.

Hefyd cynigwyd y sesiynau i’r Uwch Wasanaeth Sifil ar yr un amodau ag uchod.

Peilot cwrs bloc Prentis Carfan 2

(Cynhaliwyd peilot Carfan 1 yn 2022-2023)

  • Grŵp Mynediad 1 - 15
  • Grŵp Mynediad 2 – 12
  • Grŵp Sylfaen 1 – 6
  • Grŵp Sylfaen 2 – 3
  • Grŵp Canolradd 1 – 4
  • Grŵp Mynediad (Uwch Wasanaeth Sifil) 11
  • Cyfanswm – 51

Kick Off Cymraeg

Mae Kick Off Cymraeg yn sesiwn rithiol tair awr sy’n galluogi cyfranogwyr i archwilio’r Gymraeg a strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’i defnydd mewnol – ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd’. Mae’r sesiwn yn archwilio hanfod y Gymraeg a’i harwyddocâd yng Nghymru. Mae’r pynciau’n cynnwys “Eich taith iaith”, “Beth yw iaith a sut y cyrhaeddom ni yma” ac “Y rhan rydych chi’n ei chwarae o fewn Llywodraeth Cymru”.

Nifer y staff gwblhaodd y cwrs: 11

Cyrsiau preswyl

Gall staff Llywodraeth Cymru archebu cyrsiau dwys yn Nant Gwrtheyrn drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae amryw o gyrsiau Cymraeg preswyl ar gael ar wahanol lefelau dysgu, o Mynediad i Gloywi. Mae’r rhain yn gyrsiau dwys tua pum awr o hyfforddiant y dydd dros gyfnod i fyny at bum diwrnod. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn gyflym ond yn golygu ymrwymiad o ran amser dros gyfnod o wythnos.

  • Nifer y staff gwblhaodd y cwrs: 2
  • Rhithiol: 1
  • Cyfanswm: 3

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Ym mis Medi 2022 cynigiwyd y cyfle i 15 unigolyn yn Llywodraeth Cymru i fod yn rhan o gynllun peilot i gyflwyno cymhwyster y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg. Cynhaliwyd y cwrs y Dystysgrif rhwng Tachwedd 2022 a Mai 2023.

Menter gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Dystysgrif i fyfyrwyr a staff sydd yn rhan o raglenni’r Coleg, i gyflwyno cymhwyster sydd yn dyst o’u sgiliau uchel yn y Gymraeg a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Pasiodd bob un o’r 9 ymgeisydd elfennau llafar ac ysgrifenedig y cwrs, gan lwyddo i ennill y Dystysgrif. Llwyddodd 5 o’r ymgeiswyr gyda rhagoriaeth. Cyflwynwyd y tystysgrifau i’r staff llwyddiannus gan yr Ysgrifennydd Parhaol mewn seremoni ym Mharc Cathays, a dros Teams, ym mis Medi 2023.

Cynhaliwyd sesiynau dilynol wedi’r cwrs gyda’r cohort cyfan i dderbyn eu hadborth ac i drafod cynlluniau i roi eu sgiliau ar waith er mwyn gwneud rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu gwaith dydd-i-ddydd. Trafodwyd cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i'r ymgeiswyr ddefnyddio a datblygu eu sgiliau yn y gweithle. O ran impact ennill y Dystysgrif ar arferion y cohort yn y gweithle, mae straeon cadarnhaol iawn wedi dod i’r fei gan y criw, gan gynnwys:

  • newid iaith cyfarfodydd 1:1 gyda rheolwr i’r Gymraeg
  • ymuno gyda rhwydweithiau hwyluso gweithio’n Gymraeg y Llywodraeth
  • drafftio testun adrannol ar gyfer y wefan gorfforaethol yn Gymraeg
  • mentora dysgwyr ar lefelau is i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg
  • cynorthwyo i gynnal clybiau clebran corfforaethol
  • a’r cohort cyfan yn adrodd ar gynnydd cyffredinol yn eu hyder a’u defnydd o’r Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Mae un o’r cohort wedi bod yn llwyddiannus yn ymgeisio am swydd lle mae sgiliau’r Gymraeg yn hanfodol ers ennill y Dystysgrif a bellach yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn y gweithle.

Bwriedir cynnal y cwrs yma eto yn 2024-2025 yn dilyn gwerthusiad trylwyr o’r cwrs peilot a byddwn yn cydweithio eto gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Coleg Cymraeg a Nant Gwrtheyrn i gyflwyno’r cwrs.

Ynganu Cymraeg

Nod y cwrs Ynganu Cymraeg yw cefnogi gweithwyr drwy ddatblygu eu hyder a rhoi cyfle iddynt ymarfer ynganu geiriau ac ymadroddion Cymraeg. Nod y cwrs yw sicrhau bod cyfranogwyr wedi’u galluogi i osod esiampl o ran rhoi cynnig arni a dysgu ar y cyd. Cyfeirir staff ar ddiwedd y cwrs at y camau nesaf yn eu siwrne i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Nifer y staff gwblhaodd y cwrs: 24

Clwb Cymraeg

Sesiynau anffurfiol “galw heibio” ar gael i bob aelod o staff (nid dysgwyr yn unig), er mwyn sgwrsio yn Gymraeg a derbyn cefnogaeth gan diwtor yw’r Clwb Cymraeg. Oherwydd fod rhain yn sesiynau anffurfiol mae’r niferoedd yn amrywio o sesiwn i sesiwn.

