Neidio i'r prif gynnwy

Rôl a diben

Comisiynu yw'r broses ar gyfer asesu anghenion a blaenoriaethu, cynllunio, dylunio a monitro gwasanaethau i gael y canlyniadau gorau; Felly, mae comisiynu yn hanfodol ar gyfer darparu dull system gyfan. Diben cynaliadwyedd yw sicrhau bod y broses o gomisiynu yng Nghymru yn agored, yn gyson, ac yn seiliedig ar gynllunio strategol ar sail anghenion sy'n rhoi hyder i ddarparwyr gwasanaethau.

Er mwyn comisiynu'r gwasanaethau sy'n angenrheidiol i atal Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol mewn modd cynaliadwy ac amddiffyn a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt, mae'n hanfodol bod y strwythurau cywir i ddeall anghenion, gwaith cynllunio a chaffael ar waith ledled Cymru.

Byddwn yn adolygu ac yn diwygio'r trefniadau rhanbarthol a chenedlaethol presennol. Lle y bo'n briodol, byddwn yn gwneud argymhellion ar y ffordd y gellir cryfhau'r trefniadau hyn er mwyn cyd-fynd yn well â diben Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).

Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus statudol yn ymatebol i anghenion dioddefwyr a goroeswyr; yn edrych ar y sector arbenigol a'r dull caffael sydd ei angen i sicrhau cynaliadwyedd; ac yn adolygu prosesau a chanllawiau sy'n bodoli ar gyfer asesiadau o anghenion, cynllunio strategol, a chaffael er mwyn iddynt fod o'r ansawdd gorau posibl i'n dull system gyfan i gyflwyno gwasanaethau mewn ffordd deg ledled Cymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn cynnwys cwmpas ehangach y Glasbrint, sy'n cwmpasu cyrff wedi'u datganoli a rhai heb eu datganoli, i gefnogi gwaith cydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau.

Datganiad ar gydraddoldeb

Nid yw effaith VAWDASV yn unffurf, gan effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Yn fwy amlwg, mae Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn effeithio mewn modd anghymesur ar fenywod, ac mae'r strategaeth yn cydnabod yr anghydbwysedd hwn rhwng y rhywiau. Mae hyn yn achos ac yn ganlyniad i anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn gosod amodau sylfaenol ar gyfer trais yn erbyn menywod. Mae'n bodoli ar sawl lefel yn ein cymdeithas; o'r lefelau anghymesur o ddynion mewn rolau arweinyddiaeth a rolau gwneud penderfyniadau, ffactorau economaidd megis y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a rolau a disgwyliadau o ran teulu a chydberthnasau. Mae cysylltiad cryf a chyson rhwng anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a thrais yn erbyn menywod.

Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, mae cysylltiad annatod rhwng profiad bywyd VAWDASV a ffactorau sy'n ymwneud ag ystod ehangach o nodweddion cydraddoldeb. O ganlyniad i ffurfiau croestoriadol o wahaniaethu a gormes, mae rhai grwpiau o bobl yn profi gwahanol fathau o drais, trais sy'n digwydd yn amlach neu'n fwy difrifol, neu'n wynebu rhwystrau ychwanegol i geisio cymorth. Yn hanfodol, gall yr effaith fod yn gronnol ar gyfer pobl sydd â mwy nag un nodwedd o'r fath (e.e. menywod du neu blant LHDTC+). Mae dull croestoriadol felly yn angenrheidiol i'n helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o VAWDASV ac i dynnu sylw at anghenion amrywiol pawb yr effeithir arnynt, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a chymunedau LHDTC. Bydd angen i bob ffrwd waith ystyried y materion hyn drwy gydol eu gwaith er mwyn sicrhau bod ein canlyniadau yn hyrwyddo cydraddoldeb yn gyson a chynhwysfawr.

Rolau a chyfrifoldebau

Cyd-gadeirydd ffrwd waith

Rôl allweddol y Cyd-gadeirydd Ffrwd Waith yw:

  • datblygu ffrwd waith y Dull System Gyfan Gynaliadwy ar ran Bwrdd y Rhaglen Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • gwneud penderfyniadau a bod yn rhagweithiol wrth ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ar gyfer y ffrwd waith drwy gydol y prosiect
  • arwain y gwaith o gyflawni'r ffrwd waith, gan gynnwys sicrhau bod gweithgareddau o fewn y cwmpas ac ar y trywydd cywir
  • gwneud penderfyniadau pwysig o fewn ei awdurdod dirprwyedig a nodi achosion lle mae penderfyniadau y tu hwnt i'r cwmpas ac y mae angen eu huwchgyfeirio drwy'r strwythurau llywodraethu perthnasol
  • sicrhau bod cymorth ac ymrwymiad gan ei sefydliad ei hun, gan gydnabod y gall gofynion y rôl graidd a newidiadau iddi effeithio ar ei allu i arwain y gwaith
  • dwyn aelodau o grŵp y ffrwd waith i gyfrif am gamau gweithredu a gweithgareddau a ddirprwyir
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i Fyrddau Rhaglen Glasbrint VAWDASV, gyda chymorth gan y tîm cyflawni craidd
  • helpu Uwch-swyddogion Cyfrifol y Glasbrint i ddatblygu'r ffrwd waith, monitro cynnydd drwy'r cynllun cyflawni, datrys materion a rhoi camau cywirol priodol ar waith i gefnogi sicrwydd y rhaglen
  • sicrhau bod y lefel gywir o sgiliau ac adnoddau tîm yn cael ei nodi er mwyn sicrhau y gellir cyflawni'r ffrwd waith yn llwyddiannus
  • sicrhau ymgysylltiad a chytundeb ymhlith rhanddeiliaid o ran yr amcanion a'r buddiannau
  • sicrhau bod y ffrwd waith yn gweddu'n strategol, gan ystyried damcaniaethau newid a gwireddu buddiannau
  • sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu nodi

Tîm cyflawni rhaglen glasbrint VAWDASV

  • Cefnogi Cyd-gadeiryddon Ffrwd Waith i ddarparu blaenoriaethau ffrydiau gwaith. 
  • Goruchwylio a monitro risgiau, materion a'r gwaith o gyflawni amcanion drwy gynnal cofrestr risgiau a chynllun cyffredinol o'r rhaglen.
  • Tynnu sylw'r Cyd-gadeiryddon Ffrwd Waith pan fydd angen gwneud penderfyniadau allweddol neu gymryd camau unioni i gefnogi darpariaeth y rhaglen.
  • Helpu'r Cyd-gadeiryddon Ffrwd Waith i sicrhau bod gweithgarwch ffrwd waith yn cael ei integreiddio â ffrydiau gwaith/prosiectau eraill a/neu'n ystyried ffrydiau gwaith/prosiectau eraill fel y bo'n briodol a'i fod yn gyson â gweithgarwch/blaenoriaethau strategol ehangach.
  • Cefnogi Cyd-gadeiryddon Ffrwd Waith i roi diweddariadau i Fyrddau'r Rhaglen Glasbrint, yn ôl yr angen.

Aelodau'r ffrwd waith

Mae gofyn i aelodau'r Ffrwd Waith gefnogi'r Cyd-gadeiryddon Ffrwd Waith wrth gyflawni gweledigaeth y Ffrwd Waith drwy:

  • cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynllun prosiect y ffrwd waith ac arwain ar bwyntiau gweithredu unigol, lle y bo'n briodol
  • rhoi cyngor, arbenigedd, amser ac adnoddau i gefnogi'r broses o ddatblygu cynnyrch y ffrwd waith
  • helpu Cyd-gadeiryddon y Ffrwd Waith i nodi cyfleoedd, monitro risgiau a materion a nodi datrysiadau
  • helpu Cyd-gadeiryddon y Ffrwd Waith i ddatblygu polisi strategol, gan gyfrannu at y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol
  • gofyn am gymorth ac ymrwymiad gan eich sefydliad eich hunain wrth i chi gymryd rhan yn y gwaith hwn
  • helpu i gyflawni'r cynllun ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid drwy hyrwyddo'r gwaith hwn mewn fforymau a phartneriaethau perthnasol
  • bod yn gyfrifol am nodi achosion posibl o wrthdaro buddiannau mewn perthynas â'ch rôl eich hun (e.e. mewn perthynas â thrafod cyfleoedd posibl i wneud cynigion yn y ffrwd waith) a chymryd camau priodol i ddileu'r risg
  • lle na all aelodau craidd fynychu cyfarfod ac na allant anfon dirprwy, rhaid darparu diweddariad ysgrifenedig cyn y cyfarfod i sicrhau momentwm y ffrwd waith

Cymorth i aelodau

Mae llwyddiant y ffrwd waith yn ddibynnol iawn ar gydweithio a gwaith partneriaeth llwyddiannus. Caiff cyfathrebu dirwystr ei annog yn fawr ac i gefnogi hyn, bydd Rheolwr Cyflawni'r Prosiect ar gael i bob aelod y tu allan i gyfarfodydd y ffrwd waith. Gall pob aelod gysylltu â Rheolwr Cyflawni'r Prosiect mewn perthynas ag unrhyw ymholiadau y gall fod ganddo neu weithgareddau sy'n ymwneud â'r ffrwd waith a Strategaeth VAWDASV. 

