Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ac amcanion yr ymchwil

Mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn offer ariannol sy'n cefnogi gweithrediad polisi rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd. Mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn cynnwys Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Nod y cronfeydd hyn yw lleihau gwahaniaethau rhanbarthol mewn incwm, cyfoeth a chyfleoedd. 

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yw'r 'Awdurdod Rheoli' dynodedig ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Mae WEFO yn gyfrifol am gynllunio, darparu, monitro a gwerthuso mentrau a gefnogir gan y cronfeydd hyn. 

Yng Nghymru, aethpwyd i’r afael â chamau i fynd i’r afael â thlodi, anfantais ac allgau cymdeithasol drwy raglenni ESF a oedd yn cefnogi gweithrediadau cysylltiedig â chyflogaeth y disgwyliwyd yn benodol iddynt dargedu diweithdra, bod heb waith a rhwystrau i gael mynediad at gyflogaeth gynaliadwy.

Penododd WEFO IFF Research Limited i ddylunio a chyflwyno arolygon o gyfranogwyr ESF yn ystod cyfnod Rhaglen 2014-2020. Diben yr arolygon hyn oedd darparu gwybodaeth amserol a chadarn am ganlyniadau ac effeithiau tymor hwy gweithrediadau ESF ledled Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau Arolygon Cyfranogwyr ESF 2014-2020.

Methodoleg

Cynhaliwyd Arolygon Cyfranogwyr ESF 2014-2020 yn ystod dwy rownd o waith maes arolwg.

  • Cynhaliwyd y rownd gyntaf o waith maes rhwng Ionawr 2018 a Gorffennaf 2019. Cyfeirir ato fel Arolwg Cyfranogwyr ESF 2015/18, ac roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys cyfweliadau â phobl a oedd wedi gadael eu cwrs ESF rhwng Ionawr 2015 ac Ebrill 2018. 
  • Cynhaliwyd ail rownd y gwaith maes rhwng Awst 2022 a Mai 2023. Roedd y cyfweliadau’n ymdrin yn bennaf â chyfranogwyr a oedd wedi cwblhau eu rhaglen a gefnogir gan ESF rhwng Ebrill 2018 (ac na chawsant eu samplu ar gyfer yr arolwg cyntaf) a Mai 2022.

Datblygwyd holiadur Arolwg Cyfranogwyr ESF a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffenestr gwaith maes cyntaf (2018-19) o holiadur cynharach Arolwg Ymadawyr ESF (yn cwmpasu Rhaglen 2007-2013) er mwyn sicrhau cysondeb â data a gasglwyd yn flaenorol. Ychwanegwyd cwestiynau newydd ynghylch sefyllfa cyfranogwyr chwe mis ar ôl gadael eu prosiect ESF at yr arolwg i fodloni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd. 

Cadwyd yr holiadur a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ail rownd o waith maes i raddau helaeth yr un fath â'r cyntaf er mwyn gallu cyfuno data o'r ddwy rownd yn un set ddata. Y newidiadau mwyaf nodedig yn ystod yr ail rownd oedd cyflwyno cwestiynau am effaith COVID-19 ar y cymorth a dderbyniwyd, ac a gafodd COVID-19 unrhyw effaith ar ddilyniant ers y cwrs.

Tynnwyd y cyfranogwyr a gynhwyswyd yn sampl yr arolwg mewn tonnau ar draws pob cyfnod gwaith maes i sicrhau bod o leiaf 12 mis wedi mynd heibio ers i gyfranogwyr adael eu cwrs ESF ar yr adeg y cawsant eu cyfweld. Roedd hyn yn adlewyrchu dull arolygon cynharach  ESF, gan ganiatáu i ganlyniadau cyfranogwyr gael eu dilyn i fyny dros gyfnod hwy.

Cyfweliadau ffôn oedd y prif ddull cyfweld. Fodd bynnag, yn ail rownd y gwaith maes ategwyd y rhain gan gyfweliadau ar-lein ar gyfer cyfranogwyr nad oedd ganddynt rif ffôn neu a oedd yn well ganddynt wneud arolwg ar-lein byrrach. Ar draws y ddwy rownd o waith maes gallai cyfranogwyr hefyd ddewis gwneud fersiwn fyrrach o'r arolwg yn cwmpasu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd. At ei gilydd, cynhaliwyd 23,228 o gyfweliadau ar draws y ddwy rownd o waith maes.