Nifer y staff yn cymryd rhan: 132 wedi mynegi diddordeb ac wedi derbyn dolen i ymuno; a 65 sesiwn wedi digwydd rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024.

Cwrs Cymraeg lefel cwrteisi

Yn ystod 2023-24 rydym wedi cynnal cynllun peilot i gyflwyno cwrs newydd i'n cynnig hyfforddiant Cymraeg – Lefel Cwrteisi Cymraeg.

Cyflwynir y cwrs fel modiwl ar-lein, sydd yn cymryd 10 awr i'w gwblhau.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu:

  • Dweud helo a chyflwyno ei hunain ar wahanol adegau o'r dydd.
  • Gwneud cyfarchion cychwynnol fel “John ydw i, dw i'n dysgu Cymraeg” ac ati.
  • Ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog a chymryd neges.
  • Trefnu a hwyluso cyfarfod

Rhannwyd y manylion gyda 170 o unigolion oedd wedi mynegi nad oedd ganddynt sgiliau siarad Cymraeg (sef lefel 0). Anfonwyd ffurflen werthuso i’r 170 ar 19 Medi 2023.

Nifer y staff a gwblhaodd y peilot yn 2023-2024:

  • Rhan 1: 64
  • Rhan 1 a 2: 38

Gwasanaeth Gofal Cwsmer Dwyieithog

Trefnwyd sesiynau Gofal Cwsmer Dwyieithog ar gyfer staff diogelwch, staff y dderbynfa a staff cyfleusterau ym mhrif swyddfa Llywodraeth Cymru, sef Parc Cathays, er mwyn atgoffa staff o’r disgwyliadau o ran ymwybyddiaeth iaith a darparu gwasanaeth cwsmer dwyieithog o safon i ymwelwyr i’r swyddfa a staff y Llywodraeth.

Cynhaliwyd pedwar sesiwn, gyda 17 aelod o staff wedi mynychu.

Byddwn yn cyflwyno’r sesiynau i swyddfeydd eraill o fewn ystâd Llywodraeth Cymru yn ystod 2024-2025.

Dysgu a Datblygu 2023-2024

Sesiynau cynefino

Mae gofyn i holl aelodau newydd gweithlu Llywodraeth Cymru ymgymryd â hyfforddiant cynefino. Mae hyfforddwr y cwrs cynefino corfforaethol yn defnyddio Cymraeg achlysurol drwy gydol y cwrs bedair rhan, ac mae'r Gymraeg yn thema allweddol drwyddi draw.

Fel rhan o'r broses ymsefydlu mae Tîm y Safonau a’r Gwasanaeth Cyfieithu yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith yn ystod y cwrs. Mae hon yn sesiwn awr o hyd sy'n esbonio mwy am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith, yn fewnol fel sefydliad sy’n gweithio’n ddwyieithog ac yn allanol o ran ein gweledigaeth i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Mae’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu eu sgiliau yn y gweithle hefyd yn cael eu hamlygu i staff newydd yn ystod y sesiwn. Cyflwynir gofynion Safonau’r Gymraeg hefyd fel rhan o’r cwrs, a thrafodir sut mae’r Safonau yn effeithio ar waith dydd-i-ddydd swyddogion. Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn cyflwyno eu cylch gwaith ac yn atgoffa staff sut i gomisiynu gwaith cyfieithu a threfnu chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd.

Dyddiad y digwyddiad - mynychwyr:

  • 15 Mehefin 2023 - 32
  • 12 Gorffennaf 2023 - 18
  • 24 Awst 2023 - 15
  • 13 Medi 2023 - 23
  • 11 Hydref 2023 - 34
  • 16 Tachwedd 2023 - 36
  • 5 Rhagfyr 2023 - 12
  • 11 Ionawr 2024 - 16
  • 27 Chwefror 2024 - 21
  • 20 Mawrth 2024 - 10

Cyfanswm (10 sesiwn) - 217

Mae cwrs cynefino penodol ar gyfer aelodau newydd o’r Uwch Wasanaeth Sifil a chyfarwyddwyr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ein dyletswyddau statudol a'n hamcanion polisi yn ein strategaethau ar gyfer y Gymraeg, ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’ a ‘Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’, ystyriaethau gwaith dwyieithog, meddylfryd arweinyddiaeth, offer gweithio dwyieithog, gwasanaethau fel y Gwasanaeth Cyfieithu, a chyfleon dysgu Cymraeg. Mae’r rhain yn sesiynau 1:1 ac fel arfer bydd yr aelod o staff newydd yn cysylltu a’r Tîm Safonau er mwyn neilltuo sesiwn. Cynhaliwyd sesiynau cynefino ar y Gymraeg eleni gyda thri chyfarwyddwr anweithredol newydd Bwrdd y Llywodraeth.