Cydnabyddir i raddau helaeth fod cymryd rhan yn ffrwd waith VAWDASV yn ymrwymiad gwaith ychwanegol i aelodau'r gweithgor. Os bydd gan aelodau unrhyw bryderon am eu gallu i gyfrannu at y ffrwd waith, gallant gysylltu â Rheolwr Cyflawni'r Prosiect a fyddai'n fodlon trafod hyn gyda nhw, a lle y bo'n bosibl, gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb ymarferol.

Gall trafod a gweithio ar bynciau VAWDASV achosi trallod, sbarduno hen drawma a/neu achosi trawma mechnïol. Mae'n hollbwysig bod y ffrwd waith yn parhau i ddefnyddio dull ystyriol o drawma, ac mae hyn yn cynnwys bod yn sensitif i anghenion pob un o aelodau'r gweithgor. Gall aelodau gysylltu â Rheolwr Cyflawni'r Prosiect os oes ganddynt unrhyw bryderon am sut y gall bod yn rhan o'r grŵp effeithio arnynt, neu os bydd ganddynt unrhyw bryderon eraill sy'n gysylltiedig â VAWDASV neu'u llesiant meddyliol. Ni all Rheolwr Cyflawni'r Prosiect ddarparu cymorth therapiwtig ond byddai ar gael i wrando'n gyfrinachol a chyfeirio aelodau at y cymorth mwyaf priodol.  Gall aelodau hefyd ddymuno siarad â'u rheolwr llinell a/neu gysylltu a chael adnoddau gan:

  • Byw Heb Ofn, sy'n darparu help a chyngor ar atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: 0808 8010 800
  • C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru: 0800 132 737, neu tecstiwch ‘help’ i 81066 

Aelodaeth

Gwahoddir aelodau i fod yn bresennol. 

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr ac efallai y caiff partneriaid eu gwahodd i fod yn bresennol fesul achos, fel sy'n ofynnol.

Cyd-gadeiryddion

  • Cynghorydd Cenedlaethol
  • Cyngor Sir Penfro

Cyflawni'r glasbrint a pholisi Llywodraeth Cymru

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Polisi VAWDASV Llywodraeth Cymru

Aelodau

  • Cynghorydd Cenedlaethol
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi
  • Heddlu Gwent
  • Llywodraeth Cymru
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Cymru
  • Stepping Stones
  • Llwybrau Newydd
  • Cymorth i Ferched Cymru
  • NSPCC

Amlder cyfarfodydd ac amserlenni

Caiff cyfarfodydd eu cynnal bob chwarter a byddant yn dilyn agenda strwythuredig a chyson sy'n cyflawni diben busnes y cyfarfod. Bydd grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn cyfarfod fel y bo'n ofynnol ac yn rhoi diweddariadau ar gynnydd i gyfarfodydd chwarterol y ffrwd waith.

Caiff cymorth gweinyddol ar gyfer y cyfarfodydd ei ddarparu gan Dîm Cyflawni Cynllun y Glasbrint.

Caiff cyfarfodydd eu cynnal o bell, drwy Microsoft Teams, neu wyneb yn wyneb os bydd yr aelodau yn cytuno ar hynny.

Cworwm

Bydd angen cynrychiolaeth strategol gan o leiaf 1 cyd-gadeirydd ffrwd waith (neu ei Ddirprwy penodedig a/neu gymorth gan dîm craidd y Glasbrint) er mwyn i gyfarfodydd y ffrwd waith fynd rhagddynt, yn ogystal â'r aelodau craidd.

Panel Cyfranogiad a Chraffu Llais Goroeswyr

Sefydlwyd Panel Cyfranogiad a Chraffu Llais Goroeswyr (‘y Panel’ o hyn ymlaen) trwy'r Glasbrint er mwyn cael mewnwelediad gwerthfawr a chyfranogiad gan oroeswyr VAWDASV. Bydd y Panel yn craffu ac yn cynnig awgrymiadau ar y gwaith a ddatblygir gan bob un o ffrydiau gwaith y Glasbrint. Er mwyn hwyluso gwaith craffu, bydd y Panel yn cael cofnodion pob cyfarfod ffrwd waith, ac unrhyw ddogfennaeth berthnasol arall a luniwyd ar gyfer y Glasbrint pan ofynnir amdani.