Cyfunwyd data o'r ddwy rownd o waith maes yn un set ddata i gwmpasu Rhaglen gyfan 2014-2020. Er mwyn sicrhau bod y dadansoddiad yn gynrychioliadol o’r boblogaeth ehangach o gyfranogwyr ESF, cyfrifwyd ‘pwysau rhaglen’ gan ddefnyddio’r boblogaeth lawn o gyfranogwyr ESF a oedd wedi gadael eu cyrsiau rhwng Ionawr 2015 a Mai 2022. 

Mae'r set ddata gyfunol hon yn sail i'r dadansoddiad a gynhwysir yn yr adroddiad hwn. Mae'r dadansoddiad yn aml yn gwahaniaethu rhwng gweithrediadau a dargedwyd at gefnogi cyfranogiad y rhai a oedd yn ddi-waith cyn ESF a'r rhai a anelwyd at gefnogi dilyniant y rhai a oedd mewn gwaith ar yr adeg yr oeddent yn cael eu cefnogi gan ESF.

Prif ganfyddiadau

Cymryd rhan yn ESF

Y prif reswm dros gynnal prosiect ESF ymhlith cyfranogwyr ar weithrediadau a anelwyd at gefnogi cyfranogiad oedd eu helpu i gael swydd (54%). Ymhlith y rhai ar weithrediadau a oedd yn ceisio cefnogi dilyniant, y prif reswm a roddwyd oedd datblygu sgiliau a gwybodaeth (46%).

Roedd hyd y cymorth gan ESF yn hwy ymhlith y rhai a gafodd gymorth gan brosiectau a oedd yn anelu at gefnogi dilyniant (15 mis) o gymharu â'r rheini ar brosiectau a anelwyd at gefnogi cyfranogiad (8 mis).

Roedd 59% o’r cyfranogwyr yn ymwybodol bod eu prosiect yn cael ei ariannu gan ESF, gyda lefelau ymwybyddiaeth yn uwch ymhlith y rhai a gynorthwywyd gan brosiectau gyda’r nod o gefnogi dilyniant mewn cyflogaeth (66%) o gymharu â’r rhai a anelwyd at gefnogi cyfranogiad (50%).

Dim ond 7% o gyfranogwyr ESF a ddywedodd mai Cymraeg oedd eu hiaith gyntaf. Roedd cyflawni gweithrediadau ESF yn gymesur â hyn, gyda 6% yn dweud bod eu cymorth yn cael ei ddarparu naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd 95% fod eu rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy eu dewis iaith.

Cofnodwyd bod 17% o gyfranogwyr wedi gadael eu cwrs yn gynnar. Roedd cyfraddau tynnu'n ôl yn uwch ymhlith y rhai 16 i 24 oed (21%), y rhai â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio (23%) a'r rhai â lefelau cyrhaeddiad addysgol ar Lefel 2 NQF neu'n is (20%).

Sgiliau a Chymwysterau

Dywedodd bron i dri chwarter y cyfranogwyr (72%) eu bod naill ai wedi ennill cymhwyster neu unedau/credydau tuag at gymhwyster trwy ESF. Roedd hyn yn uwch ymhlith y rhai a gynorthwywyd gan brosiectau a anelwyd at gefnogi dilyniant mewn cyflogaeth (84%) o gymharu â'r rhai a anelwyd at gefnogi cyfranogiad yn y farchnad lafur (55%).

Cyfrannodd ESF at gynyddu lefelau cyrhaeddiad cyfranogwyr. Cyn ESF, dywedodd 45% o gyfranogwyr fod eu cyrhaeddiad addysgol ar Lefel 2 NQF neu’n is. Yn dilyn ESF, gostyngodd y ffigur hwn i 36%.

Rhwystrau i Ganfod Gwaith

Ymhlith y rhai a oedd yn ddi-waith cyn ESF, y rhwystr a nodwyd amlaf i ddod o hyd i waith oedd diffyg profiad perthnasol (51%). Roedd menywod, gofalwyr, a’r rhai â phlant dibynnol yn rhoi pwyslais cynyddol ar anawsterau sy’n gysylltiedig â bod eisiau gweithio’n rhan amser yn unig, bod â chyfrifoldebau gofalu a methu â fforddio gofal plant.

