Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer gwneud cais am drwydded a gyhoeddwyd o dan Erthygl 19D o Reoliad (UE) 2016/1627 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynllun adfer amlflwydd ar gyfer tiwna glas yn nwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir fel y'i diwygiwyd.

Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio pysgodfa hamdden dal a rhyddhau tiwna glas (BFT) ar gyfer cychod a ganiateir, a fydd yn digwydd yn nyfroedd Cymru rhwng Awst a Rhagfyr 2024.

Pwy sy'n cael gwneud cais

Er mwyn sicrhau'r budd economaidd-gymdeithasol mwyaf posibl y bysgodfa yn 2024 rydym yn derbyn ceisiadau gan gychod siarter, hy cychod sy'n cymryd cwsmeriaid sy'n talu ar gyfer teithiau pysgota.

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol: 

  • bod yn berchen ar gwch sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ddeddf Llongau Masnach 1995
  •  cwch wedi ei bweru gan injan/modur
  • defnyddio offer pysgota gwialen a rîl yn unig. Ni chaniateir defnyddio abwyd i ddenu nifer o bysgod ('chumming')
  • heb sicrhau trwydded ar gyfer treialu pysgodfeydd BFT masnachol y DU, nac unrhyw bysgodfa hamdden dal a rhyddhau tiwna glas arall yn y DU

Sut i gwblhau a chyflwyno'r cais

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch cyn dechrau'r cais:

  • Tystysgrif Cofrestr Llongau'r DU (UKSR)
  • ffotograff o'r cwch yn dangos marc cofrestru allanol ar y cwch i ganiatáu adnabod
  • copi o'ch Tystysgrif Cwch Masnachol Bach (SCV2)
  • os ydych wedi cymryd rhan mewn rhaglenni CHART blaenorol, mathau o dystiolaeth i ddogfennu hyn

Rhaid cwblhau ceisiadau yn unigol. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.

Os yw ymgeisydd yn berchen ar fwy nag un cwch, ac eisiau gwneud cais am fwy nag un drwydded, bydd angen cais ar wahân ar gyfer pob cwch. Bydd gofyn i ymgeiswyr lenwi manylion eu cwch a'u perchennog, a chyflwyno'r dystiolaeth a amlinellir uchod.

Wrth lenwi'r ffurflen hon, dylech ateb yr holl gwestiynau angenrheidiol. Ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hystyried.

Os cewch unrhyw broblemau wrth lenwi'r ffurflen gais hon, cysylltwch ag Is-adran Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru yn bft@llyw.cymru

Blaenoriaethu

Er mwyn sicrhau nad yw cwota'r DU yn cael ei ddihysbyddu disgwylir cyhoeddi dim mwy na 15 trwydded yn 2024. Os byddwn yn derbyn mwy na 15 cais sy'n bodloni'r meini prawf, byddwn yn blaenoriaethu'r cychod siarter hynny sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen CHART.

Unwaith y bydd trwyddedau wedi'u dyrannu i unrhyw gyfranogwyr CHART blaenorol, yn dibynnu ar nifer y ceisiadau, gallwn ddewis y trwyddedau sy'n weddill ar gyfer 2024 trwy dynnu ar hap.

Sut i wneud cais

Er mwyn ystyried eich cais, rhaid atodi pob tystiolaeth i un e-bost, gyda'r pennawd pwnc 'Cyflwyno cais BFT CRRF', a'i anfon at: bft@llyw.cymru

Bydd angen i chi lenwi, atodi a chyflwyno'r canlynol:

1. Llenwch y ffurflen gais CRRF BFT hon

2. Darparu copi o dystysgrif Cofrestr Llongau'r DU yn dangos bod eich llong wedi'i chofrestru ar naill ai rhan 1, 2 neu 3 o gofrestr llongau'r DU.

3. Darparu copi o'ch Tystysgrif Cwch Masnachol Bach SCV2

4. Darparwch ffotograff o'r cwch yn dangos marc cofrestru allanol ar y cwch i ganiatáu adnabod.

5. Gall ymgeiswyr hefyd gynnwys copïau o dystiolaeth/dogfennau sy'n cefnogi eu cyfranogiad CHART. Dewisol

Dim ond ceisiadau a dderbynnir yn y cyfeiriad e-bost hwn BFTllyw.cymru fydd yn cael eu hystyried.

Mae ceisiadau ar agor o 28 Mehefin a byddant yn cau am hanner nos ddydd Sul 14 Gorffennaf 2024.

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw.

Sut byddwn yn cadw eich data

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddefnyddio'ch manylion a'ch datganiadau yn eich cais i ddilysu/cadarnhau cyfranogiad CHART gyda chyrff sy'n goruchwylio Rhaglenni CHART.
Byddwn hefyd yn cadw'r hawl i ddefnyddio gwybodaeth yn eich cais i sicrhau nad oes gan ymgeiswyr fwy nag 1 drwydded CRRF yn 2024, ac nad ydynt yn rhan o dreial masnachol y DU.
Rhagor o wybodaeth am sut y byddwn yn prosesu eich data.