Yn ogystal, trefnwyd sesiynau cynefino ar gyfer Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion newydd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2024 yn dilyn apwyntio’r Prif Weinidog a’r Cabinet newydd. Yn ystod y sesiwn amlinellwyd dyletswyddau statudol ac amcanion polisi yn ein strategaethau Cymraeg a’r cyfleoedd i aelodau’r Cabinet i hyrwyddo a phrif ffrydio’r Gymraeg ar draws eu portffolios. Craffwyd hefyd ar ddefnydd personol aelodau’r Cabinet o’r Gymraeg yn gyhoeddus a thrafodwyd y cymorth a’r gynhaliaeth sydd mewn lle i wella sgiliau ac ar gyfer paratoi ar gyfer areithiau, ymddangosiadau cyhoeddus a chyflwyno i gamera. Darparwyd y sesiynau gan Dîm y Safonau a thîm Isadran Cymraeg 2050.

Y Rhwydwaith Cymraeg

Mae cyfanswm o 485 o staff Llywodraeth Cymru yn aelodau o'r rhwydwaith Cymraeg mewnol ar y Lab Dysgu. Mae hyn yn gynnydd o 21 o aelodau ers y llynedd.

Nod y rhwydwaith hwn yw darparu lle ar y Lab Dysgu (y platfform Dysgu a Datblygu staff) i staff sy'n dysgu/siarad Cymraeg i ymarfer a gwella eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant, cyfleoedd, y cyfryngau ac ati gydag eraill.

Anogir pob dysgwr ac aelod newydd o staff i ymuno â'r rhwydwaith.

6. Data recriwtio

Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebir sydd wedi'u categoreiddio fel swyddi sy'n gofyn am:

  1. Sgiliau Cymraeg Hanfodol
  2. Sgiliau Cymraeg i'w dysgu yn y rôl
  3. Sgiliau Cymraeg dymunol
  4. Sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol (ni ddefnyddir y categori yma gan Lywodraeth Cymru mwyach)

Dyma ddata 2022-2023:

CategoriWedi hysbysebu’n fewnolWedi hysbysebu'n allanol
Hanfodol2720
I’w dysgu yn y rôl90
Dymunol627143
Ddim yn angenrheidiol (nid yw'r categori hwn bellach yn cael ei ddefnyddio)2053
Cyfanswm683216

Eleni, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno porthol recriwtio newydd, ‘Cais’. Nid yw’r categori “sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol” yn opsiwn i reolwyr llinell wrth hysbysebu swyddi ar y porthol newydd.  Eleni hefyd mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno system cofnodi data amrywiol ynghylch materion adnoddau dynol a recriwtio, ‘Pobl’. Nid yw wedi bod yn bosibl inni gael data cyfatebol ar gyfer nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd fesul y dair categori (hanfodol, dymunol, y Gymraeg i’w dysgu yn y swydd) o’r system ar gyfer eleni oherwydd materion trosglwyddo i system newydd, ond mae proses newydd ar waith erbyn hyn sydd yn golygu y bydd y data ar gael ar gyfer 2024-2025.

Penodiadau Cyhoeddus: Asesiadau Sgiliau Cymraeg

Mae’r holl rolau apwyntir iddynt drwy gyfrwng proses penodiadau cyhoeddus Gweinidogion Cymru yn destun asesiad sgiliau Cymraeg. O'r 49 asesiad a gynhaliwyd eleni, cafodd 19 rôl eu categoreiddio fel rolau â’r Gymraeg yn hanfodol iddynt, a 30 gyda’r Gymraeg yn ddymunol. Mae pob asesiad yn destun proses craffu a chlirio gan Dim Safonau’r Gymraeg.

Tablau

Sgiliau Cymraeg staff LlC (Data Arolwg Pobl - dadansoddiad llawn)

DyddiadDwi'n rhugl yn y GymraegDw i'n gallu siarad tipyn o GymraegDim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siaradGallaf ddweud ychtdig eiriau yn Gymraeg yn unigDwi'n methu siarad Cymraeg
Hydref 201416%7%16%31%30%
Chwefror 201617%7%15%32%30%
Hydref 201717%8%15%32%28%
Hydref 201817%8%15%32%28%
Chwefror 202017%8%18%33%24%
Hydref 202017%8%17%34%24%
Hydref 202116%8%18%34%23%
Hydref 202217%9%19%36%19%
Hydref 202317%9%20%35%19%

Dychwelyd at testun

Sgiliau Cymraeg staff LlC

DyddiadSgiliau uwchSgiliau sylfaenolDim sgiliau Cymraeg  
Hydref 201423%47%30%  
Chwefror 201624%47%30%  
Hydref 201725%47%28%  
Hydref 201825%47%28%  
Chwefror 202025%51%24%  
Hydref 202025%51%24%  
Hydref 202125%53%23%  
Hydref 202226%55%19%  
Hydref 202325%55%19%  

Dychwelyd at testun