Mynd i Gyflogaeth yn dilyn ESF

Dengys Tabl 52, ymhlith y rhai a oedd yn ddi-waith neu'n economaidd anweithgar cyn cael eu cefnogi gan ESF, fod ychydig dros hanner (52%) yn gyflogedig 6 mis ar ôl iddynt adael eu gweithrediadau. Ymhlith y rhai a gynorthwywyd gan weithrediadau a oedd yn cefnogi cyflogadwyedd y rhai a oedd mewn perygl o dlodi, roedd bron i 8 o bob 10 (79%) mewn cyflogaeth 6 mis ar ôl iddynt adael eu rhaglenni.

Ymhlith y rhai a oedd yn ddi-waith yn flaenorol, roedd cyfranogiad mewn cyflogaeth ar ôl 6 mis yn dilyn ESF yn gymharol isel ymhlith y rhai dros 55 oed (40%), y rhai â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio (32%) a’r rhai â lefelau cyrhaeddiad addysgol ar neu islaw Lefel 2 NQF cyn iddynt gymryd rhan yn ESF (47%).

Effaith Ganfyddedig Prosiectau sy'n Cefnogi Cyfranogiad

Ymhlith y rhai a oedd yn ddi-waith neu’n economaidd anweithgar yn flaenorol ond a oedd mewn cyflogaeth erbyn adeg yr arolwg, dywedodd dwy ran o dair (66%) bod eu cwrs ESF naill ai wedi eu helpu i gael eu swydd bresennol (52%) neu eu bod wedi cael eu swydd bresennol yn uniongyrchol oherwydd y cwrs (14%). Fodd bynnag, dywedodd traean o Gyfranogwyr ESF (33%) nad oedd eu cwrs wedi gwneud unrhyw wahaniaeth.

Roedd canfyddiadau cyfranogwyr o effaith ESF yn uwch ymhlith y rhai a enillodd gymwysterau o ganlyniad i gael eu cefnogi gan ESF. At hynny, cynyddodd y canfyddiadau hyn o ran lefel y cymhwyster a enillwyd.

Effaith Dybiedig Prosiectau sy'n Cefnogi Cyfranogiad

Mae effaith prosiectau a gefnogodd gyfranogiad wedi’i hamcangyfrif drwy gymharu’r trawsnewidiadau i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant a wnaed gan gyfranogwyr ESF â’r rhai a wnaed gan bobl anghyflogedig tebyg o’r boblogaeth ehangach sy’n ymddangos yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn seiliedig ar dechnegau paru ystadegol, amcangyfrifwyd bod gweithrediadau a oedd yn cefnogi cyflogadwyedd pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor a’r rhai sy’n economaidd anweithgar yn gysylltiedig â chynnydd o 7 pwynt canran mewn cyflogaeth 12 mis ar ôl cymryd rhan yn ESF (29% o gymharu â 22%).

Drwy gymhwyso technegau paru i wahanol grwpiau o gyfranogwyr datgelwyd fod effaith gweithrediadau a oedd yn cefnogi cyflogadwyedd pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor ac sy’n economaidd anweithgar yn is ar gyfer dynion (gwelliant o 4 pwynt canran mewn canlyniadau cyflogaeth), y rhai â lefelau cyrhaeddiad addysgol ar neu'n is na'r NQF Lefel 2 cyn iddynt gymryd rhan yn ESF (gwelliant o 4 pwynt canran), a'r rhai â chyflyrau afiechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio (gwelliant o 3 phwynt canran).

Ymhlith grŵp mwy cyflogadwy o fuddiolwyr ESF a oedd wedi’u gwneud yn ddi-waith a/neu a oedd wedi colli eu gwaith yn ddiweddar, amcangyfrifwyd bod cyfranogiad mewn gweithrediadau a oedd yn cefnogi cyflogadwyedd y rhai sydd mewn perygl o dlodi yn gysylltiedig â chynnydd o 13 pwynt canran mewn canlyniadau cyflogaeth ar ôl 12 mis yn dilyn ESF (82% o gymharu â 69%).

