Sut i wneud cais am drwydded hamdden i ddal a rhyddhau ar gyfer Tiwna Asgell Las yn nyfroedd Cymru.
Cynnwys
Rhagarweiniad
Rydym yn lansio pysgodfa hamdden dal a rhyddhau tiwna asgell las ar gyfer cychod a ganiateir. Bydd hyn yn digwydd yn nyfroedd Cymru rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2024.
Pwy sy'n cael gwneud cais
Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y bysgodfa, rydym yn derbyn ceisiadau gan gychod siarter. (h.y. cychod sy'n cymryd cwsmeriaid sy'n talu ar fwrdd ar gyfer teithiau pysgota.)
Sut i wneud cais
Bydd ceisiadau'n agor ar 28 Mehefin 2024 a bydd yn cau yn 23:59 ar 14 Gorffennaf 2024.
Byddwn yn ystyried eich cais, cyhyd â'ch bod wedi:
- darllen y canllawiau
- llenwi’r ffurflen gais
- atodi'r ffurflen gais a'r holl dystiolaeth ategol i un e-bost
- rhoi 'cyflwyniad cais BFT CRRF' fel pennawd pwnc e-bost
Anfonwch eich e-bost at bft@gov.wales