Roedd cyfranogiad mewn gweithrediadau a geisiodd leihau lefelau NEET ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yn gysylltiedig â chynnydd o 16 pwynt canran yng nghyfran y rhai mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant 12 mis yn dilyn ESF o gymharu â sampl cyfatebol o gyfranogwyr nad oeddent yn rhan o ESF (59% o gymharu â 43%).

Effaith Ganfyddedig Prosiectau sy'n Cefnogi Dilyniant

Ar ôl 6 mis yn dilyn ESF, roedd tua 4 o bob 10 (39%) o'r rhai a gynorthwywyd gan brosiectau a oedd yn cefnogi dilyniant yn gweithio mewn rôl wahanol o gymharu â'r un cyn ESF. Roedd bron i 3 o bob 10 (27%) yn gweithio i gyflogwr gwahanol ar ôl cymryd rhan yn ESF.

Dywedodd pum deg pedwar o gyfranogwyr ESF a gynorthwywyd gan brosiectau a oedd yn cefnogi dilyniant naill ai bod y cwrs wedi eu helpu i gael eu swydd bresennol (45%) neu eu bod wedi cael eu swydd bresennol yn uniongyrchol oherwydd y cwrs (9%). Dywedodd y 46% arall nad oedd eu cwrs 'yn gwneud unrhyw wahaniaeth'.

Dywedodd dros draean (36%) fod y swyddi a oedd ganddynt 6 mis ar ôl cwblhau ESF yn gofyn am lefel uwch o sgil a chymhwysedd na'r hyn y disgwylid iddynt ei wneud yn eu swydd cyn ESF. Dywedodd chwarter (25%) yn yr un modd eu bod mewn rôl a oedd yn gofyn am lefel uwch o gymhwyster a dywedodd 41% fod eu lefelau cyfrifoldeb wedi cynyddu.

Effaith y pandemig

Ymhlith y rhai nad oeddent mewn gwaith cyn ESF ac a gafodd gymorth gan weithrediadau a oedd yn cefnogi cyfranogiad, dywedodd bron i 6 o bob 10 (57%) nad oedd y pandemig COVID wedi effeithio ar eu dilyniant dilynol. Fodd bynnag, dywedodd dros draean (38%) fod y pandemig wedi gwneud pethau'n anoddach. Priodolodd hanner (50%) y grŵp hwn eu hymateb i amodau anoddach yn y farchnad lafur.

Ymhlith y rhai a oedd yn flaenorol mewn gwaith ac yn cael eu cynorthwyo gan weithrediadau a oedd yn cefnogi dilyniant, dywedodd dros 7 o bob 10 (71%) nad oedd y pandemig COVID wedi dylanwadu ar eu cynnydd dilynol. Fodd bynnag, dywedodd dros un rhan o bump (21%) fod y pandemig wedi gwneud pethau'n anoddach. Ymhlith y grŵp hwn, dywedodd 24% fod y pandemig wedi effeithio ar y diwydiant yr oeddent am weithio ynddo a dywedodd 22% fod llai o swyddi ar gael.

Casgliadau a argymhellion

 Mae'r dadansoddiad hwn o ddata Arolwg Cyfranogwyr ESF wedi dangos bod yr ymyriadau hyn wedi'u targedu at y rhai a brofodd anfantais gymharol yn y farchnad lafur. Fel y cyfryw, cyfrannodd y rhaglenni hyn at fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol a hyrwyddo cyfle cyfartal, a thrwy hynny fynd i’r afael â’r ddwy egwyddor a oedd yn llywio gweithrediad Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol a’r nod o “Gymru fwy cyfartal” fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd bron i dri chwarter y cyfranogwyr eu bod naill ai wedi ennill cymhwyster neu wedi ennill unedau/credydau tuag at gymhwyster a bod y rhain yn gysylltiedig â lefelau cyrhaeddiad cynyddol ymhlith cyfranogwyr. Felly cefnogodd gweithrediadau a ariannwyd gan ESF nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy ffyniannus a chydnerth drwy ddatblygu poblogaeth fwy addysgedig sy’n gallu addasu yn wyneb anghenion sgiliau newidiol.

Fodd bynnag, nododd Arolygon Cyfranogwyr ESF hefyd na ellir mynd i'r afael â'r holl rwystrau a wynebir gan gyfranogwyr wrth ddod o hyd i waith ar lefel yr unigolyn. Dywedodd cyfranogwyr ESF fod diffygion yn y farchnad lafur yn cyfrannu at ddiffyg cyfle. Er y gall Rhaglenni ESF helpu i wella gallu cyfranogwyr, roedd y cyfranogwyr yn aml yn gweld y cyfleoedd a ddarperir gan farchnadoedd llafur lleol yn gyfyngedig.

Roedd meysydd hefyd lle y gellir dadlau nad oedd rhaglenni ESF wedi cael y cyfle i ddarparu cymorth i'r graddau y gellid bod wedi'i ddisgwyl. Roedd yr iaith Gymraeg yn allweddol yn hyn o beth. Er ei bod yn ymddangos bod y ddarpariaeth o gymorth yn darparu ar gyfer lefelau isel o siaradwyr Cymraeg ymhlith Cyfranogwyr ESF, mae angen ymchwil pellach i ddeall pam fod cyn lleied o bobl yn ymgysylltu â’r rhaglenni hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • A yw’r diffyg ymgysylltu drwy gyfrwng y Gymraeg yn adlewyrchu’r lefelau is o siaradwyr Cymraeg ymhlith grwpiau difreintiedig neu a oes amharodrwydd yn y grwpiau hyn i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg hefyd?

Er bod Rhaglenni ESF wedi'u targedu at y rhai sy'n wynebu anfanteision sylweddol yn y farchnad lafur, cyfeiriodd y dadansoddiad at yr heriau o gefnogi'r grwpiau hyn. Roedd cyfraddau tynnu'n ôl yn gynnar o ddarpariaeth ESF yn uwch ymhlith y grwpiau hynny sy'n wynebu mwy o anawsterau.

  • Er nad yw tynnu'n ôl o ESF o reidrwydd yn ganlyniad gwael (efallai bod cyfranogwyr wedi gadael yn gynnar i ddechrau gweithio), dylai ymchwil yn y dyfodol archwilio'r rhesymau dros dynnu'n ôl yn gynnar.

Mae effaith amcangyfrifedig prosiectau ESF ar ganlyniadau cyflogaeth yn gyson â'r rhai sy'n deillio o werthusiad o raglenni'r farchnad lafur. Fodd bynnag, nid oedd effaith ESF yn unffurf ar draws y boblogaeth ac amcangyfrifwyd bod enillion cyflogaeth yn llai ymhlith grwpiau difreintiedig. Gall hyn awgrymu anawsterau wrth gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf neu gymhlethdod yr heriau ymhlith y rhai sy'n ceisio cymorth.

Yn olaf, mae anawsterau cynyddol yn gysylltiedig â chynnal arolygon yn sgil y gostyngiad mewn cyfraddau ymateb ers y pandemig. Mae'r anawsterau hyn wedi arwain SYG i drawsnewid y ffordd y mae'n cynnal yr Arolwg o'r Llafurlu, y mae'r APS yn deillio'n rhannol ohono. Efallai y bydd y newidiadau hyn i'r APS yn ei gwneud hi'n anoddach yn y dyfodol i ddata ESF ac APS gael eu cyfuno i archwilio effaith cynlluniau o'r fath yn seiliedig ar y dulliau Asesu Effaith Gwrthffeithiol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn.

Yn wyneb yr anawsterau hyn ac anawsterau eraill wrth gynnal arolygon ymhlith grwpiau anodd eu cyrraedd megis cyfranogwyr ESF, dylai gwerthusiadau yn y dyfodol o raglenni’r farchnad lafur yng Nghymru ddibynnu mwy ar y defnydd o ddata gweinyddol, fel yr hyn a gedwir gan yr Adran ar gyfer Gwaith a Phensiynau.
 

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Lorna Adams, Rhys Davies, Guido Miani, Sam Selner

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Richard Self
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 38/2024
ISBN digidol 978-1-83625-009-8

Image
GSR logo